top of page

Rydym yn galw ar grewyr cerddoriaeth i ymuno â llwybr datblygu sydd â thâl ar gyfer ysgrifennu i ffidil ac electroneg.

​

Bydd 6 o grewyr cerddoriaeth yn cael eu mentora drwy’r broses gan Angharad Davies (cyfansoddwr) a Darragh Morgan (feiolinydd), sef artistiaid blaenllaw ym myd cerddoriaeth newydd y Deyrnas Unedig.

​

Bydd y 6 chyfranogwr a ddewisir yn derbyn £500 yr un (ynghyd â chostau teithio o fewn Cymru) i gymryd rhan mewn gweithdai dros gyfnod o 7 mis, gan ddatblygu eu hymarfer mewn un o ddwy ffordd:

​

  • trac electronig cyfryngau sefydlog gyda pherfformiad ffidil byw

  • prosesu sain byw gyda pherfformiad ffidil byw

​

Bydd gan yr artistiaid sy’n cymryd rhan brofiad blaenorol o weithio gydag electroneg (ynghyd â chaledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol). Byddwn ni’n darparu meicroffonau, system sain, desg gymysgu a pheiriannydd. Bydd cyfle i recordio ffynonellau yn y gweithdai cynnar a gellid defnyddio’r rhain i ddatblygu traciau electronig.

​

Ffocws y llwybr yw datblygu sgiliau a rhoi cyfle i brofi ac archwilio. Bydd gweithiau newydd sy’n cael eu creu yn cael eu recordio i’w defnyddio yn yr archif a (lle bo’n briodol) yn cael eu cyhoeddi gan Gyhoeddiadau Tŷ Cerdd.

 

Os gwnewch gais, mae’n rhaid i chi fod ar gael ar gyfer y gweithdai canlynol a’r recordio terfynol, a’r rhain oll yn Stiwdio Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd (yng Nghanolfan Mileniwm Cymru):

​

  • 1100-1800, dydd Sul 22 Medi – gweithdy #1

  • 1100-1800, dydd Sadwrn 2 Tachwedd – gweithdy #2

  • 1100-1800, dydd Sul 26 Ionawr– gweithdy #3

  • 1100-1800, dydd Sul 16 Mawrth – gweithdy #4

  • 1000-1700, dydd Iau 24 Ebrill – recordio

 

CYFRANOGWYR

Genre cerddorol  Rydym eisiau bod mor agored â phosibl i grewyr cerddoriaeth o amrywiaeth o genres. Efallai eich bod yn gyfansoddwr nodiant, neu’n gweithio â sgôr graffeg; efallai eich bod yn gweithio ym maes byrfyfyr neu gyda thechnegau estynedig; efallai eich bod yn artist electronig sydd ddim yn defnyddio nodiant sy’n awyddus i ddysgu mwy am ysgrifennu ar gyfer offeryn acwstig. Mae’r canlynol yn hanfodol:

  • rhywfaint o brofiad mewn gwaith electronig – y sgiliau a’r offer i greu trac electronig sefydlog neu i brosesu perfformiad byw

  • diddordeb mewn archwilio galluoedd y ffidil

 

Crewyr cerddoriaeth o Gymru  Rydych chi’n gymwys os ydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol ac rydych chi wedi byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn, neu wedi cael eich geni yma. Croesewir ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a thelir costau teithio artistiaid (o fewn Cymru).

 

Amrywiaeth Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi’u hanwybyddu neu eu gwahardd o’r gymuned gelfyddydol; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

 

Y Gymraeg   Er mai drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf y bydd y rhaglen, eto rydym yn annog yn gryf i artistiaid sy’n siarad Cymraeg i ymgeisio, a byddwn yn sicrhau bod amser a lle ar gyfer trafodaeth ddwyieithog drwy’r broses. (Mae Angharad Davies yn siarad Cymraeg yn rhugl.)

​

 

OS OES GENNYCH DDIDDORDEB, ON BOD GENNYCH GWESTIYNAU...

gallwn sgwrsio â chi dros y ffôn neu Zoom. Anfonwch neges ebost atom i drefnu galwad. Rydyn ni eisiau cael gwared ar gynifer o rwystrau ag y gallwn – felly os oes unrhyw beth yr hoffech siarad â ni amdano, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.

​

 

I YMGEISIO...

ewch ati i lanlwytho’r wybodaeth ganlynol i’n PORTH:

1. Manylion personol: enw, cyfeiriad ebost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed

​

2. Eich ymarfer:  Disgrifiwch eich ymarfer; beth ydych chi wedi bod yn fwyaf balch ohono? (Dim mwy na 200 gair)

​

3. Pam hoffech chi fod yn rhan o’r llwybr hwn? Sut ydych chi’n credu y bydd y llwybr hwn o fudd i’ch ymarfer? Dywedwch wrthym sut y gall y llwybr adeiladu ar eich profiad blaenorol. Beth ydych chi’n gobeithio y bydd cymryd rhan yn ei newid a’i ddatblygu i chi? Dywedwch wrthym am eich profiad mewn gwaith electronig, a sut y gallech fynd ati i weithio gydag electroneg a ffidil byw. (Dim mwy na 750 gair)

​

4. A oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gefnogaeth neu unrhyw amodau sydd eu hangen arnoch i’ch galluogi i gymryd rhan yn y llwybr.

​

5. Enghreifftiau o’ch gwaith: atodwch 2 ddolen neu atodiad i’ch cerddoriaeth (anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)

​

Rydym yn croesawu ceisiadau ar fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2, 3 a 4 uchod (dim hirach na 8 munud o hyd), a lanlwytho’r ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 5 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, ebostiwch ni i gael help.

​

 

AMSERLEN A'R BROSES

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1200 ganol dydd ar ddydd Gwener 19 Gorffennaf

Panel: Angharad Davies, Darrah Morgan a Deborah Keyser (Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd)

Byddwn yn rhoi’r gwybod ein penderfyniad i chi erbyn yr wythnos yn dechrau 5 Awst

Angharad Davies

Feiolinydd o Gymru sy’n byw yn Llundain yw Angharad Davies, ac mae’n gweithio ar weithiau byrfyfyr rhydd, cyfansoddiadau a pherfformio.

​

Mae ei dull o ymdrin â sain yn cynnwys gwrando’n astud ac yna archwilio y tu hwnt i gyfyngiadau sonig ei hofferyn, ei hyfforddiant clasurol a disgwyliadau perfformio.

​

Mae llawer o’i gwaith yn ymwneud â chydweithio. Mae ganddi ddeuawdau hirsefydlog â Tisha Mukarji, Dominic Lash a Lina Lapelyte ac mae’n chwarae â Common Objects, Cranc a Skogen. Mae wedi bod yn rhan o brosiectau gyda Tarek Atoui, Tony Conrad, Richard Dawson, Gwenno, Roberta Jean, Jack McNamara, Rie Nakajima, Tim Parkinson, Éliane Radigue, Georgia Ruth a JG Thirwell.

​

Mae’r rhan fwyaf o’i recordiau wedi’u rhyddhau ar Another Timbre, ond mae hi hefyd wedi cyhoeddi gydag Absinth Records, Confront Recordings, Emanem, Potlatch a winds measure recordings. Comisiynwyd ei darn cyntaf i gerddorfa gan LCMF yn 2019.

​

Darragh Morgan

Mae’r feiolinydd o Iwerddon Darragh Morgan wedi ymddangos fel unawdydd a cherddor siambr yn Neuadd Wigmore Hall, Gŵyl Aldeburgh , Maerzmusik Berlin, Gŵyl Gerdd Gyfoes Huddersfield, Proms y BBC, Osterfestival Tirol, Bang on a Can Marathon a National Sawdust yn Efrog Newydd, Philips Collection Washington DC, Gŵyl Gerdd Fodern Beijing a Chanolfan Celfyddydau Dwyreinol Shanghai. Mae wedi recordio mwy na 75 o albymau, a llawer o’r rhain wedi cael gwobrau Diapason d'Or a Gramophone.

​

​Mae Darragh wedi gweithio'n agos gyda chyfansoddwyr amrywiol ar gyfer berfformiadau cyntaf o'u gerddoriaeth; Steve Reich i John Tavener, George Lewis i Michael Finnissy a'r crewyr iau Ann Cleare ac Alex Paxton.

​

‘Perfformiwr sy’n gatalydd creadigol i gynifer o ddarnau newydd a chynifer o gyfansoddwyr…’ Tom Service, BBC Radio 3

​

CoDI 24-25 logos.png

Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

bottom of page