top of page

PEN DINAS IN VOICE

Alan Chamberlain

Ers blynyddoedd lawer mae Alan Chamberlain yn cael ei gyfareddu gan Ben Dinas, bryngaer o’r Oes Haearn sy’n agos i’w gartref ym mhentre Penparcau ger Aberystwyth. Drwy ei astudiaethau, mae wedi ceisio deall y safle yn well a’r gwahanol ffyrdd y mae pobl wedi’i ddefnyddio. Mae Pen Dinas in Voice yn edrych ar bosibiliadau sonig y fryngaer drwy gyfuno technoleg, recordiadau maes, cyfweliadau a data archaeolegol. Mae tair adran i’r cyfansoddiad, pob un â’i phriodweddau sonig arbennig sy’n cynrychioli esblygiad ac adeiladwaith y safle. Yn yr un modd â’r gwahanol ddehongliadau o arwyddocâd y gaer a’r holl ystyron y mae’n eu dal i’r rheini sy’n gysylltiedig â hi, mae’r darn wedi’i ddatblygu fel y gall gael ei berfformio mewn nifer o ffyrdd. O fewn y darn, ceir elfennau sy’n darparu’r ‘gefnlen’ strwythurol, gyda’r perfformwyr yn derbyn cyfres o ‘dameidiau’ sain y gallant eu dehongli fel a fynnont. Er gwaethaf defnyddio gwahanol ddulliau a thechnegau, mae’r gwaith yn cadw elfennau y gellir eu nabod bob tro y caiff ei berfformio.


For many years Alan Chamberlain has been fascinated by Pen Dinas, an Iron Age hill fort close to his home in the village of Penparcau, near Aberystwyth. Through his studies he has endeavoured to better understand the site and the various ways in which people have used it. Pen Dinas in Voice explores the sonic possibilities of the hill fort by combining technology, field recordings, interviews and archaeological data. The composition consists of three sections, each with its own distinct sonic qualities, which represent the evolution and construction of the site. Like the differing interpretations of the fort’s significance and the multiple meanings it holds for those connected with it, the piece has been developed so that it can be performed in numerous ways. Within the piece there are elements which provide the structural ‘backdrop’, while the performers are given a series of audio ‘fragments’ which they can freely interpret. Despite the use of different approaches and techniques, the work retains recognisable elements each time it is performed.

bottom of page