top of page

Daniel Jones 1912-93 

Daniel Jones yw un o’r cyfansoddwyr ôl-ryfel Cymreig, neu’n wir Brydeinig, pwysicaf. Gadawodd gorff mawr o weithiau ym mron pob maes gweithgarwch creadigol – tair symffoni ar ddeg; wyth pedwarawd llinynnol; corff mawr o gerddoriaeth siambr; cerddoriaeth achlysurol; opera (The Knife ac Orestes); sawl cantata; a choncerti – y tri mwyaf nodedig yw’r rhai ar gyfer Soddgrwth, Obo a Feiolin.

Wedi’i eni yn Abertawe, fe’i hanogwyd ar y dechrau i astudio llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydeddau yn y dosbarth cyntaf gan fynd rhagddo yn nes ymlaen i gwblhau ei Radd Feistr lle bu’n astudio Canu Telynegol Oes Elisabeth. Ffrind bore oes iddo oedd Dylan Thomas, a ddaeth wedyn yn fardd adnabyddus yn rhyngwladol a phortreadir eu perthynas yn lliwgar yng nghofiant Jones, My Friend Dylan Thomas (1977). Jones a gyfansoddodd y gerddoriaeth arobryn ar gyfer Under Milk Wood ac yn nes ymlaen ef fyddai’n golygu cerddi Thomas gan gynnwys sawl enghraifft o waith cynnar y bardd. Fe ddichon i’w gemau geiriau fel ffrindiau mebyd ysbrydoli gwaith y ddau.