Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi comisiynu Adolygiad o’r sector Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru. Mae ansawdd ein hartistiaid yn eithriadol o gryf ac mae cerddoriaeth draddodiadol wedi’i gwreiddio mewn cymunedau ledled Cymru, gyda chysylltiad dwfn â iaith, diwylliant a’r wlad. Yn gynyddol mae ein cerddoriaeth a’n hartistiaid traddodiadol yn denu sylw rhyngwladol, ac mae ymgysylltu â cherddoriaeth yn helpu i gefnogi lles a datblygiad cymunedol. Mae’r adolygiad hwn yn rhoi cyfle amserol i edrych ar y ffordd orau i CCC gefnogi’r sector a sut y gall y sefydliadau sy’n weithredol yn y sector – ar draws pob lefel – weithio’n fwy cydlynol ar ran ein cerddorion, win cymunedau a’n cynulleidfaoedd.
Mae ein cenedl ni’n genedl o gyfoeth ac amrywiaeth ddiwylliannol gynyddol, ac felly, ochr yn ochr â cherddoriaeth draddodiadol Cymru, bydd yr adolygiad hwn yn mynd ati’n frwd i groesawu ehangder cerddoriaeth draddodiadol YNG Nghymru, felly rydym yn dymuno annog ymarferwyr, athrawon a hwyluswyr o bob rhan o’n cymunedau amrywiol i gynnig eu syniadau a siarad â ni am eu hanghenion penodol. Yn yr un modd, rydym yn deall yn iawn bod yr hen ac ifanc yn rhan o’r sector hwn p’un a ydynt yn mwynhau gwrando ar nosweithiau gwerin lleol neu berfformio ynddynt, yn dysgu offeryn, yn gerddorion medrus sy’n awyddus i adeiladu gyrfa mewn cerddoriaeth werin, neu, yn wir, yn gerddorion proffesiynol ag awydd adeiladu cysylltiadau rhyngwladol a theithio. Ac mae hwyluswyr pob un o'r cyfnodau hyn o gyswllt: lleoliadau, hyrwyddwyr, athrawon, gwyliau, llyfrgelloedd cerddoriaeth, cerddoriaeth draddodiadol a sefydliadau diwylliannol yn rhan bwysig o’r ecosystem hefyd. Rydym eisiau clywed gennych i gyd, a thros y misoedd nesaf byddwn yn estyn gwahoddiad i chi roi eich barn mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys arolwg ar-lein a chyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru a rhai sesiynau ar-lein hefyd.
Mae Angharad Wynne wedi’i phenodi’n Gomisiynydd ar gyfer yr adolygiad ac mae TÅ· Cerdd wedi cael y dasg o reoli’r broses. Mae gan y tîm hwn hanes rhagorol o weithio'n ymgynghorol ar draws sectorau cerddoriaeth Cymru. Antwn Owen-Hicks, sydd â chyfoeth o brofiad personol a phroffesiynol o fewn y sector, fydd y rheolwr prosiect arweiniol ar ran TÅ· Cerdd. Bydd tîm Trac Cymru hefyd yn cynnig eu harbenigedd, profiad a rhwydweithiau. Gyda’n gilydd, edrychwn ymlaen at weithio gyda chi ac eraill ar draws y sector i gyflwyno proses drylwyr a chydweithredol a fydd yn caniatáu ichi gynnig eich barn a rhannu pryderon a syniadau ar gyfer dyfodol y sector pwysig hwn.
Ar ôl cwblhau’r broses ymgynghori, byddwn yn cyfuno’r canfyddiadau ac ymchwil desg sy’n archwilio strwythurau a strategaethau llwyddiannus a ddefnyddir gan wledydd eraill i gefnogi eu sectorau cerddoriaeth draddodiadol. Bydd hyn wedyn yn arwain at adroddiad o ganfyddiadau a chyfres o argymhellion ymarferol a fydd yn cael eu cyflwyno i Gyngor CCC yn gynnar yn 2025.
Byddem yn ddiolchgar iawn am eich amser a’ch ymgysylltiad â’r broses hon fel y gallwn gydweithio i wneud y gorau o’r cyfle hwn i ailystyried ac adolygu’r ffordd orau o gefnogi sector cerddoriaeth draddodiadol Cymru i ffynnu.
Os hoffech gynnig eich barn a’ch syniadau ynglÅ·n a’r sector cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, llenwch y ffurflen isod a cewch eich ychwanegu at ein cronfa ddata ar gyfer cyfathrebu.
Rhai nodiadau ychwanegol a chefndir a allai fod o ddiddordeb i chi:
▶ Rhagor o wybodaeth am yr adolygiad​
â–¶ Manylion yr Adolygiad Buddsoddi (Mae’r ymyriadau strategol arfaethedig i’w gweld ar dudalen 46.)
​
Ymholiadau
Ebostiwch ymholiadau@tycerdd.org gyda'ch chwestiynau.
​
​