Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Yn ystod tri mis olaf 2021, mae Tŷ Cerdd yn cynnal gŵyl ddigidol - CoDa 2021 - gan roi sylw arbennig i waith a grëir gyda a chan y crewyr cerddoriaeth rhyfeddol y mae’r sefydliad wedi bod yn arwain llwybrau creadigol yn eu cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf (gyda chefnogaeth ariannol gan CCC, Sefydliad PRS, Youth Music ac Ymddiriedolaeth RVW).
O ddydd Iau 7 Hydref, ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Tŷ Cerdd, bydd arlwy amrywiol a rheolaidd o waith newydd sbon yn cael ei rannu, gan gynnwys:
perisgop: Fideo theatr gerdd digidol byr gan Gareth Churchill (cyfansoddwr), Kaite O’Reilly (awdur) a Jake Sawyers (fideograffydd), sy’n edrych ar fywyd yng Nghymru yn ystod COVID-19 i bobl sydd wedi colli eu golwg – wedi’i greu gan dîm creadigol a chast anabl a’i ariannu gan Cysylltu a Ffynnu fel rhan o Tapestri, archif byw newydd pobl, ieithoedd a chymunedau Cymru.
cân affricerdd: Y cyntaf o 4 gwaith newydd gan artistiaid o dras Affricanaidd sydd wedi’u comisiynu i gyfansoddi cân newydd mewn unrhyw iaith a chreu fideo cerdd ohoni.
CoDI DIY: 9 o greadigaethau newydd gan amrywiaeth o artistiaid a gyfranogodd o’r llwybr creadigol hwn i greadigwyr cerddoriaeth sydd heb gael mynediad i addysg gerdd ôl-ysgol. O gantorion/cyfansoddwyr caneuon i R&B, arbrofol i ôl-werin, mae’r artistiaid yma’n hynod dalentog - ac fe’u harweiniwyd drwy’r broses gan Pwyll ap Sion a mentoriaid eraill.
CoDI Arbrofol: Gan ymateb i gynnwys o gasgliad archif Tŷ Cerdd, bu 6 artist yn gweithio ochr yn ochr â’r criw blaengar o Angharad Davies (feiolín), Rhodri Davies (telyn) a Siwan Rhys (piano) i greu eu gweithiau arbrofol eu hunain: o draddodiad emynau Cymreig Codi Canu, i olygfa graffig a grëwyd o ddelweddau, dyluniadau a hyd yn oed blotiau inc, bu’r crewyr cerddoriaeth a gymerodd ran yn ymestyn eu crefft gan ddefnyddio technegau newydd.
CoDi Opera: Yn dilyn gweithdai dwys gyda’r cyfansoddwr Rob Fokkens a’r awdur/dramodydd Sophie Rashbrook, creodd chwe chyfansoddwr eu senario, libreto a cherddoriaeth eu hunain - unawd unigol yr un, yn cael ei berfformio gan y dewrion Sarah Dacey (soprano) a Chris Williams (piano). Mae’r canlyniadau’n bwerus.
CoDi Grange: 6 o weithiau newydd ysbrydoledig a grëwyd fel rhan o’n menter gelfyddydau ac iechyd sy’n ymgorffori gosodweithiau cerddoriaeth-a-sain newydd yn y capel amlffydd yn Ysbyty Athrofaol newydd sbon y Faenor. Cadwch lygad fan hyn am ragor o wybodaeth am hyn’na!