top of page

Bwrdd Rheolaeth TÅ· Cerdd

Harriet Wybor

​

Rachel Ford-Evas

Harriet Wybor (cyd-gadeirydd)

Mae Harriet wedi bod yn Ymddiriedolwr TÅ· Cerdd ers 2019, gan ddod yn Gyd-Gadeirydd ddiwedd 2024. Ers dros 15 mlynedd, mae hi wedi gweithio’n ymroddedig i gefnogi cyfansoddwyr a pherfformwyr, a hyrwyddo cerddoriaeth newydd.

​

Harriet yw Rheolwr Cyffredinol y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, lle mae ei gwaith yn cynnwys rheoli partneriaethau, comisiynu, rheoli rhaglenni a rhoi grantiau i gerddorion, codi arian, a chyd-gynhyrchu ystod o sgyrsiau a digwyddiadau gan gynnwys gwobrau blaenllaw’r RPS. Cyn hynny bu’n gweithio ym maes cyhoeddi cerddoriaeth, rheoli hawliau a datblygu artistiaid yn Wise Music Group, Manners McDade, PRS for Music, ac fel Pennaeth Datblygu Busnes yn yr adran gerddoriaeth yn Oxford University Press, lle cafodd ei hethol hefyd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Cyhoeddwyr Cerddoriaeth.

​

Mae Harriet hefyd yn aelod o’r Panel Ymgynghorol ar gyfer Music Masters. Astudiodd am MA mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Durham ac yna LLM mewn cyfraith eiddo deallusol ym Mhrifysgol Caeredin. Dychwelodd i Ysgol Fusnes Prifysgol Durham i astudio’n rhan-amser rhwng 2017 a 2019 ar gyfer MBA, gan ganolbwyntio ar strategaeth mudiadau dielw a datblygiad sefydliadol.

 

Magwyd Harriet yn Swydd Efrog ac mae bellach yn byw yn Suffolk ac yn aml i’w chanfod yn ei neuadd gyngerdd leol. Mae hi hefyd yn canu gydag Albion a Chôr Siambr Britten Pears.

 

Rachel Ford-Evans (cyd-gadeirydd)

Mae Rachel yn dod ag arbenigedd cyfreithiol ac Adnoddau Dynol i’r Bwrdd trwy ei gwaith fel cyfreithiwr cyflogaeth. Ymunodd â’r Bwrdd yn 2021 ac fe’i penodwyd yn Gyd-Gadeirydd ochr yn ochr â Harriet Wybor ym mis Rhagfyr 2024.

​

Mae Rachel yn gyfreithwraig yn Darwin Gray LLP, sef cwmni cyfreithiol masnachol wedi’i leoli yng Nghaerdydd a Bangor, a hithau wedi ymuno â’r cwmni fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yn 2014 ar ôl graddio o Gaergrawnt a Phrifysgol Caerdydd. Mae hi’n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth ac mae wedi datblygu angerdd ac arbenigedd penodol mewn cydraddoldeb a gwahaniaethu, gan gynghori a chynrychioli sefydliadau mewn ystod o sectorau ar y materion hyn yn rheolaidd. Mae hi hefyd yn hyfforddi cyflogwyr, rheolwyr a thimau AD ar bynciau fel cydraddoldeb, amrywiaeth ac atal aflonyddu rhywiol, yn ogystal â materion eraill yn amrywio o ddiogelu data i gynnal ymchwiliadau yn y gweithle. Mae hi’n rheolaidd yn cynghori elusennau a sefydliadau eraill y trydydd sector ar arfer gorau mewn cyfraith cyflogaeth, adnoddau dynol a llywodraethu.

​

Yn ogystal â chynghori a chynrychioli cleientiaid sy’n gyflogwyr, mae Rachel hefyd mewn Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn sefyll dros weithwyr sydd wedi cael eu trin yn annheg yn y gwaith.

 

Daw Rachel o Benarth a mynychodd Ysgol Stanwell, lle datblygodd ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth.​

Gareth Churchill

Gareth Churchill

Gareth is a composer and collaborative artist based in Cardiff. As someone who identifies as disabled, his musical voice is deeply rooted in his personal, lived experiences of the mechanical interacting with the organic, and his artistic point-of-view, as the embodiment of these experiences, is both highly personal and unique.

​

His work makes a feature of collaboration, with the intention of empowering communities and individuals to give musical voice and artistic expression to their lived experiences. This reflects an ambition to create poignant, truly contemporary works, capturing the here and now and preserving sonic moments in time.

Claire Foster

Claire Foster

Mae Claire yn arbenigwr ar amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, ac yn frwd i wneud pethau’n well. Ar hyn o bryd mae Claire yn gweithio fel arolygydd gofal iechyd, ac mae ganddi 20 mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddol yn arbenigo mewn iechyd meddwl a chydraddoldeb rhyw. Mae hi wedi darparu gwasanaeth ymgynghori ar amrywiaeth a chynhwysiant i sefydliadau rhyngwladol ac wedi gweithio gyda llawer o fusnesau yn y Deyrnas Unedig i hyrwyddo mentrau lles ac iechyd meddwl ar gyfer eu staff.

​

Mae Claire yn aelod unwaith eto o fand pres, ar ôl bwlch o chwarter canrif. Ar ôl dysgu’r tiwba yn yr ysgol, rhoddodd y gorau i chwarae yn 16 oed ar ôl cyrraedd uchelfannau gradd 4. Rhyw 25 mlynedd yn ddiweddarach, ymunodd Claire â band pres Cymunedol Melin Gruffydd ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Mae hi wrth ei bodd yn chwarae carolau Nadolig mewn archfarchnad ac yn diddanu’r cyhoedd o fandstand yn y parc yn ystod misoedd yr haf. Ar ôl cael profiad personol o sylweddoli pa mor fanteisiol i iechyd meddwl a lles yw chwarae cerddoriaeth mewn ensemble ar lefel gymunedol, mae’n awyddus i agor cyfleoedd i lawer rhagor o bobl a sicrhau bod cerddoriaeth gymunedol yn cael ei chlywed gan gynulleidfaoedd amrywiol ledled Cymru. Mae Claire yn aelod o bwyllgor band pres Melin Gruffydd ac yn rheolwr band Ieuenctid M3.

​

Mae Claire yn gadeirydd llywodraethwyr profiadol mewn ysgol leol a hefyd yn aelod o fwrdd elusen cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.

​

Amruta Gamrud

Amruta Garud

Mae Amruta Garud yn gantores, addysgwraig, awdures, cyfansoddwraig a chynhyrchydd cerddoriaeth glasurol Indiaidd. Mae hi’n adnabyddus am ei gwaith arloesol yn dod â Cherddoriaeth y Byd i gynulleidfaoedd ehangach ledled Cymru a thu hwnt. Yn wreiddiol o India, symudodd i’r DU yn 2010 ac ers hynny mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth drawsddiwylliannol, lles a chydweithio creadigol trwy gerddoriaeth.

​

A hithau wedi sefydlu Ayan Cymru ac yn gyfarwyddwr creadigol yno, mae Amruta wedi mynd ati’n frwd i guradu a chynnal ystod eang o brosiectau, digwyddiadau a pherfformiadau cerddoriaeth ryngddiwylliannol a gweithdai cyfranogol mewn ysgolion, colegau, lleoliadau gofal iechyd, canolfannau cymunedol, carchardai, lleoliadau celfyddydol, ynghyd â sawl gŵyl. Mae ei gwaith yn pontio arferion traddodiadol a chyfoes, gan gyfuno cerddoriaeth glasurol Indiaidd â dylanwadau Cymreig, Lladinaidd, rap, a jazz.

​

Mae Amruta wedi ymrwymo i ehangu mynediad i addysg gerddoriaeth ac mae wedi bod yn allweddol wrth sefydlu cyrsiau cerddoriaeth Indiaidd achrededig yng Nghymru. Mae ei pherfformiadau wedi cael eu cynnwys mewn digwyddiadau mawr gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Jazz Aberhonddu, a ThÅ·’r Cyffredin, lle dathlodd gysylltiadau diwylliannol Cymru-Indiaidd.

Mae hi’n ymddiriedolwr TÅ· Cerdd, ac felly mae Amruta yn dod â’i harbenigedd mewn cerddoriaeth ryngddiwylliannol, ymgysylltu cymunedol, ac ymarfer cynhwysol i gefnogi cenhadaeth y sefydliad i hyrwyddo cerddoriaeth ledled Cymru.

​

Christina Macaulay

Ymunodd Christina â bwrdd TÅ· Cerdd yn 2022 ac mae ganddi yrfa hir mewn darlledu teledu, gan arbenigo mewn Cerddoriaeth a'r Celfyddydau. Ymhlith ei chomisiynau mae Messiah Gareth Malone; Canwr y Byd Caerdydd; Eisteddfod Genedlaethol; Dance Passion Abertawe; Wales: Music Nation gyda Huw Stephens; Calan gyda Cherddorfa a Chorws Genedlaethol Cymreig y BBC; ac Other Voices Festival, yn ogystal â llawer o gomisiynau Ffeithiol eraill.

Gadawodd Christina BBC Cymru ym mis Mawrth 2025 ac ar hyn o bryd mae'n gweithio'n llawrydd fel cynhyrchydd gweithredol ac yn treulio amser yn gwneud cerddoriaeth amatur ac yn gweithio i gefnogi a hyrwyddo gwneud cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae hi hefyd wedi ymuno â bwrdd Arts Active sy'n hyrwyddo gwneud cerddoriaeth mewn cymunedau a Clera sy'n cefnogi cerddoriaeth werin Gymreig. Mae hi'n canu yn y Camerata Cymreig, côr cerddoriaeth gynnar arbenigol a Chôr Siambr Caerdydd. Mae hi'n chwarae chwibanau mewn sesiynau gwerin yng Nghaerdydd a thu hwnt ,ac yn mwynhau'r holl brofiadau cerddorol sydd gan Gaerdydd i'w cynnig, gan gynnwys y sîn jazz sy'n tyfu. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cefnogi lleoliadau llai o faint, a datblygu gyrfaoedd myfyrwyr cerddoriaeth y tu hwnt i'r coleg. Mae hi'n parhau i ddysgu Cymraeg ac mae ganddi ddau blentyn sy'n siarad Cymraeg – ac mae un ohonynt yn dilyn gyrfa mewn canu clasurol.
​

​

​

Christina Macaulay

Niamh O'Donnell

Yn wreiddiol o Aberystwyth ac wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Niamh yn archwilio cerddoriaeth electro-acwstig a nodiant. Mae gwaith Niamh wedi ehangu i ensembles a grwpiau, gan gyfansoddi gosodiadau digidol ar gyfer dau gyngerdd Curate Sinfonia Cymru a chyfansoddi darn hybrid ar gyfer CoDI SAIN TÅ· Cerdd. Mae Niamh wedi cyfansoddi ar gyfer ensembles fel The Hermes Experiment, y Gallos Trio, ensemble Berkeley ac UPROAR dan diwtoriaeth y cyfansoddwyr Prydeinig poblogaidd Mark Bowden, Lynne Plowman a Mark D. Boden. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio fel trefnydd a golygydd sgôr, ac mae Niamh hefyd yn rhan o Fforwm Ieuenctid Anthem.

Niamh O'Donnel

Kiko Shao

Mae Kiko Shao yn gyfansoddwraig sy’n byw yng Nghaerdydd, gan hanu’n wreiddiol o Hong Kong. Ar hyn o bryd mae hi’n ddarlithydd cerdd ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ôl dysgu gynt ym Mhrifysgol Hong Kong, Academi Celfyddydau Perfformio Hong Kong, ac Ysgol Gerdd Xinghai. Mae’r rhan fwyaf o’i gwaith wedi’i ysbrydoli gan gelf a diwylliant Tsieina ac mae’n arbrofi â galluoedd offerynnau Tsieineaidd yn ei cherddoriaeth.

​

Yn fwy diweddar mae ei cherddoriaeth wedi’i dewis gan raglen CoDI Arwain TÅ· Cerdd a phrosiect galwad agored Treephonia: Live 2022, ynghyd â rhaglen ‘Composing for…’ Psappha. Hi oedd y cyfansoddwr ifanc a ddewiswyd yng ngŵyl gerddoriaeth siambr Tsieina Ifanc: Deg Cyfansoddwr Dawnus yn yr Almaen a derbyniodd y drydedd wobr yn seithfed Cystadleuaeth Cyfansoddi Cerddoriaeth Siambr Newydd ConTempo, a gyflwynwyd gan yr Ysgol Gerdd Ganolog yn Tsieina. Mae hi hefyd wedi cydweithio â gwahanol ensembles rhyngwladol, gan gynnwys Ensemble Cerddoriaeth Newydd Hong Kong, Cerddorfa Academi Celfyddydau Perfformio Hong Kong, Ensemble Cerddoriaeth Tsieineaidd Pibellau Chwyth, Ensemble Cerddoriaeth Tsieineaidd Yuanyang yr Ysgol Gerdd Ganolog, Cerddorfa Tsieineaidd Hong Kong, Pedwarawd Szymanowski Quartet, a phedwarawd Sonar yn yr Almaen.

​

A hithau’n teimlo’n angerddol ynghylch pwysigrwydd addysg, mae gan Kiko ddiploma ôl-raddedig mewn Addysg ynghyd â statws athro cymwysedig yn y Deyrnas Unedig. Mae hi hefyd wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn nifer o weithdai cyfansoddi, gan weithio a rhannu ei cherddoriaeth gyda phobl ifanc.

​

Kiko Shao
bottom of page