top of page

DATGANIAD PREIFATRWYDD

Mae diogelu eich preifatrwydd yn bwysig i ni yn TÅ· Cerdd ac rydym yn ymrwymedig i roi gwybod ichi sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth a’ch data personol. Bydd TÅ· Cerdd ond yn cysylltu â chi drwy’r dull(iau) cyfathrebu o’ch dewis chi i roi’r gwasanaethau a’r cynnyrch rydych wedi gofyn amdanynt.

Mae’r polisi hwn yn esbonio pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth bersonol, sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno, yr amodau y gallwn ddatgelu’r wybodaeth i eraill a sut rydym yn ei chadw’n ddiogel.

Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o dro i dro, felly dylech edrych ar ein gwefan o dro i dro i sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau. Trwy ddefnyddio gwefan TÅ· Cerdd, rydych chi’n cytuno â thelerau’r polisi hwn.

Mae cyfeiriadau at “ni” neu “ein” yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn cyfeirio at TÅ· Cerdd - Canolfan Cerddoriaeth Cymru, sy’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) yng Nghymru a Lloegr, rhif elusen gofrestredig: 1152853. Dylid anfon unrhyw gwestiynau ynghylch y polisi hwn a’n harferion preifatrwydd trwy e-bost i enquiries@tycerdd.org neu drwy lythyr i: TÅ· Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL neu gallwch ffonio 029 2063 5649 i siarad â rhywun yn uniongyrchol.

​

1. Sut rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch
Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch wrth i chi ymwneud â TÅ· Cerdd. Mae sawl achlysur pan allai hyn ddigwydd, er enghraifft trwy ein gwefan neu ar y ffôn: os ydych yn holi am ein gweithgareddau a’n gwasanaethau, yn cofrestru gyda ni fel aelod, yn prynu cynnyrch o’n siop ar-lein (rhagor o wybodaeth am hyn isod), yn holi am gyfleoedd ariannu, yn ymgeisio am swydd neu os ydych yn cofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau.

2. Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch?

  • Gall y wybodaeth bersonol a gasglwn gynnwys eich enw, eich teitl, eich cyfeiriad e-bost, eich cyfeiriad post, eich rhifau ffôn, eich rôl mewn sefydliad ac yn ogystal, os defnyddiwch ein gwefan, eich cyfeiriad IP a gwybodaeth ynghylch pa dudalennau aeth â’ch sylw – a phryd. Rydym yn cael y wybodaeth hon yn ddienw trwy Google Analytics ac fe’i cofnodir pob chwe mis.

  • Ar gyfer aelodau sy’n sefydliadau, efallai y byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol nad yw’n bersonol, megis nifer yr aelodau fesul grŵp, demograffeg oedran yn y gymdeithas ac unrhyw gyfrifon y cyfryngau cymdeithasol a allai roi modd i TÅ· Cerdd ddilyn eich newyddion a’ch gweithgareddau.

  • Os ydych yn prynu cynnyrch trwy www.tycerddshop.com, ni chedwir gwybodaeth am eich cerdyn talu gennym ni, yn hytrach fe’i cesglir gan ein proseswyr talu trydydd parti, sef Tictail, sy’n arbenigo mewn cipio a phrosesu trafodion cerdyn credyd/debyd ar-lein yn ddiogel. Gellir dod o hyd i’w telerau a’u hamodau preifatrwydd yma: https://tictail.com/privacy-policy

   

3. Ein defnydd o’r wybodaeth hon a phwy sy’n ei gweld
Defnyddir y wybodaeth bersonol a gasglwn fel a ganlyn:

  • rhoi’r cyngor a’r cymorth pwysig yr ydych wedi gofyn i ni amdanynt, megis buddion aelodau, gwasanaethau, cyhoeddiadau, cylchlythyrau a gwasanaethau eraill y credwn y byddai o ddiddordeb i chi.

  • darparu neu weinyddu gweithgareddau sy’n ymwneud â’n holl wasanaethau: anfon negeseuon gweinyddol pwysig sydd â’r wybodaeth ddiweddaraf; ein helpu i’ch adnabod pan fyddwch yn cysylltu â ni; a’n helpu i gadw ein cofnodion yn gywir.

  • rhoi gwybodaeth i chi am ein cynlluniau yn y dyfodol. Efallai y bydd hyn yn cynnwys eich hysbysu am wasanaethau newydd neu well sydd, gobeithiwn, o ddiddordeb i chi ac yn ddefnyddiol i chi, a gall gynnwys y diweddaraf ynghylch codi arian; wrth gwrs, byddwn ond yn gwneud hyn gyda’ch caniatâd chi neu pan gredwn y byddwch yn disgwyl inni gysylltu â chi a’ch hysbysu. Wrth gwrs gallwch ofyn i ni ar unrhyw adeg i newid sut rydym yn cysylltu â chi drwy yrru nodyn i enquiries@tycerdd.org

  • darparu dadansoddiadau er mwyn inni fedru deall ein cefnogwyr yn well, eu dewisiadau a’u hanghenion, a thueddiadau pwysig. Gallai hyn olygu edrych ar eich holl ryngweithio gyda ni er mwyn i ni geisio cynnig y wybodaeth neu’r cynigion iawn i chi ar yr adeg iawn.

  • gwella’ch profiad gyda ni. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i wella’r gwasanaeth a ddarparwn, i wella ein gwybodaeth a’n cyfathrebu neu i bersonoli’r wefan i ddiwallu eich anghenion yn well.


Mae’n bosibl y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ddatgelu’ch gwybodaeth yn ddienw os bydd angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith, er enghraifft: er mwyn cydymffurfio â rheoliadau rheolau fel y nodir gan ein cyllidwyr craidd, Cyngor Celfyddydau Cymru.  Caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio mewn cronfa ddata ddiogel am gyfnod nad yw’n hirach nag sy’n angenrheidiol at ddibenion ei defnyddio. Mae’r holl ddogfennau sydd â data sensitif ynddynt yn cael eu diogelu gan gyfrinair, a chaniatâd ond wedi’i roi i rai aelodau o staff. Rydym yn dileu data yn achlysurol pan fo’r cyfnod cadw wedi dod i ben ac/neu pan nad oes angen pellach i barhau i gadw data o’r fath.

​

4. Diogelwch

Rydym yn cymryd diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn hynod o ddifrifol. Rydym wedi gweithredu mesurau corfforol, technegol a threfniadol priodol i ddiogelu’r wybodaeth bersonol sydd gennym o dan ein rheolaeth, a hynny ar-lein ac oddi ar-lein, rhag mynediad amhriodol ati, rhag ei chamddefnyddio, ei newid, ei dinistrio a’i cholli. Ac rydym ond yn ei chadw am ba hyd bynnag ag sy’n rhesymol ac yn angenrheidiol.

​

Dyma rai o’r ffyrdd rydym yn diogelu eich gwybodaeth bersonol:

  • Cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel yn y swyddfa ac ar ein cronfeydd data dan glo, neu, lle bo’n berthnasol, yn ddienw gan ein cyllidwyr.

  • Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill. Er ein bod yn ceisio ond cynnig dolenni i safleoedd sy’n rhannu ein safonau uchel a’n parch at breifatrwydd, nid ydym yn gyfrifol am gynnwys nac arferion preifatrwydd safleoedd eraill. Cofiwch y gall dolenni partneriaid ar ein gwefan gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch y gellir eich adnabod drwyddi. Nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn cwmpasu arferion gwybodaeth y gwefannau hynny neu hysbysebwyr.

  • Mae’n bosibl y byddwn yn cyfathrebu â chi drwy e-bost mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddarparwn. Er ein bod yn gwneud ein gorau i warchod ein systemau a’n cyfathrebiadau rhag firysau ac effeithiau niweidiol eraill, ni allwn fod yn gyfrifol fod ein holl gyfathrebiadau yn rhydd o firysau.

  • Nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd byth yn gwbl ddiogel. Byddwn yn gwneud ein gorau i amddiffyn eich data personol, ond ni allwn roi sicrwydd o ddiogelwch eich data a drosglwyddir i’n gwefan; gwneir unrhyw drosglwyddiad ar eich cyfrifoldeb eich hun.

 

5. Cwcis

‘Cwci’ yw’r enw ar ffeil fechan, sydd fel arfer yn cynnwys llythrennau a rhifau, a gaiff ei lawrlwytho ar eich dyfais (pethau megis cyfrifiadur, ffôn symudol neu lechen) pan fyddwch yn ymweld â gwefan.

​

Maent yn gadael i wefannau adnabod eich dyfais er mwyn iddynt weithio’n well a hefyd i gasglu gwybodaeth ynghylch sut rydych chi’n defnyddio’r wefan. Ni ellir defnyddio cwci ar ei ben ei hun i ddarganfod pwy ydych chi.

​

Felly sut rydym ni’n defnyddio cwcis?

Rydym yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu chi o ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan ddewch i’n gwefan ac mae hefyd yn ein galluogi ni i gael gwybodaeth a gwella ein gwefan.

​

Pa fath o gwcis a ddefnyddir gennym?

Rydym yn defnyddio’r categorïau a nodir gan y Siambr Fasnach Ryngwladol yn eu Canllaw i Gwcis yn y Deyrnas Unedig.

​

Rydym yn defnyddio tri chategori o gwcis:

  • Mae cwcis cwbl angenrheidiol yn hanfodol i chi symud o gwmpas ein gwefan a defnyddio ei nodweddion, megis ein basged siopa a’ch cyfrif personol.

  • Mae cwcis perfformiad yn casglu gwybodaeth anhysbys ynghylch sut rydych chi’n defnyddio ein gwefan, megis pa dudalennau yr ymwelir â hwy amlaf. Ni chedwir unrhyw wybodaeth sy’n eich adnabod chi.

  • Mae cwcis swyddogaethol yn cofio’r dewisiadau a wnewch er mwyn gwella’ch profiad, megis maint y testun ar y sgrin neu’ch lleoliad. Efallai y byddant hefyd yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt, megis gwylio fideo neu roi sylwadau ar flog. Maent yn ddienw.


Gallwch ddewis gwrthod ein holl gwcis (oni bai am y rhai sy’n gwbl angenrheidiol). Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut i reoli a dileu’r cwcis yn eich porwr ar gael. Ond, os dewiswch wrthod pob cwci, yna efallai ni fyddwch yn gallu defnyddio ein gwefan yn iawn.

​

6. Chi a’ch dewisiadau (diweddaru a mynediad at wybodaeth)

Hoffem roi’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf i’n holl gefnogwyr gwerthfawr. Felly, er mwyn eich hysbysu ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud, a gofyn i chi a fyddech chi’n gallu ein cefnogi, pan fo modd, hoffem gadw mewn cysylltiad â chi drwy’r dull cyfathrebu sydd orau gennych chi (boed drwy’r post, ffôn, e-bost, negeseuon testun a dulliau electronig eraill) i roi gwybod i chi am ein cynnydd a sut y gallwch barhau i’n helpu ni yn ein cenhadaeth.

Mae parch wrth galon gwaith ein tîm ymroddedig: rydym yn trin unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni o ddifrif a gallwch newid eich meddwl a dileu neu ychwanegu eich caniatâd ar unrhyw adeg, neu ddiweddaru’ch gwybodaeth trwy gysylltu â ni ar enquiries@tycerdd.org.

Nid yw dolenni sydd yn ein safle i wefannau eraill yn dod o dan y polisi preifatrwydd hwn.

Cwcis

CWCIS

​

‘Cwci’ yw’r enw ar ffeil fechan, sydd fel arfer yn cynnwys llythrennau a rhifau, a gaiff ei lawrlwytho ar eich dyfais (pethau megis cyfrifiadur, ffôn symudol neu lechen) pan fyddwch yn ymweld â gwefan.

​

Maent yn gadael i wefannau adnabod eich dyfais er mwyn iddynt weithio’n well a hefyd i gasglu gwybodaeth ynghylch sut rydych chi’n defnyddio’r wefan. Ni ellir defnyddio cwci ar ei ben ei hun i ddarganfod pwy ydych chi.

​

Rydym yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu chi o ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan ddewch i’n gwefan ac mae hefyd yn ein galluogi ni i gael gwybodaeth a gwella ein gwefan.

​

Rydym yn defnyddio’r categorïau a nodir gan y Siambr Fasnach Ryngwladol yn eu Canllaw i Gwcis yn y Deyrnas Unedig.  Rydym yn defnyddio tri chategori o gwcis:

​

  • Mae cwcis cwbl angenrheidiol yn hanfodol i chi symud o gwmpas ein gwefan a defnyddio ei nodweddion, megis ein basged siopa a’ch cyfrif personol.

  • Mae cwcis perfformiad yn casglu gwybodaeth anhysbys ynghylch sut rydych chi’n defnyddio ein gwefan, megis pa dudalennau yr ymwelir â hwy amlaf. Ni chedwir unrhyw wybodaeth sy’n eich adnabod chi.

  • Mae cwcis swyddogaethol yn cofio’r dewisiadau a wnewch er mwyn gwella’ch profiad, megis maint y testun ar y sgrin neu’ch lleoliad. Efallai y byddant hefyd yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt, megis gwylio fideo neu roi sylwadau ar flog. Maent yn ddienw.

 

Gallwch ddewis gwrthod ein holl gwcis (oni bai am y rhai sy’n gwbl angenrheidiol). Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut i reoli a dileu’r cwcis yn eich porwr ar gael. Ond, os dewiswch wrthod pob cwci, yna efallai ni fyddwch yn gallu defnyddio ein gwefan yn iawn.

Telerau ac Amodau

TELERAU AC AMODAU

​

Hygyrchedd
Mae’n bosibl cynyddu (neu hyd yn oed lleihau) maint yr holl destun ar dudalennau’r wefan hon. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio rheolyddion maint y ffont sydd wedi’u hintegreiddio yn eich porwr. Mae pob gwe-borwr yn gwneud hyn mewn ffordd wahanol ond, at ei gilydd, dylech edrych ar y dewisiadau yn newislen ‘Gweld’ eich porwr, neu, os nad yw hyn yn tycio, edrychwch yn nogfennaeth ‘Cymorth’ eich porwr.

​

Gwybodaeth amdanon ni
Gweithredwyr TÅ· Cerdd yw TÅ· Cerdd – Canolfan Gerdd Cymru (“Ni”).  Elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (Rhif 1152853) ydyn ni, yn NhÅ· Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5AL.

 

Rheolir www.tycerdd.org (a phob amrywiad arall ar URL y wefan) gan DÅ· Cerdd – Canolfan Gerdd Cymru y cyfeirir ato o hyn allan fel ‘Ni’. Wrth gael mynediad i’n gwefan, rydych chi, y defnyddiwr (‘Chi’), yn derbyn ein Telerau ac Amodau. Mae gwefan TÅ· Cerdd a’r gwefannau sy’n gysylltiedig â hi’n cael eu cynnal a’u cadw at eich defnydd personol ac i chi eu gweld. Mae cael mynediad i’r wefan hon a’ch defnydd ohoni’n golygu’ch bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn sy’n dod i rym o ddyddiad eich defnydd cyntaf.


Mae’r “Deunydd” yn golygu’r holl wybodaeth, data, testun, graffeg, dolenni neu god cyfrifiadurol a gyhoeddir ar, a gynhwysir yn, neu sydd ar gael ar ein gwefannau a’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (www.tycerdd.org www.discoverwelshmusic.com www.darganfodcerddoriaethcymru.com www.tycerddshop.com @tycerdd_org ac www.facebook.com/TyCerdd.org).

​

Gwefan TÅ· Cerdd
Dros dro y caniateir mynediad i’n gwefan a chadwn yr hawl i dynnu neu newid y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ar ein gwefan yn ddirybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os, am unrhyw reswm, nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.

Cymedrolir y wefan gan aelodau staff TÅ· Cerdd.

Gwefannau cysylltiedig drwy ddolenni
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig drwy ddolenni. Ni ddylid cymryd bod rhestru dolenni’n golygu ein bod yn eu cymeradwyo mewn unrhyw ffordd. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau cysylltiedig drwy ddolenni.

Rydym yn gwneud pob ymdrech i edrych ar ddeunydd a’i brofi bob cam y broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen wrthfeirysau dros yr holl ddeunydd a lawrlwythir oddi ar y Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad na difrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o wefannau TÅ· Cerdd.

Sefydlu dolen â gwefan TÅ· Cerdd
Cewch sefydlu dolen â’n tudalen hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithiol ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

​

Ni ddylech sefydlu dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyo neu arnodi ar ein rhan ni lle nad oes dim o’r fath yn bodoli. Cadwn yr hawl i dynnu caniatâd heb rybudd i ddolenni sydd wedi’u sefydlu.

Ein nod yw diweddaru ein gwefan yn rheolaidd a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Os bydd yr angen yn codi, gallwn atal mynediad i’n gwefan, neu’i chau am gyfnod amhenodol. Gall unrhyw ddeunydd ar ein gwefan fod wedi dyddio ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i’w ddiweddaru.

​

Hawliau Eiddo Deallusol a Hawlfraint
Perchennog hawlfraint a hawliau eiddo deallusol yn y Deunydd yw TÅ· Cerdd. Ni chaniateir defnyddio’r Deunydd yn anawdurdodedig gan gynnwys atgynhyrchu, storio, addasu, dosbarthu neu ailgyhoeddi heb gydsyniad ysgrifenedig TÅ· Cerdd, neu, lle bo’n berthnasol, y perchennog(ion) hawlfraint perthnasol ymlaen llaw.

​

Cewch weld, argraffu, lawrlwytho neu gadw darnau oddi ar www.tycerdd.org at eich defnydd cyfeiriol anfasnachol personol heb eu newid, ychwanegu atynt na’u dileu. Ni chewch fel arall gopïo, atgynhyrchu, dosbarthu, cyhoeddi, elwa’n fasnachol ar na fel arall drosglwyddo unrhyw ddeunydd neu gynnwys ar www.tycerdd.org heb ganiatâd ymlaen llaw.

Ni yw perchennog neu drwyddedai’r holl hawliau eiddo deallusol ar ein gwefan ac yn y deunydd a gyhoeddir arni oni nodir fel arall. Mae’r gweithiau hynny wedi’u diogelu gan gyfreithiau a chytuniadau hawlfraint ar draws y byd ac ym mhob cyfrwng a thechnoleg sy’n bodoli ar hyn o bryd neu sy’n cael ei ddatblygu’n ddiweddarach. Cedwir pob hawl o’r fath.

 
Ystyr “hawliau” yw hawlfraint, hawliau cronfa ddata, nodau masnach, hawliau dylunio a hawliau deallusol a pherchenogol eraill o ba natur bynnag, unrhyw le yn y byd. Llywodraethir eich defnydd o’r cyfryw Hawliau gan y Telerau ac Amodau hyn a hawlfraint nodau masnach a chyfreithiau eraill perthnasol.

​

Gohebiaeth TÅ· Cerdd
Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn derbyn cylchlythyr TÅ· Cerdd yna byddwn yn gofyn i chi gofrestru drwy e-bost; gellir gwneud hyn drwy’r dudalen gofrestru ar y  wefan. Eich dewis chi yw hwn ac ni fyddwn yn rhannu’ch manylion ag unrhyw sefydliadau trydydd parti (ceir mwy o wybodaeth am sut rydym yn trin yr wybodaeth yr ydym yn ei dysgu amdanoch pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan yn ein polisi preifatrwydd).

​

Fel y cyfeirir ato yn ein Polisi Cymraeg, disgwylir y dylai’r holl gynnwys a gyflwynir i ni at ddefnydd cyhoeddus fod yn ddwyieithog. Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw gynnwys a grëir gan ddefnyddwyr trydydd parti nad yw efallai’n cyrraedd y maen prawf hwn ac a all gael ei gyhoeddi’n fyw ar ein gwefan. Dylai unrhyw ymholiad ynglÅ·n â chynnwys o’r fath gael ei wneud yn uniongyrchol gyda ThÅ· Cerdd (enquiries@tycerdd.org).

​

Os dymunwch ddefnyddio deunydd ar ein gwefan mewn unrhyw ffordd heblaw am yr hyn a nodir uchod, dylech gyfeirio’ch cais i enquiries@tycerdd.org.  

​

Amrywiadau
Efallai y byddwn yn adolygu’r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg drwy newid y dudalen yma. Disgwylir i chi edrych ar y dudalen yma i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wneir gennym oherwydd byddwch wedi’ch rhwymo ganddynt. Gall darpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar ein gwefan hefyd ddisodli rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y telerau defnydd hyn.

​

Feirysau, Hacio a Throseddau Eraill
Ni ddylech gamddefnyddio ein gwefan drwy gyflwyno’n ymwybodol feirysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Ni ddylech geisio cael mynediad anawdurdodedig i’n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan wedi’i storio arno neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Ni ddylech ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth wedi’i ddosbarthu.

​

Wrth dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn adrodd am unrhyw doriad o’r fath wrth yr awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu’ch hunaniaeth iddynt. Os digwydd toriad o’r fath bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn peidio’n syth.

​

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad atal gwasanaeth sydd wedi’i ddosbarthu, feirysau neu ddeunydd arall sy’n niweidiol yn dechnolegol a all heintio’ch offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchenogol arall oherwydd i chi ddefnyddio ein gwefan neu oherwydd i chi lawrlwytho unrhyw ddeunydd a bostir arni neu unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi drwy ddolen.

​

Unrhyw beth sy’n eich poeni
Os oes unrhyw beth yn eich poeni am ddeunydd sy’n ymddangos ar ein gwefan, cysylltwch â enquiries@tycerdd.org

Llywodraethir y Telerau ac Amodau hyn gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a’u dehongli’n unol â nhw. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

 

Diolch am ymweld â’n gwefan.

bottom of page