top of page

perisgop

PSicon.png

Mae Perisgop yn cyflwyno golygfa o'r byd trwy lygaid rhywun arall. Wedi'i wneud mewn partneriaeth ag UCAN Productions, mae'r cynhyrchiad yn rhoi llais cerddorol a mynegiant artistig i brofiadau pobl â nam ar eu golwg yn ystod pandemig Covid 19. Mae tîm artistig Perisgop i gyd â nam ar eu golwg: y cyfansoddwr Gareth Churchill, yr awdur Kaite O’Reilly a’r gwneuthurwr ffilmiau Jake Sawyers.

Gwrandewch am amlinelliad prosiect

Gwyliwch y ffilm:

Dechreuwyd cyfnod saith mis o gyfansoddi gan gyfres o weithdai ar-lein: ymchwil a datblygu sydd wedi arwain at waith theatr gerddoriaeth siambr, wedi'i berfformio gan ensemble anabl – dau soprano, llefarydd, ffliwt, a phiano. Mae Perisgop yn datblygu fel cylch caneuon dramatig tri symudiad, wedi’i fframio gan ddwy ‘stream’ air am air sy’n cynnwys lleisiau go iawn y bobl a gyfwelwyd.

Bydd y ffilm gydag isdeitlau trwy gydol yr hyd (nid oes yna BSL). Rydyn ni’n gobeithio byddwch chi’n ei fwynhau.

Gwrandewch am wybodaeth am broses y prosiect

Y perfformwyr ydy:

Joanne Roughton Arnold (soprano)

 

Rebecca Jolliffe (ffliwt / soprano 2)

 

Rachel Starritt (piano)

 

Gareth Churchill (Llais siarad Cymraeg)

Gwrandewch am enwau'r perfformwyr

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Shakira.mahabir@tycerdd.org

Gwrandewch am manylion cyswllt
DAC_Logo_1200.png
EISTEDDFOD-NEW1.jpg
wpa-logo-lliw-2018.png
UCAN-logo_cmyk.jpg
tc logo.png
arts-council-wales-grayscale.png
arts-council-wales-grayscale.png
WG lottery & ACW logos.png
bottom of page