top of page

CYMRU WALES
@jazzahead!

Cwrdd â'n cynrychiolwyr / Meet our delegates

Zoe Barnes.jpg

Zoe Barnes

Zoe Barnes yw rheolwr band Will Barnes Quartet ac mae hi'n cynrychioli'r grŵp fel rhan o'r ddirprwyaeth Gymreig yn jazzahead!. Mae Zoe’n goruchwylio trefnu cyngherddau, cydlynu teithiau a phartneriaethau â’r diwydiant ar gyfer yr ensemble. Mae’r Will Barnes Quartet wedi perfformio mewn canolfannau a gwyliau gan gynnwys Pizza Express Live, Gŵyl Jazz Aberhonddu, Gŵyl y Gelli, yn ogystal â pherfformiadau radio cenedlaethol gan gynnwys ar BBC R4. Maent yn datblygu enw da am jazz cyfoes sy'n dod i'r amlwg o Gymru a hyd yma maent wedi rhyddhau tri albwm (AAB Records, Cambrian Records) ac wedi cwblhau dwy daith lwyddiannus yn y DU.

Zoe Barnes is the band manager for the Will Barnes Quartet and represents the group as part of the Welsh delegation at jazzahead!. She oversees bookings, touring coordination and industry partnerships for the ensemble. The Will Barnes Quartet has performed at venues and festivals including Pizza Express Live, Brecon Jazz Festival, Hay Festival, in addition to national radio performances including on BBC R4. They are developing a reputation for contemporary jazz emerging from Wales and to date have released three albums (AAB Records, Cambrian Records) and successfully completed two UK tours.

Emyr Hedd.jpg

Emyr Hedd

Mae Emyr Hedd yn gerddor, cyfansoddwr ac arweinydd band o Gymru. Mae ei gerddoriaeth deimladwy yn plethu naws cerddoriaeth werin Cymru gyda dulliau byrfyfyr, gan greu tapestri tawel sy'n dwyn i gof y tir sy'n ei ysbrydoli. Yn wreiddiol o ganolbarth Cymru, fe dreuliodd Emyr ei lencyndod yn chwarae mewn bandiau pres traddodiadol, cyn gadael i dreulio naw mlynedd ar y sîn jazz fywiog yn Leeds. Yn Leeds y ffurfiodd y grŵp jazz gwerin amgen clodwiw Awen Ensemble. Mae albwm cyntaf Awen Ensemble, Cadair Idris, yn edrych ar y fytholeg a'r llên gwerin hael sy'n amgylchynu'r mynydd pwysig yr oedd Emyr yn ei adnabod yn dda fel plentyn. Rhyddhawyd yr albwm ar New Soil Music, a gafodd ei dderbyn yn gadarnhaol gan ddiwydiant jazz y DU, gyda sesiynau byw i Soweto Kinch ar raglen Round Midnight ar BBC Radio 3, Giles Peterson ar WWFM a thraciau unigryw yn cael eu darlledu gan Jamie Cullum ar BBC Radio 2. Bellach wedi'i leoli ym mynyddoedd gorllewinol Eryri, gogledd Cymru, mae Emyr yn trochi yn y sîn werin Gymreig, sy'n dod â dulliau creadigol ac ysgogiad newydd i'w ymarfer. Mae ei offeryniaeth ddiweddar wedi ehangu o flugel a thrwmped i gynnwys llais a gitâr, gan nodi dechrau cyfnod newydd cyffrous yn stori gerddorol Emyr Hedd.

Emyr Hedd is an emotive Welsh-language musician, composer and band leader. His music weaves Welsh folk sentiments with improvisational approaches, creating serene tapestries evocative of the land that inspires it. Hailing originally from mid-Wales, Emyr grew up playing in traditional brass bands, before leaving to spend nineyears on the vibrant jazz scene of Leeds. It was here that he formed the acclaimed alternative folk jazz outfit Awen Ensemble. Awen Ensemble’s debut album, Cadair Idris, explores the bountiful mythology and folklore surrounding this great Welsh mountain which Emyr knew well as a child. The album was released on New Soil Music, and fondly received by the UK jazz industry, including live sessions for Soweto Kinch on BBC Radio 3’s Round Midnight, Giles Peterson on WWFM and exclusive tracks being aired by Jamie Cullum on BBC Radio 2. Now based in the western mountains of Eryri (north Wales), Emyr is finding immersion in the Welsh folk scene, which is bringing new creative approaches and stimulus to his practice. His recent instrumentation has expanded from flugel and trumpet to include voice and guitar, marking the beginning of an exciting new era in his musical story as Emyr Hedd.

Elijah Jeffery.jpg

Elijah Jeffery

Mae Elijah Jeffery yn ganwr, cyfansoddwr ac aml-offerynnwr jazz o Gymru. Yn ifanc iawn fe ddatblygodd Elijah angerdd dros theatr gerdd a'r ‘Great American Songbook’, ac fe gymerodd ysbrydoliaeth gan lawer o gantorion a thelynegwyr mawr yr 20fed ganrif. Gyda gradd mewn Jazz o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Elijah wedi sefydlu ei hun fel artist addawol yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, gan gydweithio â phobl fel Claire Martin, Ian Shaw ac Alex Garnett. Rhyddhaodd Elijah ei EP cyntaf, One of Her Clowns, ym mis Mehefin 2023. Dyma oedd ei dro cyntaf yn ysgrifennu albwm o gerddoriaeth wreiddiol. Gan gyfuno cariad gydol oes at jazz gydag ymwybyddiaeth o ddulliau canwr-gyfansoddwr a gwerin, mae One of Her Clowns yn plethu straeon chwerwfelys am gariad a gollwyd ac a ddarganfuwyd trwy 'poetic and intelligent lyrics' (The Jazz Mann). Yn 2025, rhyddhaodd Jeffery albwm deuawd gyda'r pianydd Eddie Gripper, sy'n croesi genres pop blaengar, gwerin indie, a jazz amgen, a chariad a thywyllwch mewn ffordd ‘enthralling and absorbing' (All About Jazz). Dathlwyd y rhyddhad gyda dwy daith yn y DU, gan arddangos 'wit and warmth' (TJM) y deuawd mewn perfformiad byw. @elijah.makesmusic linktr.ee/elijahjeffery Deborah Keyser yw Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd | Music Wales. Mae Tŷ Cerdd yn datblygu ac yn hyrwyddo cerddoriaeth Cymru – dan y slogan 'os ydych chi'n creu cerddoriaeth yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig ydyw'. Mae datblygu talent wrth wraidd holl waith Tŷ Cerdd, ac mae'r sefydliad yn gweithio ledled Cymru o'i ganolfan yng Nghaerdydd sy’n gartref i stiwdio recordio, llyfrgell a dau label recordio. Gan gydweithio â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Jazz Promotion Network i gyflwyno presenoldeb Cymru yn jazzahead! 2026, mae Tŷ Cerdd hefyd yn partneru â FOCUS Wales ar #CerddoriaethGymreigDramor, gan greu cyfleoedd i artistiaid a’r diwydiant i ymgysylltu â marchnadoedd cerddoriaeth ledled y byd.

Elijah Jeffery is a Wales-based jazz vocalist, composer and multi-instrumentalist. From an early age, Elijah developed a passion for musical theatre and the Great American Songbook, taking inspiration from many of the great vocalists and lyricists of the 20th Century. A Jazz graduate of the Royal Welsh College of Music and Drama, Elijah has established himself as an up-and-coming artist in Wales and the south west of England, collaborating with the likes of Claire Martin, Ian Shaw and Alex Garnett. Elijah released his debut EP, One of Her Clowns, in June 2023, marking his first foray into writing original music. Fusing a lifelong love of jazz with singer-songwriter and folk sensibilities, One of Her Clowns weaves bittersweet tales of love lost and found through ‘poetic and intelligent lyrics’ (The Jazz Mann). In 2025, Jeffery released a duo album with pianist Eddie Gripper, straddling the genres of progressive pop, indie folk, and alternative jazz, and love and darkness in ‘an enthralling and absorbing way’ (All About Jazz). The release was celebrated with two UK tours, showcasing the duo’s signature ‘wit and warmth’ in a live setting (TJM).

DK profile photo_edited.jpg

Deborah Keyser

Deborah Keyser yw Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd | Music Wales. Mae Tŷ Cerdd yn datblygu ac yn hyrwyddo cerddoriaeth Cymru – dan y slogan 'os ydych chi'n creu cerddoriaeth yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig ydyw'. Mae datblygu talent wrth wraidd holl waith Tŷ Cerdd, ac mae'r sefydliad yn gweithio ledled Cymru o'i ganolfan yng Nghaerdydd sy’n gartref i stiwdio recordio, llyfrgell a dau label recordio. Gan gydweithio â helfyddydau Rhyngwladol Cymru a Jazz Promotion Network i gyflwyno presenoldeb Cymru yn jazzahead! 2026, mae Tŷ Cerdd hefyd yn partneru â FOCUS Wales ar #CerddoriaethGymreigDramor, gan greu cyfleoedd i artistiaid a’r diwydiant i ymgysylltu â marchnadoedd cerddoriaeth ledled y byd.

Deborah is Director of Tŷ Cerdd | Music Wales. Tŷ Cerdd works to develop and promote the music of Wales – under the slogan ‘if you’re making music in Wales, it’s Welsh music’. Talent development is at the heart of Ty Cerdd’s work, and the organisation works across Wales from its base in Cardiff, where it hosts a recording studio, library and two record labels. Working in collaboration with Wales Arts International and Jazz Promotion Network to deliver the Wales presence at jazzahead! 2026, Tŷ Cerdd also partners with FOCUS Wales on #WelshMusicAbroad, creating opportunities for artists and industry to engage music markets across the globe.

tomos williams.jpg

Tomos Williams

Mae Tomos Williams yn gerddor, cyfansoddwr a ffigwr blaenllaw yn y sîn jazz yng Nghymru. Mae’n arwain nifer o fandiau – y chwechawd jazz/gwerin Cymreig Burum, y grŵp cerddoriaeth byd Indo-Gymreig Khamira, Blodeugerdd/The Great Welsh Songbook, a'i brosiect Cwmwl Tystion. Mae Tomos hefyd yn Gadeirydd Jazz Explorers Cymru, corff newydd a sefydlwyd i hyrwyddo popeth sy'n ymwneud â jazz (o fentrau addysg i berfformiadau) yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rhyddhawyd ei albwm diweddaraf, Cwmwl Tystion III / Empathy, fis diwethaf, gyda Nguyên Lê ar y gitâr a Melvin Gibbs ar y bas. Mae’r albwm yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â hanes a hunaniaeth Cymru. Mae Blodeugerdd yn fand sy'n cynnwys y cerddorion jazz o Gymru Huw Warren, Paula Gardiner, Rachel Musson, Mark O'Connor a'r canwr ifanc Eadyth Crawford. Mae Khamira yn gydweithrediad rhyng-ddiwylliannol rhyngwladol blaenllaw o Gymru, sydd wedi teithio Cymru sawl gwaith, India dair gwaith a De Corea ddwywaith. Mae cerddoriaeth Khamira yn gyfuniad naturiol o gerddoriaeth werin Cymru, cerddoriaeth glasurol a roc Hindustani, dan ymbarél jazz. Mae Burum wedi perfformio'n rheolaidd ledled Cymru, yng Ngŵyl Interceltique de Lorient., Ffrainc ac yn UDA.

Tomos Williams is a musician, composer and a leading figure on the Welsh jazz scene. He leads numerous bands – the Welsh jazz/folk sextet Burum, Indo-Welsh world music outfit Khamira, Blodeugerdd/The Great Welsh Songbook, and his Cwmwl Tystion project. Tomos is also Chair of Jazz Explorers Cymru, a new body set up to promote all things jazz (from education initiatives to performances) within Wales and internationally. His latest album, Cwmwl Tystion III / Empathy, was released last month, including Nguyên Lê on guitar and Melvin Gibbs on bass, and deals with issues relating to Welsh history and identity . Blodeugerdd is a band that features Welsh jazz musicians Huw Warren, Paula Gardiner, Rachel Musson, Mark O'Connor and young vocalist Eadyth Crawford. Khamira is Wales's flagship, international cross-cultural collaboration, having toured Wales many times, India three times and South Korea twice. Khamira's music is a natural amalgamation of Welsh folk, Hindustani classical music and rock, under the umbrella of jazz. Burum have performed regularly across Wales, at the Festival Interceltique de Lorient., France and in the USA.

jazzahead 2026 logo strip.png
bottom of page