Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
.png)
Menter Gelfyddydau ac Iechyd Tŷ Cerdd yw CoDi y Faenor sy’n ffurfio rhan o’r rhaglen gelfyddydau helaeth yn Ysbyty Athrofaol newydd y Faenor yn Llanfrechfa. Ariennir yr holl raglen gelfyddydau gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’i gyrru gan yr ymgynghoriaeth Studio Response.
Comisiynwyd carfan o artistiaid o wahanol genres gan CoDi y Faenor i greu cerddoriaeth a gosodweithiau sain i’r capel amlffydd yn Ysbyty newydd y Faenor. Bu’r artist arweiniol, Jo Thomas (cyfansoddwraig electronig arobryn) yn mentora’r crewyr cerddoriaeth eraill a gymerodd ran drwy’r broses, ochr yn ochr â thîm Tŷ Cerdd a ddarparodd gefnogaeth artistig ac ymarferol. Yn ganolog i’r cyfnod creu i’r holl artistiaid roedd ymgysylltu uniongyrchol ag aelodau o’r gymuned yn ward y bwrdd iechyd – mae pob darn wedi ymateb i’r ymgysylltu hwnnw, yn thematig ac yn artistig.
Y bwriad y tu ôl i’r gweithiau hyn a grëwyd gan gyfansoddwyr Cymreig oedd cynnig cefnogaeth, cysur a heddwch i ymwelwyr y capel, a hwythau o bosibl mewn cyfnod anodd iawn yn eu bywydau. Ein hartistiaid yw Jo Thomas, Teifi Emerald, Ashley John Long, Delyth & Angharad Jenkins, Leona Jones and Stacey Blythe.
Roedd canlyniad y prosiect yn arbennig iawn ac mae albwm o’r chwe gwaith, Cynefin – music from the Grange, wedi’i ryddhau ar ein label, i helpu ymestyn cynulleidfa’r gerddoriaeth a’r byd-sain yma, ac i eraill ei glywed a’i brofi.