top of page

Yn galw cyfansoddwyr!​

   
Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM:
Portiwgal
30 Mai – 7 Mehefin 2025

Mae Tŷ Cerdd – Adran Cymru swyddogol International Society for Contemporary Music (ISCM) – yn gwahodd cyfansoddwyr Cymreig/sy’n byw yng Nghymru i gyflwyno eu sgorau i Ddiwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd (DCNB) Portiwgal (Lisbon/Porto) 2025.

Thema’r WNMD eleni yw “Thirst for Change” a bydd y rheithgor yn arbennig o blaid gweithiau sy’n adlewyrchu neu’n cyfrannu at bwnc yr ŵyl.

         
Sioe arddangos ryngwladol flynyddol ar gyfer cerddoriaeth newydd yw
Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM – yn cynrychioli gwaith cyfoes o bedwar ban byd ac eleni fe’i cynhelir ym mis Mai ac Mehefin. Ceir 14 categori y gwahoddir cyflwyniadau ar eu cyfer i’w cyflwyno yn yr Ŵyl. Gallwch gyflwyno gweithiau drwy anfon fersiwn PDF o’r sgôr ynghyd â recordiad sain neu fideo o’r gwaith (os yw ar gael), neu ddogfennaeth sain/fideo os nad oes gan y gwaith sgôr ysgrifenedig.

         

Mae'r broses gyflwyno i Adran Gymraeg ISCM yn rhad ac am ddim a bydd panel Adran Cymru’r ISCM yn asesu’r cyflwyniadau gan roi gerbron chwech o weithiau fel y cyflwyniad swyddogol i’r ISCM. Fel Aelod Cyswllt ISCM, rhaid i'n cyflwyniad gwmpasu o leiaf pedwar o'r categorïau penodedig. Bydd un fan leiaf o’r chwech yma’n cael ei ddethol gan DCNB 2025 i’w berfformio.

   

Bydd y panel yn cynnwys Lynne Plowman (Cadeirydd Adran ISCM Cymru, cyfansoddwr), Robert Fokkens (cyfansoddwr), a Deborah Keyser (Tŷ Cerdd).

 

Sut i wneud cyflwyniad swyddogol drwy Adran Cymru ISCM:

Gweler isod am wybodaeth bellach am y gofynion, categorïau a’r canllawiau. Dylech eu darllen yn ofalus gan sicrhau bod eich cyflwyniad yn cyflawni’r gofynion ac yn cydymffurfio â’r wybodaeth am y categorïau a’r canllawiau.

Dylech gyflwyno’ch cais gyda’r holl ddogfennau cysylltiedig drwy ein ffurflen ar-lein isod. (Mae'r adnoddau yma ar gael yn Saesneg yn unig.)

Dylid nodi:
         

  • Dim ond un gwaith y caiff pob cyfansoddwr ei gyflwyno drwy naill ai cyflwyniad unigol neu gyflwyniad swyddogol.

  • Rhoddir blaenoriaeth i weithiau sy’n fyrrach na 10 munud o hyd ac eithrio lle y nodir yn benodol yn y disgrifiad o’r categori, ac a gyfansoddwyd ar ôl 2015, a rhoddir y flaenoriaeth uchaf i weithiau a gyfansoddwyd ar ôl 2020.

  • Ni fydd ceisiadau gan gyfansoddwyr y cafwyd eu gwaith wedi perfformio yn Niwrnodau Cerddoriaeth y Byd ISCM 2024 yn Ynysoedd y Faroe yn cael eu hystyried.
     

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 10:00, Dydd Gwener 5 Ebrill 2024

Nid ystyrir ceisiadau hwyr. Hysbysir pob ymgeisydd erbyn 24 Ebrill a yw ei waith wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd DCNB 2025 yn cyhoeddi’r gweithiau a ddetholir yn y man.
       

Am ymholiadau, cysylltwch â ni ar ymholiadau@tycerdd.org neu 029 2063 5640.

Cyflwyniad Unigol

Rhaid i Gyflwyniad Unigol gael ei gyflwyno gan gyfansoddwr annibynnol neu gynrychiolydd awdurdodedig y cyfansoddwr. Dylid cyflwyno cyflwyniadau trwy Ffurflen Cyflwyno Unigol ISCM 2025. Mae ffi mynediad o €55.00 yn berthnasol i Gyflwyniadau Unigol, yn daladwy ar adeg cyflwyno gan Paypal gan ddefnyddio'r ddolen a ddarperir ar wefan ISCM.

Nid yw cyflwyniadau unigol yn sicr o berfformiad. Mae lle yn yr ŵyl ar gyfer Cyflwyniadau Unigol yn gyfyngedig, ond byddwn yn ystyried yr holl gyflwyniadau ac yn perfformio'r rhai y gellir eu cynnwys.

Bydd ddolen ar gyfer cyflwyno'r ffurflen unigol yma pan fydd ISCM yn gwneud y system ymgeisio unigol yn fyw ym mis Chwefror.

Adran Cymru’r ISCM
Mae ISCM Cymru yn bodoli er mwyn hyrwyddo amcanion yr ISCM, yng Nghymru ac mewn cydweithrediad ag adrannau Prydain, Iwerddon, Yr Alban ac adrannau rhyngwladol eraill. Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes a chodi’i phroffil cyhoeddus drwy rwydweithio effeithiol yn fyd-eang, cyfathrebu a hwyluso gweithgareddau amlochrog rhwng yr aelodau. Ei chenhadaeth yw:

Codi proffil cerddoriaeth gyfoes drwy nerth torfol rhwydwaith byd-eang y Gymdeithas a chyfansoddiad ei haelodaeth.

Hyrwyddo amlygu, perfformio ac ymchwilio i gerddoriaeth gyfoes drwy fentrau gan ei haelodaeth, yn ogystal â chydweithredu â chyrff cysylltiedig.

Arddangos amrywiaeth cerddoriaeth gyfoes yn fyd-eang drwy Ŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd

     

Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd
Cyfarfod blynyddol i’r ISCM yw Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd a drefnir a’i ariannu yn unig gan wahanol adrannau bob blwyddyn, fel llwyfan ar gyfer cyfnewid cerddorol a sioe arddangos i gerddoriaeth gyfoes y byd, heb na rhagfarn na gogwydd o ran gwahanol fathau o fynegiant, arddulliau, genres neu gyfryngau cerddorol. Ei nod yw bod yn fan cyfarfod i sefydliadau, perfformwyr a chyfansoddwyr o gwmpas y byd. Mae
Diwrnodau Cerddoriaeth y Byd yn digwydd ar ddyddiau olynol yn y wlad lle y’u cynhelir a gellir eu trefnu ar unrhyw fformat sy’n gweddu i ddewisiadau artistig ac ymarferol y trefnydd yn unol â Statudau’r ISCM, gan adlewyrchu amrywiaeth cerddoriaeth gyfoes. Mae’r Ŵyl yn ymdrechu i gynrychioli holl aelodau dilys yr ISCM rywsut neu’i gilydd drwy weithgareddau ei rhaglenni, gan gynnwys perfformiadau, seminarau, arddangosfeydd a rhwydweithio.

bottom of page