top of page
CoDI Grange (new).png

Menter Celfyddydau ac Iechyd yn comisiynu carfan o artistiaid i wneud gosodiadau cerddoriaeth a sain bwrpasol ar gyfer y capel aml-ffydd yn Ysbyty Prifysgol Grange yn Llanfrechfa. Ariannwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn cydweithrediad â Studio Response.

Leona Jones
Sound of the Breeze,
Song of the Waves

  • SoundCloud
CoDI Grange 15 - Leona.jpg
CoDI Grange (new).png

Mae gwaith arbrofol Leona Jones yn seiliedig ar sain ac mae’n defnyddio ei recordiadau ei hun i greu seinluniau haniaethol fel digwyddiadau / perfformiadau / gosodweithiau safle-ymatebol sy’n amlygu corffolrwydd a chyd-destun. Mae’n rhoi ystyriaeth i sain yn ôl ei ddiffiniad ehangaf (gan gynnwys iaith lafar ac ysgrifenedig) a’i gysylltiadau symbiotig â gofod a symud. Mae cydweithio ar draws disgyblaethau’n ganolog i’w gwaith ac mae wedi gweithio â cherddorion, dawnswyr ac artistiaid gweledol. https://www.leonajones.co.uk/

Gwrandewch ar 'Sound of the Breeze, Song of the Waves'... 

Sound of the Breeze, Song of the Waves nodyn cyfansoddwr

Pobl sydd ar ganol y prosiect yma – yn y gofod amlffydd, yr ysbyty ac wrth gwrs, mewn unrhyw gymuned. Mae pobl yn amrywiol, mae ganddyn nhw lawer o sgiliau a diddordebau ac o’r cychwyn cyntaf, roeddwn i am ddod â phobl at ei gilydd na fyddai fel arfer yn cwrdd. I ddechrau, roeddwn i’n gobeithio cynnal gweithdai ymarferol i gerddorion gwirfoddol i greu ymateb seiliedig ar sain a sensitif i’r gofod dan sylw. Wrth gwrs, dim ond un o’r syniadau oedd gweithdai ymarferol y bu’n rhaid iddyn nhw newid oherwydd y pandemig cynyddol.

Gan fod y gofod amlffydd i’r prosiect yn dal i gael ei adeiladu pan ddechreuodd y gwaith, mi drefnais ymweliad â’r capel yn Ysbyty Brenhinol Gwent a chwrdd â chaplaniaid y bwrdd iechyd, rhywbeth a’m helpodd wrth ddychmygu ymateb, ond mi sylweddolais hefyd eu bod i gyd â lleisiau llafar hyfryd. Gofynnais gael gwneud recordiadau sain o bob un ohonyn nhw’n darllen darn ysgrifenedig oedd yn golygu rhywbeth iddyn nhw. Y canlyniad oedd detholiad amrywiol o farddoniaeth a rhyddiaith, seciwlar a chrefyddol, yn y Saesneg, Arabeg a Bengaleg a fyddai’n cael ei ddefnyddio wrth weithio gyda’r cerddorion. Roedd angen i mi gael hyd i gerddorion oedd yn barod i fentro, yn fodlon rhoi cynnig ar rywbeth newydd, i fod yn rhan o broses lle na fyddai neb yn sicr ynglÅ·n â’r diwedd. Ro’n i hefyd yn chwilio am bobl oedd yn empathig iawn ac yn deall sut gallai eu cerddoriaeth ymestyn allan i bobl. Ni fyddai unrhyw sgôr ysgrifenedig, dim byd yn gywir nac yn anghywir, oherwydd y byddwn i’n gofyn iddynt fyrfyfyrio. Mi wnes i ganolbwyntio ar offerynnau oedd yn defnyddio’r anadl oherwydd bod tarddiad y gair ‘inspire’ yn Saesneg yr un fath â ‘breath’. I gael hyd i’r cerddorion mi gysylltais â cherddorfeydd cymunedol a chanolfannau celfyddydau yng Ngwent ac ni allasai’r grŵp a ddeilliodd o hyn –  pump o gerddorion yn chwarae saith offeryn rhyngddyn nhw – wedi bod yn well. Er ei bod yn amhosibl i ni gwrdd yn y cnawd, fe wnaethon nhw i gyd goleddu ethos y prosiect, gan weithio’n unigol heblaw am y cyfarfodydd Zoom.
Y canlyniad oedd amrywiaeth hardd o fyrfyfyrdodau a gafodd eu recordio ac mi wnes i eu golygu i greu’r seinlun.

Leona image 2.jpg

Mae’r darn yn canolbwyntio ar ddefnyddio
anadl mewn cerddoriaeth – llun gan Leona

Leona image 1.jpg

Mae recordiadau unigol yr offerynwyr chwyth
yn cael eu cymysgu a’u plethu – llun gan Leona

Mae gen i barch aruthrol at y bobl a roddodd o’u hamser a’u sgiliau i’r prosiect hwn. Roedd y caplaniaid yn hapus cymryd rhan yn gynnar iawn yn y prosiect, pan oeddwn i’n dal i fod yn ansicr pa rôl y gallai eu recordiadau ei chwarae ond yn teimlo’n reddfol mai un ddigon pwysig fyddai hi. Ymatebodd y cerddorion i gymaint o heriau - roedd y rhan fwyaf heb fyrfyfyrio o’r blaen gan gyfaddef eu bod yn nerfus amdano. Fodd bynnag, aethon nhw i gyd yn eu blaenau i weithio heb nodiant, rhai ohonyn nhw’n creu sgorau graffig hyd yn oed ar gyfer eu creadigaethau eu hunain, gan ganfod y gerddoriaeth yn y gair llafar a synau yn yr amgylchedd ac yn dangos eu hempathi â sefyllfaoedd y bobl a fydd yn defnyddio’r gofod. Mae hi wedi bod yn siwrnai, yn dipyn o gamp i bawb a ymgymerodd â hi ac rydyn ni i gyd yn siŵr ein bod wedi ennill rhywbeth arbennig iawn drwyddo.

Y cerddorion gwirfoddol yw:   Rod Paton, Clare Parry-Jones, Mandy Leung, Peter Geraghty & Abby Charles.

Siaradodd Leona â ni am ei dull o arwain byrfyfyrwyr a phwysigrwydd ymgysylltu â'r gwrandäwr.

Grange footer logos.png
Grange footer logos.png
Grange footer logos.png
bottom of page