top of page

© Dufe

William Mathias yn 80 

'Gwadd i Gerdoriaeth'

Anodd ydyw i gredu, petai William Mathias wedi byw y byddai’n wythdeg mlwydd oed eleni. Mae’r sawl oedd yn ei nabod yn cofio ei gymeriad ‘tempo ritmico’, ei ddiddordeb gwirioneddol mewn pobl a’i allu cerddorol rhagorol.

​

Yn y blynyddoedd ers ei farwolaeth anamserol mae ei gerddoriaeth wedi cael eu perfformio yn gyson. Mae ei gerddoriaeth organ, telyn a siambr wedi eu derbyn i’r repertoire cyffredinol a llawer o’i gerddoriaeth gerddorfaol yn cael eu perfformio a recordio’n gyson, heb sôn am ei gerddoriaeth gorawl sydd wedi treiddio i gorau eglwysig ar draws y byd (yn llythrennol o Fangor i Fangelore!)

​

Ond beth sydd hefyd yn syndod ydi fod rhai gweithiau mawr ganddo heb eu recordio. Meddyliwch am ei Organ Concerto arbennig yn ogystal a’i unig opera The Servants, sydd wedi ei seilio ar y ddrama The Servants and the Snow gan ei librettydd Iris Murdoch. Wedi ei gomisiynu gan Opera Cenedlaethol Cymru, mae’r cynllun set a gwisgoedd yn lleoli’r opera tua’r flwyddyn 1900 mewn tÅ· gwledig yn yr eira.

Roedd y perfformiad cyntaf, Theatr Newydd Caerdydd 15 Medi 1980, yn garreg filltir pwysig yn hanes cerddorol Cymru ac mae’r opera yn cynnwys darnau rhythmig treiddgar arbennig sy’n nodweddiadol o Mathias (yn hel atgofion o Elegy for a Prince) ac yn gadael y gwrandäwr yn meddwl beth alla’u fod wedi digwydd petai Mathias wedi dilyn esiampl ei gyfoed Alun Hoddinott a chyfansoddi mwy ar gyfer y llwyfan.

​

Byddau opera gomig gan Mathias wedi bod yn agoriad llygad, syniad a fydd yn ein pryfocio eleni yn enwedig. I ddweud y lleiaf, mae ei allbwn yn rhan o gerddoriaeth fwyaf hanfodol Prydain ers 1945, ac wedi goresgyn chwaeth a ffasiwn ac ar gael i’w fwynhau i bawb be bynnag eu gallu a gwybodaeth gerddorol.

​

© Lyn Davies 2014

bottom of page