top of page

This article originally appeared in the Welsh Music - Cerddoriaeth Cymru Journal, Summer 1974, Vol. 4, No. 7.

It appears here courtesy of the Welsh Music Guild who were the original publishers.

Articles can be accessed via their site as well as part of our Welsh Music Collection.

Robert Ap Huw, Y Telynor o Fodwigan

gan Dafydd Wyn Wiliam

Ffermdy ym mhlwyf Llantrisant ym Môn yw Bodwigan, a hyd at yr XVII ganrif ystyrid y lie fel amlwd [hamlet] yn Nhrelywarch. Uwchben drws y ffermdy presennol, ar yr wyneb dwyreiniol, fe gerfiwyd y flwyddyn 1712. Hon, mae'n debyg, oedd blwyddyn adeiladu'r tŷ neu o leiaf ei drin. Yma ym Modwigan, mewn tŷ a safai o bosibl ar sylfaen yr adeilad presennol, y bu Siôn Brwynog (ganed circa 1510 - bu farw 1562) yn byw, ac yno y ganed ac y maged ei ŵyr Robert ap Huw (g. c. 1580 - m. 1665) y telynor.

Deil llawysgrif gerddorol Robert ap Huw i ennyn chwilfrydedd nifer gynyddol o ysgolheigion. Go brin y clywsem fawr o son am y telynor pe na fuasid wedi ei diogelu. Ond nid y llsgr. hon yw'r unig beth sy'n gwneud Robert ap Huw yn ddyn mor ddiddorol. Yr oedd yn fardd eithaf medrus ac erys dros ugain o'i gynhyrchion barddol amrywiol ar glawr. Heblaw hyn fe hanai o wehelyth rhai o uchelwyr amlycaf Môn. Ys dywed y bardd Huw Machno amdano tua'r flwyddyn 1618 wrth ofyn telyn ganddo dros Huw Llwyd o Gynfal ym Meirionnydd:

 

Robert ap Huw, ŵr hybarch,

Mawl a gâi byth, amlwg barch;

Mab rhwydd ym mhob bro heddiw,

Aml iwch air hir mal ych rhyw.

Brau wyd, ŵyr Siôn, breuder sydd,

Brwynog, fu bur awenydd.

Dail Iorwerth Wystl a eurynt,

Difai o goed, Hwfa gynt;

Gwaed o Ben, coed a bonedd,

–Mynydd ym Môn, union wedd;

Iach hen lwyth Bodychen lin

A Thegeingl helaeth egin ...

 

Nid gormodiaith o gwbl yw dweud y gallai'r telynor gyfrif braidd holl uchelwyr Môn ymhlith ei berthnasau.

Hendaid Siôn Brwynog y bardd oedd Ithel ab Iorwerth ap Hywel, tenant rhydd i'r brenin ym Modedern, a gwyddys bod hwnnw yn fyw dros y blynyddoedd 1433-66/7. Ganed o leiaf bedwar o blant iddo ac un o'r rheini oedd Llywelyn. Ymsefydlodd ei fab ef, Hywel,

ym Mrwynog, ym mhlwyf Llanfflewin, ac yno, fe ymddengys, y ganed ei feibion – Siôn Brwynog y bardd, Wiliam, Robert (g. 1516/17) a Huw. A hwythau yn feibion i fân-uchelwr daliaf iddynt gael magwraeth dda a chyfleusterau addysg.

Llwyddasai eu tad Hywel ap Llywelyn ab Ithel i dyrru tipyn dan ei ewin erbyn y flwyddyn 1523/4, oblegid ceir hanes amdano yn y flwyddyn honno yn talu £30 am Fodwigan. Yn y flwyddyn 1818 fe werthwyd Pennant, 36 o erwau, a fu gynt yn rhan o Fodwigan, a thua ugain mlynedd yn ddiweddarach gwyddys mai trigain erw oedd mesur Bodwigan. Gan hynny, credaf fod y stâd fechan a brynodd Hywel yn 1523/4 tua chan erw o faint. Fodd bynnag, ni chadd fyw yno a bu farw yn 1531/2. Gyda hynny fe ddywedir i'w fab Siôn Brwynog, yr hynaf o'r meibion mae'n debyg, gymryd meddiant o'r lie a mynd yno i fyw. Ym Modwigan, felly, y treuliodd y bardd weddill ei oes gan ymroi i amaethu, ac at hynny, glera'r wlad ac addysgu beirdd yn ei hamdden. Bu farw yn 1562, a'i fab Huw a etifeddodd y stâd ar ei ôl. Tua phedair blynedd wedyn fe briododd Huw ap Siôn Brwynog a Catrin ferch Wiliam Lewis o Benhesgyn ym mhlwyf Llanfaethlu, ac o'r briodas honno fe aned Robert ap Huw tua'r flwyddyn 1580, ac wyth o blant eraill.

Ar wahân i Siôn ap Huw (y mab hynaf) a aned tua 1570, Robert ac Edmwnd (y mab ieuengaf), ni wyddys ond y nesaf peth i ddim am blant eraill Huw ap Siôn Brwynog. Gallai'r mab hynaf 'sgrifennu Lladin a Saesneg heb son am rigymu yn ei famiaith, ac o gofio'r hen ddywediad 'fod cyw o frid yn well na phrentis' nid yw'n syn o gwbl fod Robert ap Huw, yntau, wedi ymroi i wneud yr hyn yr oedd ei daid Siôn Brwynog yn bencampwr arno, sef prydyddu, yn ogystal â dod i fri fel telynor. Y mae'n sicr iddo glywed am noddi beirdd yn ardal ei febyd, oblegid rhwng 1575 a 1604 bu Siôn Mowddwy yn clera yn Nhreiorwerth, Caer Elen a'r Chwaen Hen, ac fe ymwelodd Wiliam Cynwal, Siôn Tudur, Ieuan Tew Ifanc, Robert Ifan, Huw Machno, Owain ap Rhys ac eraill â Phrysaeddfed. Diau hefyd fod Robert ap Huw ifanc wedi cyfarfod a rhai o'r beirdd hyn.

Fodd bynnag, yng nghanol y gweithgarwch diwylliannol yma bu farw Huw ap Siôn Brwynog yn 1590/1 gan adael gweddw ac with o blant i alaru ar ei ôl. Rhyw ddeg oed oedd Robert ap Huw ar y pryd. Ni bu ef a'i frodyr a'i chwiorydd yn hir cyn cael llysdad, oblegid cawn hanes fod eu mam wedi priodi Richard Owen rhywdro cyn 10 Ebrill 1598. Ei mab hynaf, Siôn ap Huw, a etifeddodd ddeuparth stâd Bodwigan ar ôl marw ei dad, tra delid y traean arall ganddi hi. Gorfu i'r plant eraill, yn arbennig y meibion, gefnu ar eu cartref i chwilio am gynhaliaeth. Llwyddodd Edmwnd fel masnachwr gwin yn Lloegr ond fel telynor yr enwogodd Robert ei hun.

Yn dechrau'r flwyddyn 1598/9 fe briododd Sion ap Huw o Fodwigan gydag Elisabeth ferch Owain Tudur ap Gwilym o Dregwehelyth, Llantrisant, y plwyf cyfagos. Gwyddys bod beirdd a cherddorion yn arfer mynychu neithiorau, a diau fod cynrychiolaeth o'r ddau ddosbarth yma yn bresennol ar yr achlysur hapus. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach bu Robert Bulkeley (g. 1592) y dyddiadurwr o Ddronwy ym mhlwyf Llanfachraith ym mhriodas un arall o deulu Tregwehelyth a chofnoda fel y bu iddo offrymu arian yno yn ogystal â rhoi cildwrn i'r cerddor:

 

[18 Awst 1635] I rid to grace vch Hugh Bowens weddinge, J offered

2d, & gave the Musicke 4d ...

 

Ai Robert ap Huw oedd y cerddor anhysbys hwn tybed?

Rhaid ei fod ef wedi dangos talent gerddorol pan oedd yn bur ifanc. Credaf mai ef yw'r bachgen y cyfeirir ato ar ddiwedd rhestr ddiddorol o daliadau rhyw uchelwr o Fôn, mae'n debyg, i nifer o feirdd a cherddorion dros y cyfnod a estynnai o Nadolig 1594 hyd at y 4 Chwefror ar ôl hynny, sef ymron chwe wythnos o amser. Wele'r cyfeiriad tybiedig at Robert ap Huw:

 

Itm geven to a boye of llan ythyssante bing

[a] harper

 

Y mae'n amlwg fod Robert ap Huw wedi dechrau crwydro'r wlad a'i delyn i'w ganlyn ac yntau yn llanc ifanc tua phymtheg oed. Un o blith amryw o gerddorion ydoedd, ac y mae'n arwyddocaol yn ôl y rhestr y cyfeirir ati uchod fod tri chrythor, tri thelynor ar ddeg, dau brydydd ac un datgeiniad wedi ymweld ag ynys Môn dros ysbaid byr o amser yn niwedd yr XVII ganrif gan dderbyn nawdd un gŵr bonheddig. Yr oedd y cerddorion, yn ddilys ddigon, yn amlach lawer na'r beirdd, ac y mae'n debygol erbyn hyn ei bod yn haws iddynt hwy ennill eu bywoliaeth na'r beirdd. Hynny yw, yr oedd yn haws gan yr uchelwyr gael eu boddio â sŵn cerddoriaeth nag â chywydd mawl oedd yn ddieithr ei gynnwys iddynt. Hyn oedd i gyfrif i raddau am ddirywiad yr hen ganu mawl. A bod hyn yn wir yr oedd eto gyfle i'r cerddorion ac un o'r rheini oedd Robert ap Huw. Nid oes eisiau pendroni rhyw lawer am y modd y datblygodd ef i fod yn delynor o bwys.

Oni cheid traddodiad cryf o gerddorion yn ardal ei febyd? Er enghraifft, dyna Ddafydd Llwyd 'Dylynnior' oedd yn dyst i weithred dyddiedig 20 Hydref 1501 sy'n trafod tir yn Llanfechell a Chornwylan. Dros y cyfnod 1514-17 fe grybwyllir gŵr o'r enw 'Robert ap Res Penkerth' o'r Chwaen fwy nag unwaith. Enwir 'Hugh ap Res Benkerth' o Lifon yn 1538 – ai brawd Robert? A dod at gyfnod Robert ap Huw ei hunan fe breswyliai Lewis Grythor yn Llanfechell yn 1594, a gwelsom uchod fel y rhoddwyd swllt i delynor y mae ei enw yn anhysbys ym Mhrysaeddfed tua'r un cyfnod. Dyma'r unig enghraifft sydd gennym o gerddor yn ymweld a'r plasty hwnnw, er gwybod bod lliaws o feirdd yn galw yno. Eto, pwy oedd 'david ap themas harper' oedd yn dyst i acwitans 12 Gorffennaf 1598? Ef, a gwyr tebyg iddo, a ysgogodd y llanc o Fodwigan i ymroi gyda'r tannau.

Nid oes wadu chwaith fed y gweithgarwch barddol o'i gwmpas wedi ei ddenu yn ifanc, oblegid fe ddatblygodd yn fardd eithaf medrus. Gwelsom eisoes fel y cyrchai beirdd yr uchelwyr i blastai y plwyfi a amgylchynnai ei gartref yn chwarter olaf yr XVI ganrif, a pharhaent i wneud hynny ar ôl 1604. Galwodd Lewys Dwnn a Huw Pennant, ill dau, yn y Chwaen Hen yn 1606 ac arferai Syr Huw Roberts a Syr Gruffudd Llwyd ymweld â Phrysaeddfed. Ymroes teulu'r Garreg-lwyd yn Llanfaethlu hefyd i noddi'r beirdd, ac ymhlith eraill fe brofodd Syr Huw Roberts, Watcyn Clywedog a Huw Machno eu nawdd. Caf ddangos rhag llaw fel y bu cyswllt gweddol agos rhwng Robert ap Huw â'r teulu hwn, ac nid rhyfedd hynny oblegid ei fod yn perthyn i'r teulu o du ei dad a'i fam. At hyn oll ceid cnwd o uchelwyr yn y cylchoedd agos a ymddiddorent mewn cerdd dafod, yn arbennig yn y canu rhydd, gwŷr bonheddig fel Dafydd Llwyd Sybylltir a Rhisiart Bulkeley o Gleifiog. At eu henwau hwy rhaid 'chwanegu enw John Griffith o Landdyfnan, ymwelydd cyson â'r cylch. Beirdd mwy gwerinol y deuai Robert ap Huw i gyswllt a hwy oedd Huw Ednyfed o Lanfaethlu a Dafydd ap Huw'r Gof o Dyddyn Einion Chwith ym Modedern, ac ymunai Siôn Roger o Sir Gaernarfon â hwy o bryd i'w gilydd. Trwyddynt hwy ac eraill, felly, yr ymgydnabu Robert ap Huw â cherdd dafod.

Cymharol ychydig sy'n hysbys amdano ym mlynyddoedd cynnar yr XVII ganrif, ond daliwn ei fod yn troi yn gyson yng nghwmni beirdd a cherddorion yr ynys heb sôn am yr uchelwyr. Bernir mai yn y flwyddyn 1613 y copïodd lsgr. gerddorol Wiliam Penllyn ac yntau ar y pryd tua 33 oed. Ai ei benodi yn delynor i'r brenin Iago'r I (1603-25) a barodd iddo ymgymryd â'r dasg hôn? Er na wyddys yr ateb i'r holiad hwn nid oes wadu ei ddyrchafu yn delynor yn y llys brenhinol. Ebr Huw Machno amdano tua'r flwyddyn 1618:

 

Gŵr Od yn dwyn gair ydwyd,

A gwas y brenin teg wyd;

Gŵr addwyn doeth gwreiddwych,

Ac i ras Siams gŵr sy wych,

A'i gerddor mewn rhagorddysg

A ddeil gerdd ddofn ddilwgr ddysg;

Ar glymau ………

A'i dosbarth yr wyd ysbys:

Pob pur ddysg, pob rhyw ddesgant,

Pob trawiad teg, pob tro tant.

P'le ca'i gymar dihareb?

P'le ni wn? On'd Peilin, neb.

 

Ymddengys bod y brenin Iago yn noddi telynorion o Gymru, oherwydd ceir hanes am dri ohonynt 'yn mynd ddwy waith neu dair yn y flwyddyn, y tri gyda'i gilydd, i Lys y Brenin James i berfformio ger ei fron, ac i'r fath foddlonrwydd fel y rhoddodd 12 ceiniog y dydd iddynt tra byddent byw.' Bid a fo am hynny yn ei ewyllys olaf, fe amlyga Robert ap Huw ei fawr bryder rhag i'r sawl a etifeddai ei delyn dynnu oddi arni arfbais y brenin oedd wedi ei gweithio mewn arian. Diau iddo dderbyn tâl cyson am ei swydd fel telynor i'r llys brenhinol. Amlwg hefyd ei fod yn wneuthurwr telynau cyn y gofynnid telyn ganddo yn 1618. Byddai yn dda gennym wybod ymhle a than pa amodau y graddiodd Robert ap Huw yn bencerdd, eithr sicr ydym i hynny ddigwydd cyn y flwyddyn 1615, oblegid ei alw'n 'pencerdd telyn' mewn cerdd rydd y gellir ei dyddio yn y flwyddyn honno. Rhaid ystyried ei lsgr. Gerddorol enwog a briodolir i'r flwyddyn 1613 fel gwaith pencerdd! Mewn ateb i holiad ynglŷn â'i grefft fe luniodd Robert ap Huw yr englyn hwn ac y mae'r unig gopi ohono yn digwydd bod yn ei law ei hun:

 

Prif geinciau pynciau y pencerdd - mi a'i gwn,

Mi ganaf fy nghytgerdd,

Dysgais golofnau dwysgerdd,

Dysgais bedair cadair cerdd.

 

Heblaw ei ragoriaeth fel telynor carwn awgrymu mai ei gysylltiadau teuluol a enillodd iddo ffafr y brenin Iago'r I. Crybwyllais uchod ei fod yn perthyn yn agos i deulu dysgedig a dylanwadol Gruffuthiaid y Garreg-lwyd. Dau frawd a chyfoeswyr iddo oedd John (m. 1629) a Robert Gruffudd (m. 1630), sef meibion Wiliam Gruffudd (m. 1587), rheithor Llanfaethlu. Bu'r naill fab yn ysgrifennydd i Henry Howard (1540-1614), Iarll Northampton, sef un a fu'n Lord Privy Seal i'r brenin Iago, a dywed Syr Huw Roberts ym marwnad y llall:

 

Gŵr i Siams ar ei gwrs oedd,

Gŵr didwyll o'r Gard ydoedd.

 

Diau fod y ddeuddyn uchod wedi palmantu rhywfaint ar lwybr Robert ap Huw i lys y brenin. Nid hwyrach hefyd iddo gael ei gyfrif yn delynor teulu yn y Garreg-lwyd. Un o feibion enwog Robert Gruffudd (m. 1630) o'r lle hwnnw oedd Wiliam Gruffudd, LL.B., a lluniodd y telynor gerdd rydd ddigrif ynglŷn ag o. Cerdd ydyw sy'n adrodd helyntion llwynog a gawsai Wiliam Gruffudd yn rhodd gan gyfaill ym Meirionnydd. Heblaw'r gerdd hon fe luniodd Robert ap Huw gyfres o englynion i ddiolch iddo am rodd o'r Beibl Bach yn 1630. Atega hyn oll fod cyswllt clós rhyngddo ef a theulu'r Garreg-lwyd. Maentumia Huw Machno uchod nad oedd neb ond Peilin, sef y telynor Robert Peilin mae'n debyg, a ddaliai gannwyll i Robert ap Huw, a lluniodd Watcyn Clywedog gywydd i erchi march dros Robert Peilin gan ddau ŵr bonheddig o Fôn, sef y Dr. Wiliam Gruffudd o'r Garreg-lwyd a Wiliam Robins o Fynachdy ym mhlwyf Llanfairynghornwy. Fe ddengys hyn eto gymaint oedd diddordeb aelodau o deulu'r Garreg-lwyd yn yr hen ddiwylliant Cymreig.

Rhywdro cyn 18 Gorffennaf 1624 fe briododd Robert ap Huw â Grace, ferch Robert o Landegfan, oblegid ar y dyddiad hwnnw ceir cofnod o fedydd eu mab Richard yng nghofrestr Eglwys blwyf Llandegfan. Ni wyddys fawr ddim am Grace na'i chefndir, either dyfalaf fod ganddi diroedd, ac y mae'n arwyddocaol mai yn ei phlwyf hi yr ymsefydlodd ei gŵr ar ôl priodi, gan dreulio hanner olaf ei oes yno, sef o 1623 hyd ei farw yn 1665. Yn Eglwys y plwyf hwnnw y bedyddiwyd eraill o'i blant sef Elen (1626), Hugh (1628), Catherine (1630), Robert (1633), Rowland (1637-61 plentyn anghyfreithlon) a Margaret (1638). Gwyddys i sicrwydd fod iddo un plentyn arall Henry a aned tua 1635.

Dangosais uchod fel y codwyd Robert ap Huw mewn ardal ac iddi draddodiad cryf mewn cerdd dant yn ogystal â cherdd dafod. Fe barhaodd y traddodiad hwn yn ardal Llanddeusant a'r cylch wedi i'r telynor symud i fyw i Landegfan. Ategir hyn gan y dyddiadurwr o Ddronwy oblegid ceir ganddo rai cyfeiriadau cynnil at gerddorion ei fro yn ystod y cyfnod 1630-6. Enwa Howel y telynor deirgwaith, a bu 'Jen ap w. dd harp' yn lletya un nos Sadwrn yn Nronwy, a bore trannoeth fe'i hebryngwyd i gyfeiriad Llywenan ym Modedern. Rhoes ddwy geiniog un tro i'r 'fidlers' a phrofodd 'dd lloyd harp' ei garedigrwydd ddwywaith. Cofnoda hefyd ddyfod 'strange harps & a Bard' i ryw dŷ yn y cyffiniau, a chrybwylla y 'musick' deirgwaith. Fe oroesodd y traddodiad hwn yn ardal Llanddeusant a'r cylch hyd at ganol y XVIII ganrif, oblegid cyfeirir at Byrs Prichard delynor o Fodedern yn 1753, a bedyddiwyd plant i 'Richard Davidd fidler' yn Eglwys blwyf Llanddeusant dros y blynyddoedd 1751-63. Diddorol yn y cyswllt hwn fydd dyfynnu o ddyddiadur Wiliam Bulkeley o Frynddu 4 Mawrth 1756: 'Gave 5/- to William, the son of John Hughes of Marian, a blind boy that is learning to play upon the Harp with Foulk Jones.' Yn anffodus, ychydig iawn a wyddys am gerddoriaeth y gwŷr uchod. Amlwg, fodd bynnag, fod pobl Môn yn troi mewn cymdeithas lawen a lliwgar gyda sŵn cerddoriaeth yn amlwg ynddi. Diau fod gan ardal Llandegfan hithau ei beirdd a'i cherddorion ond gyda dyfodiad Robert ap Huw i'r plwyf fe gryfhawyd y traddodiad barddol a cherddorol. Croesawai feirdd a cherddorion i'w gartref a pherthyn y rhan helaethaf o ffrwyth ei awen a gadwyd i'w dymor yn Llandegfan. Ar wahân i un cywydd gofyn i deulu bonheddig, cerddi achlysurol – yn englynion, cywyddau a phenillion rhydd – yw ei holl gyfansoddiadau, ac arwydda hyn o bosibl iddo ganolbwyntio ar ei grefft fel telynor.

Yn Llandegfan y preswyliai Robert ap Huw pan aeth ati i gopïo peth o'i farddoniaeth ei hun yn ogystal a gwaith beirdd eraill. Ei fab Henry a etifeddodd ei lyfrau a gwyddys bod gan hwnnw ddiddordeb mewn copïo barddoniaeth. Yn Llandegfan y preswyliai hefyd pan fu farw ei fam yn 1644 pan oedd hi tua 94 oed, a'r cyfan a gafodd trwy ei hewyllys oedd swllt! Nid oedd rhaid iddo, fodd bynnag, boeni rhyw lawer am hynny, oblegid fe ddengys ei ewyllys ef dyddiedig 18 Mai 1665 fod ganddo ddigon o fodd. Traethu ei ddymuniadau olaf ar lafar a wnaeth yr hen delynor 85 oed, ac oblegid llunio rhestr o'i eiddo ar 6 Gorffennaf wedi hynny, y mae gennym sicrwydd iddo farw rhwng canol Mai a dechrau Gorffennaf. Adeg ei farw yr oedd chwech o'i blant yn fyw a rhai wyrion ac wyresau. Ystyrid ei anifeiliaid a'i ddodrefn yn werth dros £65, ac yr oedd yn berchen tiroedd (yng nghylch Llandegfan mae'n debyg) a 'stock' yng Nghaergybi. Hugh Hughes ei fab hynaf oedd i etifeddu yr holl diroedd ac eithrio Pen-y-Dentyr (Llandegfan). Yr oedd hynny i ddigwydd ar ôl marw ei fam ar yr amod ei fad pryd hynny yn talu £60 i bedwar o'r plant ieuengaf – Robert, Henry, Margaret a Catherine. Un ohonynt hwy, Henry, oedd i etifeddu Pen-y-Dentyr. Ni wyddys mangre claddu eu tad, Robert ap Huw, eithr y mae'n debygol mai ym mynwent Eglwys blwyf Llandegfan y gorffwys ei lwch. Fe'i goroeswyd gan ei wraig Grace, ferch Robert, a'i frawd Edmwnd.

Rhaid ystyried Robert ap Huw fel etifedd diwylliant cyfoethog ei ardal a'i sir, a throsglwyddyd y diwylliant hwnnw trwy gyfnod o hirlwm i gylch y Morrisiaid yn nechrau'r XVIII ganrif. Trwy ei fedr fel telynor fe ddaeth i amlygrwydd mawr a chael ei gydnabod am hynny yn llys y brenin. Gallwn fel Monwyson fod yn falch ohono fel un a gyfunodd gerdd dant a cherdd dafod er diddanu cymdeithas ei gyfnod.

bottom of page