top of page

Dafydd Bullock 1953

Cafodd Dafydd Bullock ei eni yn 1953 yn Llanberis, Gwynedd. Mae'n gyfansoddwr, arweinydd, trefnydd ac athro a raddiodd mewn Cerddoriaeth (Prifysgol Manceinion a'r Royal Northern College of Music, - Maestro George Hadjinikos - 1971 - 1976) cyn dilyn Gradd Feistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol (Prifysgol Sussex, 1981 - 1983). Yn 1993 a 1994 enillodd wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac yn 1995 cafodd ei urddo â'r Wisg Wen gan Orsedd y Beirdd. Fe'i gwnaed yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA) yn 2005.

Ymhlith ei gyfansoddiadau y mae 40 symffoni, 19 cerdd symffonig, 2 opera, 2 Offeren dros y Meirw, 2 osodiad ar gyfer Offeren, Missa Brevis, oratorio, 41 pedwarawd llinynnol a cherddoriaeth siambr arall a llawer o ganeuon a darnau ar gyfer y piano. Cyfansoddodd y sgôr ar gyfer 2 ffilm.

Cyhoeddwyd gweithiau ganddo yng ngwledydd Prydain gan Gwmni Gwynn, Curiad a Bardic Edition, yng Ngwlad Belg gan Alain Van Kerckhoven Editeur, yn Lwcsembwrg gan Luxembourg Music Publishers, Music Enterprise a Double You a chan Lyon a Healy West yn Utah a Crane Music yng Nghaliffornia yn yr Unol Daleithiau. Hyd yma y mae wedi gwneud 41 o gryno-ddisgiau, gyda SAIN (Cymru), AVK (Gwlad Belg) a LakeSound. Cafodd ei gerddoriaeth ei pherfformio a'i darlledu mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Japan, China, Brasil a Cholombia yn ogystal â llawer yn Ewrop.

Mae gan Dafydd berthynas arbennig gyda Phrâg: perfformiwyd ei Ail Symffoni am y tro cyntaf erioed gan Musici de Praga yn ystod Gwyl Wanwyn Prâg 1996 a'r Drydedd Symffoni, eto ym Mhrâg, ar Ddydd Gwyl Sain Folant, 1997. Fe gafodd y trydydd a'r pedwerydd Pedwarawd Llinynnol hefyd eu recordio ym Mhrâg (Pedwarawd Becher) yn ogystal â'r gweithiau cyflawn ar gyfer Sielo a Phiano (Jindrich Ptacek) a phum Thriawd. Yn fwy diweddar, bu Virtuosi di Basso, deuddeg sielo unigol Cerddorfa Ffilharmonig Tsiecoslofacia yn recordio a pherfformio cerddoriaeth a ysgrifennwyd yn arbennig ar eu cyfer.
 

Dafydd Bullock.jpg
ENGLISH

Dafydd Bullock was born in 1953 in Llanberis, Gwynedd, Cymru (Wales). A composer, conductor, arranger and teacher, he graduated in Music (University of Manchester and the Royal Northern College of Music, 1971 - 1976) where he studied with George Hadjinikos, and took a Master's Degree in International Relations (University of Sussex, 1981 - 1983). In 1993 and 1994 he won first prizes at the National Eisteddfod of Wales, and in 1995 he was honoured in Wales by admission to the highest Order of the Gorsedd of Bards. He was made a Fellow of the Royal Society of Arts in 2005.

His compositions include 40 Symphonies, 19 Symphonic Poems, 2 Operas, 2 Requiems, 2 Mass settings, a Missa Brevis, an Oratorio, 41 String Quartets, 9 Trios and other chamber music and many songs and pieces for piano. He has written scores for 2 films. 

Works have been published in the British Isles by Cwmni Gwynn, Curiad and Bardic Edition, in Belgium by Alain Van Kerckhoven Editeur, in the USA and in Luxembourg by Luxembourg Music Publishers, Music Enterprise and Double You. He has made 41 CDs to date, with SAIN (Wales), AVK (Belgium) and LakeSound. His music has been performed and broadcast in many countries, including Japan, China, Brazil and Colombia as well as widely within Europe. 

Dafydd has a particular relationship with Prague: his Second Symphony was given its world premiere by Musici de Praga during the 1996 Prague Spring Festival and the Third Symphony, again in Prague, on St. Valentine's Day, 1997. The third and fourth String Quartets were also recorded in Prague (Becher Quartet) as were the complete works for Cello and Piano (Jindrich Ptacek) and five Trios. Virtuosi di Basso, the twelve solo celli of the Czech Philharmonic Orchestra have recorded and performed music especially written for them. In 2008 and 2009 he premiered his Requiem for Jan Palach in Luxembourg and in Prague.

bottom of page