Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640


cymru@classicalnext2026
Cyflwyno'r ddirprwyaeth o Gymru
Meet the Welsh delegates

Antigone Blackwell
Trombonydd Jazz a Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Mae Antigone Blackwell, a elwir hefyd yn Tiggy, yn drombonydd jazz a raddiodd o'r cwrs BMus (Jazz) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ym mis Gorffennaf 2024. Tiggy hefyd oedd derbynnydd cyntaf Gwobr Jazz Anjool Malde a Medal Arian Cwmni Cerddorion 2024. Mae Tiggy yn chwaraewr trombôn jazz gweithgar ar y sîn gerddoriaeth yn y DU, sydd wedi'i lleoli rhwng Caerdydd a Swydd Gaerhirfryn ar hyn o bryd. Mae hi'n chwarae amrywiaeth o arddulliau mewn achlysuron gwahanol megis gwyliau, priodasau a chlybiau jazz. Mae Tiggy wedi chwarae gyda nifer o fandiau ac artistiaid llwyddiannus yn y gorffennol gan gynnwys YolanDa Brown, Dennis Rollins a Source, yn ogystal â recordio albwm a theithio Cymru a Lloegr gyda'r band jazz wyth aelod The Mingus Project. Mae sawl un o'i phrosiectau wedi arwain at sylw yng nghylchgrawn Jazzwise.
Jazz Trombonist and Royal Welsh College of Music & Drama Students’ Union President Antigone Blackwell, also known as Tiggy, is a jazz trombonist who graduated from the BMus (Jazz) course at RWCMD with a First-Class Honours degree in July 2024. Tiggy was also the inaugural recipient of the Anjool Malde Jazz Prize and the 2024 Musicians’ Company Silver Medal. Tiggy is an active jazz trombone player on the UK music scene, currently based between Cardiff and Lancashire. She plays a variety of styles at several different occasions such as festivals, weddings and jazz clubs. Tiggy has previously played with multiple successful bands and artists including YolanDa Brown, Dennis Rollins and Source, as well as recording an album and touring Wales and England with eight-piece jazz band The Mingus Project. Several of her projects have led to a mention in Jazzwise magazine.

Ella Pearson
Oböydd, ymarferydd creadigol Mae Pea yn oböydd a chwaraewr cor anglais, ymarferydd creadigol, a hyrwyddwr cynhwysiant; y mae eu creadigrwydd yn herio genre ac yn rhychwantu ehangder eang y diwydiant cerddoriaeth. Yn raddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda gradd Baglor a Meistr mewn Perfformio Cerddoriaeth ar obo a chor anglais, maent wedi gwrthod cael eu rhwymo gan draddodiadau cerddoriaeth glasurol, gan greu perfformiadau arloesol ac ysbrydoledig sy’n defnyddio amrywiaeth o allfeydd creadigol.
Oboist, creative practitioner Pea is an oboist and cor anglais player, creative practitioner, and inclusivity champion; their genre-defying creativity spans the wide expanse of the music industry. A graduate of the Royal Welsh College of Music and Drama with a Bachelors and Master’s degree in Music Performance on oboe and cor anglais, they have refused to be bound by the traditions of classical music, by producing innovative and inspiring performances using a variety of creative outlets.

Daniel Soley
Cyfansoddwr, cynhyrchydd cerddoriaeth, artist sain Mae Daniel Soley yn gyfansoddwr, cynhyrchydd cerddoriaeth ac artist sain a anwyd yn Swydd Gaerwrangon sy'n gweithio ym maes cerddoriaeth gyngerdd, aml-gyfryngau, addysg a'r celfyddydau perfformio. Mae ei allbwn eithriadol o amrywiol yn dyst i'r sgiliau unigryw amlbwrpas a chynhwysfawr sydd wedi ei wneud yn gydweithiwr gwerthfawr ac yn artist nodedig. Gyda'i arfer naturiol i ymgolli ym mhob prosiect, mae creadigrwydd Daniel yn dod â syniadau yn fyw ac yn gwneud profiadau newydd yn fythgofiadwy.
Composer, music producer, sound artist Daniel Soley is a Cardiff-based Worcestershire-born composer, music producer and sound artist working in concert music, multimedia, education and the performing arts. His exceptionally diverse output is testimony to the uniquely versatile and comprehensive skills that have made him a valued collaborator and noted artist. With the natural habit to immerse himself in each project, Daniel’s creativity brings ideas to life and makes new experiences vividly memorable.

Joshua Games
Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig, Gŵyl Côr Aberhonddu Mae Joshua Games yn Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Côr Aberhonddu, gŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau pedwar diwrnod o hyd sy'n cael ei chynnal bob mis Gorffennaf mewn Parc Cenedlaethol trawiadol yng Nghymru. Mae hefyd yn Aelod o Fwrdd Missing People, prif elusen y DU sy'n ymroddedig i gefnogi pobl sydd ar goll a'u teuluoedd, yn ogystal ag Aelod o Fwrdd Cymdeithas RS Thomas & ME Eldridge, y gymdeithas sy'n ymroddedig i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o fardd blaenllaw'r Gymru fodern.
Founder & Artistic Director, Brecon Choir Festival Joshua Games is a Founder and Artistic Director of the Brecon Choir Festival, a four-day music and arts festival that takes place every July in a stunning National Park in Wales. He is also Board Member at Missing People, the UK's leading charity dedicating to supporting missing people and their families, plus a Board Member at RS Thomas & ME Eldridge Society, the society dedicated to furthering knowledge and understanding of the leading poet of modern Wales.

Michael Rafferty
Arweinydd a Chyfarwyddwr Artistig, Ensemble Cerddoriaeth Newydd UPROAR Cymru Mae Michael Rafferty yn arweinydd arobryn sydd wedi'i leoli yng Nghymru. Yn angerddol dros ddiwylliant cyfoes, mae'n arwain ensembles cerddoriaeth gyfoes gorau'r byd ac wedi cydweithio â dros 100 o gyfansoddwyr byw. Cyd-sefydlodd Music Theatre Wales a thrwy ei arweinyddiaeth gerddorol weledigaethol dros 25 mlynedd daeth â MTW i'w statws presennol rhagorol. Dyfarnwyd MBE iddo yn 2016 am wasanaethau i gerddoriaeth yng Nghymru.
Conductor & Artistic Director, UPROAR Wales New Music Ensemble Michael Rafferty is an award-winning conductor based in Wales, UK. Passionate about contemporary culture, he conducts the world’s finest contemporary music ensembles and has collaborated with over 100 living composers. He co-founded Music Theatre Wales and through his visionary musical leadership over 25 years brought MTW to its enviable stature. He was awarded an MBE in 2016 for services to music in Wales.

Natalie Roe
Cyfansoddwr, cynhyrchydd, artist electronig Mae Natalie Roe yn gyfansoddwr, cynhyrchydd ac artist electronig sydd wedi'i lleoli rhwng Caerdydd a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae hi'n cyfuno synau acwstig ac electronig â chyfryngau eraill mewn amrywiaeth o brosiectau amlddisgyblaethol. Mae hi'n arbenigo mewn perfformio seinweddau electronig byw gyda'r Modular Synthesiser y mae'n aml yn ei ddefnyddio i drin synau byd go iawn.
Composer, producer, electronic artist Natalie Roe is a composer, producer and electronic artist based between Cardiff and the West Midlands. She combines acoustic and electronic sounds with other mediums in an array of multidisciplinary projects. She specialises in performing live electronic soundscapes with the Modular Synthesiser which she often uses to manipulate real world sounds.

Nathan James Dearden
Rheolwr prosiect, dirprwyaeth Cymru Mae Nathan James Dearden yn grëwr cerddoriaeth Gymreig arobryn, y mae ei waith wedi'i ddisgrifio fel "hauntingly beautiful" (Media Wales). Mae ei waith wedi cael ei berfformio a’i gyflwyno gan Gantorion y BBC, Cerddorfa Philharmonia, City of Birmnigham Symphony Orchestra, Berkeley Ensembke, Opera Cenedlaethol Cymru, y fezzo-soprano Helen Charlston, Pedwarawd Tippett, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Pedwarawd Heath, a Thriawd Fidelio. Mae Nathan hefyd yn arweinydd, ymgynghorydd celfyddydol, curadur digwyddiadau ac addysgwr poblogaidd, gan ddal rolau cynghori'r celfyddydau gyda sawl sefydliad rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'n Ddarlithydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Royal Holloway Llundain.
Project manager, Wales delegation Nathan James Dearden is an award-winning Welsh music creator, whose work has been described as “hauntingly beautiful” (Media Wales), and performed and featured the BBC Singers, Philharmonia Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Berkeley Ensemble, Welsh National Opera, mezzo-soprano Helen Charlston, Tippett Quartet, National Youth Choir of Wales, Heath Quartet, and the Fidelio Trio. Nathan is also a sought-after conductor, arts advisor, event curator and educator, holding arts advisory roles with several international organisations, and is currently Lecturer in Music Composition at Royal Holloway University of London.

Deborah Keyser
Deborah Keyser yw Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd | Music Wales. Mae Tŷ Cerdd yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo cerddoriaeth Cymru – dan y slogan 'os ydych chi'n creu cerddoriaeth yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig ydyw'. Mae datblygu talent wrth wraidd gwaith Tŷ Cerdd, ac mae'r sefydliad yn gweithio ledled Cymru o'i ganolfan yng Nghaerdydd, sy’n gartref i stiwdio recordio, llyfrgell a dau label recordio. Gan gydweithio â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Jazz Promotion Network i gyflwyno presenoldeb Cymru yn jazzahead! 2026, mae Tŷ Cerdd hefyd yn partneru â FOCUS Wales ar #CerddoriaethGymreigDramor, gan greu cyfleoedd i artistiaid a’r diwydiant ymgysylltu â marchnadoedd cerddoriaeth ledled y byd.
Deborah Keyser is Director of Tŷ Cerdd | Music Wales. Tŷ Cerdd works to develop and promote the music of Wales – under the slogan ‘if you’re making music in Wales, it’s Welsh music’. Talent development is at the heart of Ty Cerdd’s work, and the organisation works across Wales from its base in Cardiff, where it hosts a recording studio, library and two record labels. Working in collaboration with Wales Arts International and Jazz Promotion Network to deliver the Wales presence at jazzahead! 2026, Tŷ Cerdd also partners with FOCUS Wales on #WelshMusicAbroad, creating opportunities for artists and industry to engage music markets across the globe.




