Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640
Tŷ Cerdd a FOCUS Wales yn creu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gryfhau'r bartneriaeth #CerddoriaethGymreigDramor

Y band o Wrecsam, Gallops, yn arddangos ar gyfer FOCUS Wales
Heddiw mae FOCUS Wales a Tŷ Cerdd, sefydliadau blaenllaw o ran datblygu cerddoriaeth Cymru, wedi cyhoeddi eu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd i hyrwyddo proffil rhyngwladol cerddoriaeth Gymreig o dan faner #CerddoriaethGymreigDramor.
Mae'r cytundeb yn ffurfioli ymrwymiad a rennir i gydweithio'n strategol – tra'n cynnal eu cenhadaeth annibynnol – i ddatblygu, hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd rhyngwladol i artistiaid o Gymru ar draws genres cerddorol. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn bwrw ymlaen gyda ffordd o weithio mewn partneriaeth a ffurfiwyd yn 2023 (ynghyd â Trac Cymru), gyda'r nod o amlygu cyfleoedd i artistiaid o Gymru.
Gweledigaeth a rennir ar gyfer twf byd-eang
Trwy'r bartneriaeth hon, bydd y ddau sefydliad yn gweithio i:
-
Ehangu cyfleoedd arddangos rhyngwladol i artistiaid o Gymru
-
Cryfhau allforio i farchnadoedd presennol ac i farchnadoedd sy'n dod i'r amlwg
-
Cefnogi artistiaid sy'n gweithio o fewn llwybrau masnachol ac anfasnachol
-
Rhannu deallusrwydd marchnad, rhwydweithiau ac adnoddau i wneud y mwyaf o'r effaith
-
Hyrwyddo Cymru fel gwlad gerddoriaeth ddeinamig
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r ddau sefydliad wedi dangos mwy o ffocws ar weithio’n rhyngwladol. Mae FOCUS Wales yn cefnogi artistiaid sy'n dod i’r amlwg ac sy’n barod i’w hallforio i arddangos mewn digwyddiadau rhyngwladol blaenllaw yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae eu partneriaethau gyda digwyddiadau yn cynnwys SXSW, ESNS, Reeperbahn, M for Montreal, BreakOut West, Zandari Festa, ymhlith llawer o rai eraill. Mae Tŷ Cerdd yn cefnogi cyfleoedd i grewyr cerddoriaeth drwy lwybrau fel ISCM (Cymdeithas Ryngwladol Cerddoriaeth Gyfoes), yn ogystal ag arwain presenoldeb Cymru yn WOMEX, Classical:NEXT a jazzahead!, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yma’n cydnabod ehangder ac amrywiaeth cerddoriaeth Cymru ac yn ceisio sicrhau bod artistiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o bob cefndir a genre yn cael mynediad at gyfleoedd rhyngwladol ystyrlon.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn gweld y cydweithrediad cryfach hwn rhwng FOCUS Wales a Tŷ Cerdd, sy’n adlewyrchu ein huchelgais i weld cerddoriaeth Gymreig yn ffynnu ar y llwyfan rhyngwladol. Mae partneriaethau fel hyn yn hanfodol er mwyn creu llwybrau clir a chynaliadwy i artistiaid ddatblygu’n rhyngwladol, gan ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth sy’n cael ei chreu yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn ei chael ar artistiaid Cymreig a’r diwydiant cerddoriaeth ehangach, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i gael ei chydnabod fel cenedl gerddorol fywiog, uchelgeisiol ac allblyg.”
Dywedodd Andy Jones, Cyfarwyddwr a Phennaeth Cerddoriaeth FOCUS Cymru: "Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yma’n adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i barhau i gefnogi a darparu cyfleoedd datblygu gyrfa arwyddocaol i’n hartistiaid a’n diwydiant sydd eisiau gweithio'n rhyngwladol. Trwy gydweithio yn yr ysbryd hwn, rydym yn gyffrous am yr hyn y bydd hyn yn ei olygu i weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, a all elwa o'n rhwydweithiau a'n profiad cyffredin wrth symud ymlaen."
Dywedodd Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd: “Mae gweithio’n rhyngwladol yn bwysicach nag erioed i Dŷ Cerdd a'r crewyr cerddoriaeth yr ydym yn eu cefnogi. Mae'r bartneriaeth gyda FOCUS Wales wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd gydag ymddiriedaeth a chydweithrediad wrth wraidd y berthynas ac mae'n neges bwerus i'n sector yng Nghymru ac i farchnadoedd tramor. Mae llawer o'r artistiaid rydyn ni'n eu cefnogi yn gweithio y tu allan i lwybrau amlwg – e.e. cyfansoddwyr clasurol cyfoes ac artistiaid arbrofol – ac mae'r cysylltiadau a’r platfform y gall #CerddoriaethGymreigDramor eu darparu yn amhrisiadwy iddyn nhw."

Dau artist o Gymru ymhlith grŵp Rhwydwaith Byd-eang NAC Canada Cynhyrchwyr Benywaidd ac Anneuaidd;
ymweliad wedi'i hwyluso gan Tŷ Cerdd
Er y bydd y ddau sefydliad yn parhau i gyflwyno eu rhaglenni a'u partneriaethau eu hunain, mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn tanlinellu fframwaith cydlynu #CerddoriaethGymreigDramor – o lwybrau allforio pendant, i fentrau datblygu artistiaid ar y cyd, o weithgaredd cyfnewid mewnol, i ledaenu arferion gorau ynghylch teithio cynaliadwy.
Trwy gydlynu ymdrechion dan bartneriaeth #CerddoriaethGymreigDramor, y nod yw darparu eglurder i bartneriaid rhyngwladol y diwydiant a chreu cysylltiadau rhyngwladol cryfach, mwy cynaliadwy. Mae'r ddau bartner wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau eraill yng Nghymru i ddarparu'r cyfleoedd gorau i artistiaid.
Cefnogi artistiaid ar bob cam
Bydd y fenter yn canolbwyntio ar gefnogi artistiaid ar sawl lefel gyrfa - o dalent sy'n dod i'r amlwg sy'n chwilio am gyfleoedd allforio cyntaf, i artistiaid sefydledig sy'n adeiladu strategaethau rhyngwladol hirdymor. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hefyd yn rhoi pwyslais ar amrywiaeth, hygyrchedd a chynrychiolaeth ddiwylliannol. Mae’n sicrhau bod artistiaid Cymraeg eu hiaith ac artistiaid dwyieithog, yn ogystal â'r rhai o gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli, yn cael eu cefnogi'n weithredol ar y llwyfan byd-eang.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn arwydd o ymrwymiad parhaus i gryfhau ôl troed cerddoriaeth ryngwladol Cymru. Trwy gyfuno arbenigedd, rhwydweithiau ac uchelgais cyffredin mae FOCUS Wales a Thŷ Cerdd yn anelu at greu ecosystem allforio fwy cydgysylltiedig a gwydn ar gyfer cerddoriaeth Gymreig.
Cefnogir gwaith FOCUS Wales a Thŷ Cerdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru (gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru) a Chymru Greadigol.


