top of page

GALWAD SHOWCASE SCOTLAND 

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan berfformwyr yng Nghymru sy’n barod i arddangos eu cerddoriaeth a datblygu cynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. 

​

Bydd Cymru a Llydaw yn rhannu’r llwyfan yn Showcase Scotland 2023, a’r ddwy genedl yn dod â thri artist/act yr un i berfformio yn Glasgow ac i gwrdd â’r diwydiant.

​

Mae TÅ· Cerdd, Focus Wales, Trac Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi dod ynghyd i alw ar artistiaid o Gymru i wneud cais am y cyfle.

​

Y dyddiad cau yw 1700 ddydd Gwener 22 Gorffennaf.

Showcase Scotland 2023 luggage label.png

SHOWCASE SCOTLAND @ CELTIC CONNECTIONS

Arddangosfa a ffair fasnach i’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol yw Showcase Scotland; mae’n para 5 diwrnod ac yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn ystod gŵyl Celtic Connections yn Glasgow. Bydd digwyddiad 2023 yn gyfle i gerddorion a’u timau rheoli rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol, a datblygu eu gyrfaoedd a’u busnesau. Mae’n dilyn Showcase Scotland 2022, a oedd wedi rhoi llwyfan digidol i 6 act o Gymru yn ystod Spotlight Cymru Wales. 

 

Gŵyl flynyddol fawr yw Celtic Connections sy’n llwyfannu cerddoriaeth werin, cerddoriaeth wreiddiau a cherddoriaeth y byd. Mae’n dathlu cerddoriaeth Geltaidd a’i chysylltiad â diwylliannau o amgylch y byd, ac yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled Glasgow yn ystod mis Ionawr.

​

A YW SHOWCASE SCOTLAND YN ADDAS I MI/FY NGRÅ´P?

Dyma gyfle gwerthfawr i ddangos eich cerddoriaeth i bobl broffesiynol blaenllaw o’r diwydiant, gan gynnwys trefnwyr gwyliau, cynrychiolwyr lleoliadau ac asiantau o bob cwr o’r byd. Mae’r rhain yn bobl sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth werin, cerddoriaeth wreiddiau a cherddoriaeth y byd sy’n dathlu ei dylanwadau Celtaidd ac sy’n cysylltu â diwylliannau ym mhedwar ban y byd.  Er bod pwyslais Showcase Scotland ar genres cerddoriaeth werin a cherddoriaeth draddodiadol gyfoes, rydyn ni’n awyddus i glywed gan ystod eang o artistiaid a thraddodiadau byw, yn enwedig:

  • artistiaid sy’n gweithio yn y Gymraeg

  • artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang

  • artistiaid anabl neu sydd â salwch (meddyliol neu gorfforol)

  • artistiaid o gymunedau sydd o dan anfantais economaidd, cymunedau wedi’u hallgáu a chymunedau lleiafrifol

  • artistiaid sy’n cydweithio’n arloesol i gyfuno genres.

​

BETH YW'R BROSES DDETHOL?

Bydd ceisiadau a ddaw i law yn cael eu hystyried gan banel o gynghorwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, a’r rheini’n dod o ystod eang o gymunedau a chefndiroedd proffesiynol. (Bydd enwau aelodau’r panel yn cael eu cyhoeddi pan gânt eu cadarnhau.) Bydd y panel yn asesu pob cais ar sail y meini prawf ac yn creu rhestr fer derfynol o tua 6 o berfformwyr. Rhoddir y rhestr fer i Gyfarwyddwr Artistig Celtic Connections a fydd wedyn yn dewis 3 i ymddangos yn rhan o berfformiadau Showcase.

​

BETH FYDD YR ARTISTIAID LLWYDDIANUS YN EI GAEL? 

Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn cael eu talu am berfformiad yn y Celtic Connections a byddant hefyd yn perfformio mewn digwyddiad i berfformwyr o Gymru yn benodol ar gyfer cynrychiolwyr o’r diwydiant cerddoriaeth a fydd yn Showcase Scotland.  Bydd nifer o gyfleoedd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ac artistiaid eraill yn ystod y diwrnodau eraill.

 

Bydd costau teithio, llety a per diems yn cael eu darparu. Byddwn hefyd yn ystyried costau ar gyfer gallu cael mynediad a chostau gofal plant os yw hynny’n rhwystro’r artistiaid sy’n cael eu dewis rhag cymryd rhan.

​

RHAGLEN DATBLYGU ARTISTIAID (ADP)

Gyda chymorth ariannol gan CCC/CRhC, mae TÅ· Cerdd, FOCUS Wales a Trac Cymru wedi cydweithio i gyflwyno rhaglen ddatblygu ar gyfer 15 artist/act a wnaeth gais i Showcase Scotland 2022 – gan ddarparu mentora, rhwydweithio a bwrsariaethau. Rydym yn ymchwilio i’r posibilrwydd/awydd am raglen debyg ar gyfer ymgeiswyr dethol i ddigwyddiad 2023 a byddwn yn ystyried barn yr ymgeiswyr.  

Making an application

GWNEUD CAIS

Gallwch wneud cais drwy’r ffurflen hon ar-lein

[DS Wrth lenwi’r cais, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth angenrheidiol gennych wrth law. Ni allwch gadw manylion yn y ffurflen hon ac felly os byddwch yn ei gadael ac yn dychwelyd ati bydd angen i chi ddechrau o’r newydd eto.]

​

DS Derbynnir ceisiadau sain neu ar fideo hefyd – lanlwythwch y wybodaeth y gofynnir amdani yng nghwestiynau 1, 2 a 7-10 i’r ffurflen lanlwytho, a recordiwch sain/fideo ohonoch chi’ch hun yn ateb cwestiynau 3-6 (dim mwy na 5 munud o hyd).

 

Mae’r ffurflen yn gofyn i chi am y canlynol:

  1. Enw llawn

  2. Cyfeiriad post (rhaid i hwn fod yng Nghymru); cyfeiriad e-bost; rhif ffôn symudol

  3. Disgrifiwch eich gwaith, a dywedwch wrthym pam y credwch fod eich cerddoriaeth yn addas i Showcase Scotland  hyd at 150 gair

  4. Dywedwch wrthym pam rydych chi’n ymgeisio a sut y bydd y cyfle hwn yn cynorthwyo i ddatblygu eich gyrfa  hyd at 100 gair

  5. A oes gennych chi uchelgais i weithio’n rhyngwladol? Os oes, ble a pha mor ddatblygedig yw eich cynlluniau?  hyd at 100 gair

  6. Pa gefnogaeth fydd ei hangen arnoch i fynd i’r afael â phrif fantais y cyfle hwn (ee mentora, hyfforddiant, cynrychiolaeth)?  hyd at 50 gair

  7. Rhowch ddolenni i’r traciau sydd gennych ar hyn o bryd ar-lein, a thystiolaeth fod gennych chi gynulleidfa eisoes i’ch cerddoriaeth (e.e. Spotify, iTunes, Bandcamp, etc, a dolenni i recordiadau, perfformiadau, fideos, y cyfryngau cymdeithasol, cerddoriaeth wedi’i lawrlwytho, adolygiadau o waith wedi’i recordio a pherfformiadau, ati) 

  8. Rhowch fanylion y gynrychiolaeth broffesiynol sydd gennych ar hyn o bryd (rheolwr, asiant, hyrwyddwr) os oes gennych un 

  9. Esboniwch sut y byddwch chi’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd mae Showcase Scotland yn eu cynnig, er enghraifft, drwy eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, cynnyrch hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad, Pecyn Electronig i’r Wasg (EPK) ar gael, neu luniau fideo byw. 

  10. Ffurflen monitro cydraddoldeb

​

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 1700 ddydd Gwener 22 Gorffennaf

Zoom session

DEWCH I SESIWN ZOOM AGORED I GAEL RHAGOR O WYBODAETH

Bydd y partneriaid yn cynnal cyfarfod Zoom agored am 1700 ddydd Iau 14 Gorffennaf i siarad mwy am y cyfle a gynigir gan Showcase Scotland ac i ateb cwestiynau gan unrhyw un sydd â diddordeb. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn anffurfiol hon i drafod, lle gallwn eich helpu i weld a yw’r cyfle hwn yn addas i chi.

 

Dalier sylw: bydd cyfieithu Cymraeg i Saesneg a BSL ar gael.

 

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn Zoom YMA

NODIADAU I YMGEISWYR

  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos hanes cryf o lwyddo, a dangos bod gennych chi gynulleidfa eisoes.

  • Byddai’n fanteisiol pe bai gennych chi dystiolaeth o ddiddordeb neu gefnogaeth eisoes gan y diwydiant cerdd, megis tystiolaeth o gynrychiolwyr proffesiynol (rheolwr, asiant neu hyrwyddwr); rhowch fanylion y rhain yn eich cais.

  • Efallai y bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau â’r wasg a sesiynau tynnu lluniau yn ôl y galw ar gyfer prosiect Cymru yn Showcase Scotland.

  • Rhaid i chi fod ar gael i berfformio yn Glasgow yn ystod dyddiadau gŵyl Showcase Scotland 2023. Mae’n debygol mai rhwng 26 a 29 Ionawr 2023 fydd hyn (sylwer bod posibilrwydd y bydd raid recordio ymlaen llaw ar gyfer perfformiadau hybrid oherwydd y pandemig)

  • Bydd y panel yn ystyried yn awtomatig y cyflwyniadau a wnaed ar gyfer Showcase Scotland 2022 gan artistiaid na chawsant le llynedd. Sylwer: croesewir unrhyw ddiweddariad i wybodaeth (datganiadau newydd; recordiadau/perfformiadau ychwanegol; EPKs wedi’u diweddaru), a dylid anfon e-bost at showcasescotland@tycerdd.org

  • Ni fydd artistiaid a ddewiswyd i Showcase Scotland yn 2022 yn cael eu hystyried ar gyfer 2023.

  • Os ydych yn ansicr ynghylch gwneud cais, yn bryderus am rwystrau rhag ymgeisio, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch showcasescotland@tycerdd.org i drefnu sgwrs anffurfiol.

NOTES TO APPLICANTS
Showcase Scotland 2023 call logo strip.png
bottom of page