top of page
Tu hwnt i ffiniau square_edited.jpg
Drake Music logo white.png

Ar y 3ydd o Dachwedd bydd Neuadd Dora Stoutzker yn cynnal cyngerdd unigryw i ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth cyfansoddwyr anabl o bob rhan o Brydain, cyfansoddwyr sydd wrthi’n gwneud enwau cenedlaethol a rhyngwladol iddynt eu hunain.

 

Mae’r bianyddes ragorol Siwan Rhys wedi’i disgrifio yn “ddehonglydd delfrydol, yn fythol-ffres yn ei chyflwyniad” (International Piano Magazine), ac mae hi ers tro wedi hyrwyddo cyfansoddwyr cyfoes ac wedi dangos ei hyblygrwydd a’i hymroddiad i arallgyfeirio a hybu cyfansoddwyr o gefndiroedd amrywiol nad ydynt wedi’u gwerthfawrogi’n llawn. 
 

Mae’r chwe chyfansoddwr sy’n cael eu chwarae ganddi wedi dod i gerddoriaeth drwy lwybrau gwahanol a dangosir yr amrywiaeth o estheteg a syniadau sydd wedi eu swyno a’u hysbrydoli. Mae’r gyfansoddwr o Gymru, Sarah Lianne Lewis, yn ysgrifennu cerddoriaeth feiddgar a llawn dychymyg sy’n pylu’r ffiniau rhwng sain acwstig ac electronig, gan archwilio smorgasbord o themâu, lliwiau, a gweadau sy’n gwneud ei cherddoriaeth yn hudolus ac yn ein synnu’n gyson. Mae gwaith newydd Sarah Lianne Lewis, sef ‘letting the light in’ yn llawn lliwiau hudolus ac yn ei ddull melodaidd yn hynod gyfarwydd ac yn hyfryd o ddieithr ar yr un pryd.
 
Sonia Allori yw un o leisiau mwyaf unigryw’r Alban, ac mae’n tynnu ar amrywiaeth eang o ddylanwadau gan lwyddo i ddod ag eiliadau o ddidwylledd dwys neu ffraethineb a hiwmor. Mae cerddoriaeth Sonia yn aml yn ymgorffori elfennau acwstig ac electronig, gan gynnwys offerynnau digidol fel iPads neu’r Offeryn Chwyth Electronig (EWI). Mae ‘Random eddies (in the space time continuum)’ yn dychmygu cyfres o deithiau sy’n digwydd yn y meddwl tra’n ddiogel yn eich ystafell fyw eich hun. Daw’r teithiau yn fyw trwy ryngweithio rhwng piano, offeryn chwyth electronig, seinwedd ac ambell sampl sain o wefan asiantaeth ofod NASA!

 
Mae’r gyfansoddwr a’r berfformwr Jo-Anne Cox wedi gwneud enw iddi’i hun drwy ei harchwiliad unigryw o’i hofferyn (y soddgrwth), a thrwy gydweithio unigryw mae’n cynhyrchu perfformiadau hudolus a difyr sy’n swyno cynulleidfaoedd. Mae ei meddwl chwilfrydig i’w weld yn glir yn ei hagwedd at gyfansoddi a pherfformio, ac yn ei hysbryd holistig bositif wrth greu cerddoriaeth. Wedi’i ysbrydoli gan dirwedd Cymru, mae ‘Galwad y Mynydd’ yn waith archwiliadol hyfryd sy’n llawn pŵer a harddwch naturiol cignoeth.
 
Mae leon clowes
 yn artist creadigol hynod ddiddorol a meddylgar, sy’n tynnu ar ei brofiadau ei hun ac yn ymgysylltu’n ddyneiddiol ag eraill mewn modd sy’n gwneud ei lais cerddorol yn hoffus a chadarnhaol i’r clustiau. Mae ‘Anni, Gini, Joni’ yn gyfeiriad twymgalon at dri ffigwr a luniodd ddatblygiad cerddorol leon, a’i dwf personol fel unigolyn. Bydd y gwrandawyr yn siŵr o ymdeimlo’n ddwfn â dyneiddiaeth hyfryd y gweithiau.
 
Artist amlddisgyblaethol yw Elinor Rowlands
sy’n defnyddio amrywiaeth o ddeunydd a chreadigaethau i gael gwaith sy’n gyfareddol a phwerus, beth bynnag fo’r cyfrwng. Mae archwilio profiad byw a defnydd unigryw o wead a lliw yn gwneud Elinor yn llais artistig hynod ddiddorol. Yn ‘Secrets in the Centrefold’ mae Elinor yn synfyfyrio ac yn archwilio digwyddiad go iawn a ddigwyddodd yn Norwy lle diflannodd pentref cyfan o ganlyniad i ddaeargryn. Mae’r gwaith yn archwilio’r teimladau o golled a phrosesu emosiynol yn sgil digwyddiad mor enfawr ac eto un sy’n ddigon anhysbys yn ein hanes.
 
Mae gan Sorcha Pringle agwedd gyfareddol a chwareus at ei cherddoriaeth sy’n adlewyrchu ei bywyd mewn modd llawn dychymyg sy’n procio’r meddwl. Mae syniadau Sorcha yn graff ac yn dangos cyfansoddwr sydd â chyfoeth o addewid creadigol. Mae ffraethineb a dychymyg Sorcha yn cael eu harddangos yn llawn yn ‘Diminished Credibility’ drwy ddisgwrs hynod ddiddorol rhwng llais testun-i-leferydd a’r piano.
 
Mae’r datganiad yn bosibl oherwydd cefnogaeth cronfa 'Beyond Borders' gan Sefydliad PRS, sydd wedi dwyn ynghyd y sefydliadau canlynol i weithio gyda’r cyfansoddwyr anabl rhagorol hyn: Drake Music Scotland, TÅ· Cerdd/Canolfan Gerdd Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac NMC Recordings. Bydd y perfformiad cyntaf yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dilyn tridiau o recordio yn stiwdio TÅ· Cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a daw’r prosiect i ben pan fydd N
MC Recordings yn rhyddhau albwm gan gyfansoddwyr anabl yn 2024.

​

â–¶ gwybodaeth a thocynnau

​​​

bottom of page