top of page

Cyhoeddi prosiectau cerddoriaeth draddodiadol newydd ar lawr gwlad drwy Gronfa Tradd   

  • 1 day ago
  • 3 min read
Canolfan Gerdd William Mathias
Canolfan Gerdd William Mathias

Mae'r prosiectau cyntaf i dderbyn arian gan Gronfa Tradd wedi'u cyhoeddi.

Mae 17 o wobrau wedi'u dyrannu i unigolion a sefydliadau, gan eu cefnogi nhw i droi syniadau yn weithgarwch a fydd yn helpu i ddatblygu cerddoriaeth draddodiadol mewn cymunedau ledled Cymru. 

 

Mae Cronfa Tradd yn gynllun Tŷ Cerdd, a weithredir mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru. Daw'r cyllid fel ymateb uniongyrchol i'r Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol, lle bu canfyddiad clir bod angen am ddatblygu cerddoriaeth draddodiadol ar lawr gwlad.

 

Mae'r 17 prosiect yn cynrychioli sbectrwm eang o weithgareddau a thraddodiadau sy'n digwydd ledled Cymru, gan gynnwys:

  • Mae Calon Afan CIC [ML1] yn datblygu gweithgarwch cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ym Mhort Talbot a Chwm Afan drwy weithdai, sesiynau a gwaith gydag artistiaid cerddoriaeth draddodiadol profiadol.


  • Mae Patrick Rimes, Ayoub Boukhalfa ac Awen Blandford yn artistiaid cerddoriaeth draddodiadol sefydledig sy’n arwain prosiectau yng Ngwynedd, Caerdydd, Wrecsam, Arberth, y Drenewydd a’r Wyddgrug. Maent yn archwilio cerddoriaeth draddodiadol Cymru, traddodiadau drymio Gogledd Affrica a chreu cerddoriaeth gymunedol.


  • Bydd Youth4Change Cymru a Chôr WOW Wales One World yn creu

    cyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol trwy brosiectau sydd wedi'u gwreiddio yn Igbo a thraddodiadau cerddoriaeth y byd eraill. Byddant yn dod â chyfranogwyr yng Nghaerdydd ac Abertawe at ei gilydd drwy greu cerddoriaeth dan arweiniad y gymuned.


  • Mae Menter Iaith Maldwyn, Menter Iaith Abertawe a Menter Iaith Conwy yn arwain prosiectau a fydd yn cryfhau gweithgarwch cerddoriaeth draddodiadol ar draws Gogledd Powys, Abertawe a Chonwy drwy raglenni cymunedol Cymraeg eu hiaith, gwaith mewn ysgolion, clybiau gwerin a sesiynau anffurfiol.


  • Bydd Caroline Murphy yn dod â cherddoriaeth draddodiadol i gynulleidfaoedd newydd drwy greu Labordy Trad Llangollen fel rhan o ŵyl ymylol Llangollen.


  • Mae Angharad Owen a Chanolfan Gerdd William Mathias yn ehangu mynediad i gerddoriaeth draddodiadol drwy weithgareddau sy'n canolbwyntio ar ieuenctid yn Llanrug, Gwynedd ac Ynys Môn, gan greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc ymgysylltu â cherddoriaeth draddodiadol.

 

Ochr yn ochr â chymorth ariannol, bydd y 17 prosiect yn cymryd rhan mewn rhaglen o ddysgu ar y cyd drwy gydol y flwyddyn. Bydd cyfranogwyr yn cwrdd yn rheolaidd i drafod eu gwaith, rhannu profiadau a myfyrio ar yr hyn y maent yn ei ddysgu wrth i'w prosiectau ddatblygu.

 

Mae'r sesiynau rhannu yn rhan ganolog o'r rhaglen, gan greu cysylltiadau rhwng prosiectau a allai fel arall weithio'n annibynnol, a rhoi lle i gyfnewid syniadau, gwybodaeth a phrofiad.


Youth 4 Change
Youth4Change

Dywedodd Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, Catryn Ramasut:

"Rydyn ni'n siarad yn aml am wytnwch a chysylltiad yn y sector, ond prosiectau fel y rhain sy'n ei adeiladu mewn gwirionedd - gweithdai mewn cymunedau, pobl ifanc yn darganfod eu traddodiadau cerddorol, cynalyddion traddodiad yn trosglwyddo'r hyn maen nhw'n ei wybod. Fe wnaeth yr Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol achos clir dros y math yma o fuddsoddiad, ac mae gweld y buddsoddiad yn cael ei weithredu - o Bort Talbot i Langollen, o glybiau gwerin Cymreig i ddrymio Gogledd Affrica - yn wirioneddol gyffrous. Dyma beth yw sector cerddoriaeth draddodiadol ffyniannus, cysylltiedig."

 

Dywedodd Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth[ML1]  Draddodiadol Tŷ Cerdd, Jordan Price Williams:

"Mae wedi bod yn wych gweld yr ystod o syniadau a ddaeth i law trwy Gronfa Tradd. Mae'r prosiectau a ddetholwyd yn adlewyrchu'r amrywiaeth o waith sy'n digwydd ledled Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y byddant yn datblygu dros y misoedd nesaf. Rhan allweddol o'r rhaglen yw dod â chyfranogwyr at ei gilydd i rannu syniadau a phrofiadau, ac rwy'n gyffrous gweld beth a ddaw o'r sgyrsiau hynny."

 

Gyda'i gilydd maent yn cynrychioli cipolwg o'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd ar draws sîn gerddoriaeth draddodiadol Cymru, a'r gwahanol ffyrdd y mae cerddorion, trefnwyr a chymunedau yn ymwneud â cherddoriaeth draddodiadol heddiw.

 

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Gronfa Tradd, yma.

Comments


bottom of page