top of page
QD ffocws.jpg

FFOCWS

Ysbrydoliaeth, arloesedd ac agosatrwydd gan y pedwarawd o Gymru Quartet Draig  

Cyn rhyddhau albwm cyntaf Quartet Draig, aeth Immy Hollins i gael gair â Tabitha Selley, sy’n chwarae’r soddgrwth yn y pedwarawd, er mwyn dysgu mwy amdanyn nhw a cherddoriaeth Gymreig… 

Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle daethant at ei gilydd yn 2020, roedd Quartet Draig eisoes wedi nodi ymrwymiadau penodol ar gyfer eu cydweithredu, sef: 'cariad rydyn ni’n ei rannu at yr elfen agos-atoch mewn chwarae siambr', i 'fwynhau’r teimlad o ddeall lleisiau cerddorol ein gilydd' a chreu lle sy’n 'ddiogel i arbrofi gyda’n gilydd'. Ychydig flynyddoedd (llwyddiannus) yn ddiweddarach, a chyda’r genhadaeth unedig hon, parhau mae eu taith. 

 

Mae’r pedwar cerddor yn y pedwarawd naill ai’n dod o Gymru, wedi byw yno, neu mae ganddyn nhw gysylltiadau teuluol â Chymru. Mae Tabitha Selley, sielydd Quartet Draig, yn teimlo bod hyn yn rhan annatod o hunaniaeth y pedwarawd, gan ddyfnhau eu cysylltiad a’u hymrwymiad i hyrwyddo gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig. Mae’r diddordeb hwn yn eu lleoli’n gadarn yn y sîn gerddoriaeth Gymreig, wrth iddynt symud trwy amrywiaeth o brosiectau a chydweithrediadau sydd oll yn cryfhau ac yn datblygu eu sain. Rhan o’u halbwm newydd yw trefniant a ysgrifennwyd ar y cyd rhyngddynt, wedi’i ysbrydoli gan alawon gwerin Cymru. Wrth ymarfer a chynnal gweithdai ar y caneuon traddodiadol hyn, cydweithiodd y pedwarawd i ddod o hyd i fersiwn ‘byw’ o’u trefniadau. 

Gwlad y Gan digital square small.jpg

Rhyddheir Gwlad y Gân, albwm cyntaf Quartet Draig ar 28 Ebrill

Yn yr ychydig flynyddoedd ers dod at ei gilydd, mae Quartet Draig wedi perfformio nifer o weithiau, gan gynnwys yn Eisteddfod yr Urdd, i Lywodraeth Cymru, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mewn dwy gystadleuaeth yn Neuadd Wigmore, Llundain. Maent eisoes wedi cael rhai profiadau a chyflawniadau bythgofiadwy yn ystod eu cyfnod byr gyda’i gilydd, ac maent yn arbennig o hoff o her newydd. Dywed Tabitha fod y pedwarawd 'wastad yn cael eu hysbrydoli a’u cyffroi pan fydd lleoliad, gŵyl neu artist newydd yn cysylltu â ni; mae wir yn teimlo fel petai ymdeimlad o greadigrwydd ac arloesedd yn digwydd yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.' 

Gan fod yr albwm ar fin cael ei rhyddhau ar label Sionci, sef label Tŷ Cerdd dan arweiniad yr artistiaid eu hunain, gall gwrandawyr eu clywed yn perfformio’r prosiectau diweddaraf sy’n ganolog i genhadaeth y pedwarawd, a chlywed cerddoriaeth nad yw erioed wedi’i recordio o’r blaen. Mae’r ensemble yn frwd dros sicrhau “sain gynnes a chyfoethog pedwarawd llinynnol, a dyna pam rydyn ni’n aml yn cael ein denu at berfformio gweithiau Cymreig a Seisnig,” meddai Tabitha, ac mae digonedd yn y cywair hwn ar y recordiad newydd hwn – o Grace Williams i Edward Elgar, William Mathias i Imogen Holst, ynghyd â cherddoriaeth gan Frank Bridge a’r trefniadau caneuon gwerin a grëwyd gan y pedwarawd. 

quotation marks_edited_edited_edited.png

Mae aelodau Quartet Draig 'yn mwynhau'r teimlad o ddeall lleisiau cerddorol ein gilydd'

Datblygiad pwysig yw bod Quartet Draig wedi comisiynu’r cyfansoddwr o Gymru, Cameron Biles-Liddell, i ysgrifennu pedwarawd llinynnol iddyn nhw – gwaith sylweddol, pedwar symudiad sy’n agor y recordiad. Ysbrydolwyd Cameron gan lên gwerin Cymru, a’r pedwarawd wedi defnyddio hwn fel man cychwyn i adeiladu’r rhaglen ar gyfer yr EP newydd hwn. Dilynwyd hyn gan geisiadau am gyllid ar gyfer cynhyrchu’r albwm, gyda chefnogaeth gan Tŷ Cerdd, ynghyd â theithio, ac yn y pen draw recordio. “Mae wedi bod yn broses hir ond cyffrous iawn. Mae pawb yn Tŷ Cerdd wedi bod yn gefnogol ac wedi ymrwymo i’n gweledigaeth wrth roi’r albwm cyfan at ei gilydd. Mae pawb yno mor gyfeillgar a brwd dros yr hyn maen nhw’n ei wneud. Mae bob amser yn bleser gweithio gyda nhw ac ymweld â’r stiwdio.” Mae’r albwm yn enwedig o arbennig i Quartet Draig gan fod pob aelod wedi “bod yn rhan ohono o’r cychwyn cyntaf, trwy’r creu, y perfformio, ac yna’r recordio”.

QD photo.jpg

Mae Quartet Draig yn perfformio cerddoriaeth o'u halbwm cyntaf yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 28 Ebrill.

Cynhelir cyngerdd i lansio’r albwm yn Jacobs Antiques yng Nghaerdydd ar 28 Ebrill am 6:30pm, gyda thocynnau ar gael YMA

 

Bydd darnau o’r albwm hefyd yn cael eu perfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen brynhawn dydd Sul 12 Gorffennaf, a bydd y pedwarawd yn ymddangos yng Ngŵyl Gerdd Llandeilo ym mis Mehefin, yn perfformio Pedwarawd Llinynnol Rhif 2 Schumann

quartetdraig.co.uk

Immy H_edited_edited.jpg

Mae Immy Hollins yn fyfyriwr MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae ar hyn o bryd yn gwneud interniaeth gyda Tŷ Cerdd. 

bottom of page