Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
Paul Mealor 1975
Mae Paul Mealor wedi ei ddisgrifio yn “un o gyfansoddwyr pwysicaf cerddoriaeth gorawl Gymreig ers William Mathias” (New York Times, 2001) ac mae ei gerddoriaeth â “hol rhywbeth sydd tu allan iddo sydd yn brydferth o ran gofod a thirwedd.. mae’n bwrw golau ar ein gorffennol a dyfodol” (The Guardian, 2011).
Wedi ei eni yn Llanelwy yn 1975, astudiodd Paul Mealor gyfansoddi pan yn fachgen gyda William Mathias ac yn hwyrach gyda John Pickard, ac ym Mhrifysgol Efrog gyda Nicola LeFanu ac yng Nghopenhagen gyda Hans Abrahamsen a Per Nørgård. Mae ei gerddoriaeth wedi ei gomisiynu a pherfformio yn nifer o wyliau a gan nifer o gerddorfeydd a chorau ac wedi ei ddarlledu ar deledu a radio ar draws y byd. Ers Ionawr 2003 mae wedi dysgu yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Aberdeen lle y mae’n Athro Cyfansoddi.
Hyrddiwyd Paul i enwogrwydd rhyngwladol ym mis Ebrill 2011, pan glywodd 2.5 biliwn o bobl (y gynulleidfa fwyaf yn hanes darlledu) ei fotet, Ubi caritas yn cael ei berfformio yng Ngwasanaeth Briodas
Frenhinol Ei Mawrhydi’r Tywysog William a Catherine Middleton yn Abaty San Steffan. Wedi hynny aeth i frig y siartiau sengl clasurol yn yr UDA, DU, Awstralia, Ffrainc a Seland Newydd.
Yng Ngorffennaf 2011, arwyddodd Paul Mealor gytundeb gyda Decca Recordsac arwyddo cytundeb cyhoeddi gyda Novello & Co. Treuliodd ei albwm cyntaf gyda Decca, A Tender Light – casgliad o anthemau cysegr wedi eu recordio gan Tenebrae a’r Royal Philharmonic Orchestra – chwe wythnos yn rhif 1 yn y Siartiau Clasur Arbenigol. Ar hyn o bryd mae’n paratoi ei ail albwm i Decca ac wedi cyfrannu gweithiau newydd i nifer o albymau eraill Decca, gan gynnwys ei gan In My Dreams i seren yr X Factor Jonjo Kerr; De Profundis i Gôr Siambr St Petersburg ar yr albwm Tranquillity (a aeth i rif 1 yn Siartiau Clasurol ym mis Awst 2012), a’r gosodiad cerddorol cyntaf erioed o weddi Francis Sant, You Are The Holy Lord God i albwm cyntaf FriarAlessandro.
Ysgrifennodd Paul nifer o weithiau i Jiwbilî Diemwnt EM Y Frenhines Elizabeth II ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau ei symffoni gyntaf, Passiontide – gwaith mawr ar gyfer soprano, bariton, côr a cherddorfa a dderbyniodd ei berfformiad cyntaf yng nghyngerdd penblwydd y cyfansoddwr yn ddeugain ym mis Tachwedd 2015, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nifer oddarnau i gorws a cherddorfa.

Paul Mealor has been described as ‘the most important composer to have emerged in Welsh choral music since William Mathias‘ (New York Times, 2001) and his music is ‘marked by somethin