top of page
Wedi'i ryddhau ar label Sionci Tŷ Cerdd 28.11.25
CYSGODION
gweithiau newydd ar gyfer ffidil ac electroneg
Cysgodion_edited.jpg

GWRANDEWCH

CYSGODION TCR057

  1. DELYTH FIELD Cysgodion 7’05’’

  2. RICHARD McREYNOLDS Draighean 6’34’’

  3. NATALIE ROE Taith 5‘27’’

  4. SARA EVELYN water drawing 5‘16’’

  5. JOSHUA LASCAR Two To Four To One 5‘06’’

  6. JOSEPH GRAYDON Basilica 10’58’’

  7. ANGHARAD DAVIES Pentref y Feiolinau 6’26’’

Gwaith celf yr albwm gan Kelly Best

Caiff Cysgodion ei rhyddhau ar Sionci, sef label Tŷ Cerdd sydd dan arweiniad artistiaid, ac mae’r albwm newydd hwn yn cyflwyno saith gwaith newydd ar gyfer ffidil ac electroneg, wedi’u perfformio gan y feiolinydd o fri rhyngwladol Darragh Morgan.

Mae Cysgodion yn dwyn ynghyd gyfansoddiadau gan Angharad Davies, Sara Evelyn, Delyth Field, Joseph Graydon, Joshua Lascar, Richard McReynolds, a Natalie Roe. Mae’r albwm yn cyflwyno lleisiau newydd gwahanol o Gymru, gan archwilio croestoriadau arbrofion acwstig ac electronig.

Mae pob gwaith yn archwilio dull unigryw o integreiddio electroneg greadigol â gweadau mynegiannol ffidil byw – trwy waith byrfyfyr, prosesu byw, synthesis modiwlaidd, recordiadau maes, cyfryngau sefydlog, peiriant tâp, dylunio sain, a samplu. Cynhyrchodd pob cyfansoddwr ei drac ei hun hefyd, gyda rhai darnau hefyd yn ymgorffori perfformiad electronig gan yr artistiaid eu hunain, gan adlewyrchu egni ac ehangder y maes cyfansoddi electroacwstig newydd sy’n datblygu yng Nghymru.

Recordiwyd perfformiad ffidil Darragh Morgan yn Stiwdio Tŷ Cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Datblygwyd y prosiect ehangach trwy raglen Ffidil Plws Tŷ Cerdd (sy’n rhan o CoDI, sef menter datblygu artistiaid ehangach y sefydliad), a thrwy’r prosiect hwnnw crëwyd chwe gwaith newydd trwy raglen ddwys o weithdai a mentora gan Darragh Morgan a’r feiolinydd arbrofol a byrfyfyr Angharad Davies.

Dywedodd Angharad Davies: “Mae cyfleoedd datblygu artistiaid fel Ffidil Plws yn creu sylfaen ar gyfer rhannu syniadau, technegau a phrofiad – nid yn unig o’r mentor i’r sawl sy’n cael ei fentora, ond hefyd rhwng pawb sydd y tu ôl i’r llenni yn y prosiect ym mhob ffordd – maent yn fannau hanfodol i feithrin ac adeiladu cymunedau.”

Yn ôl Darragh Morgan: “Ar ôl cydweithio â channoedd o gyfansoddwyr yn rhyngwladol a chomisiynu gwaith newydd ganddynt, a gan fod gennyf ddau albwm cerddoriaeth sy’n bwrpasol ‘ar gyfer ffidil ac electroneg’, rwyf wrth fy modd bod y platfform hwn i ddatblygu artistiaid yn bodoli i mi rannu fy arbenigedd, fy mhrofiadau a fy ymarfer, gan feithrin ac annog ymgysylltiad beirniadol a chadarn â phosibiliadau’r cyfrwng gyda chyfansoddwyr nad oeddent efallai wedi cael y cyfleoedd hyn o’r blaen. Mae fy ymarfer fy hun wedi’i wreiddio yn yr ymgais i ehangu ac esblygu ymhellach bosibiliadau sonig a chwmpas y ffidil, ac mae’r prosiect cydweithredol hwn gyda’r crewyr cerddoriaeth hyn wedi parhau yn yr un cywair, gan greu cerddoriaeth a chodi’r safon i anelu at waith o’r ansawdd uchaf.”

Caiff Cysgodion ei ryddhau ar Sionci Records – ac mae ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar yr holl brif blatfformau

Mae'r feiolinydd Gwyddelig Darragh Morgan yn arbenigwr cerddoriaeth gyfoes. Mae wedi ymddangos fel unawdydd a cherddor siambr ledled y byd, ac mae nifer ei gydweithrediadau artistig yn helaeth. Mae wedi recordio dros 75 o albymau, llawer ohonynt wedi ennill gwobrau. Bywgraffiad llawn yma

Mae Angharad Davies yn feiolinydd a chyfansoddwr o Gymru, sy'n gweithio ym maes byrfyfyrio rhydd a pherfformiad arbrofol. Mae ei dull o ddefnyddio sain yn cynnwys gwrando'n astud ac archwilio y tu hwnt i gyfyngiadau sonig ei hofferyn, ei hyfforddiant clasurol, a disgwyliadau perfformio. Bywgraffiad llawn yma

Mae Delyth Maiya Field yn gyfansoddwraig Japaneaidd-Gymreig sydd â diddordeb angerddol mewn cerddoriaeth electronig ac acwstig. A hithau wedi graddio o’r Coleg Cerdd Brenhinol, mae hi’n dal i archwilio posibiliadau’r dechnoleg gerddoriaeth ddiweddaraf a ffyrdd newydd o gyfansoddi cerddoriaeth.

Cyfansoddwr o’r De yw Joseph Graydon ond yn byw yn Llundain. Mae wedi astudio cyfansoddi yng Nghymru, yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Mae ei gerddoriaeth wedi’i pherfformio a’i recordio gan EXAUDI Vocal Ensemble, Plus Minus Ensemble, Ensemble Cerddoriaeth Newydd UPROAR Cymru, ICTUS Ensemble Brwsel, ynghyd ag unawdwyr o’i genhedlaeth ei hun.

Mae Joshua Lascar yn gyfansoddwr-gitarydd Ffrengig-Americanaidd sy’n cyfuno ei gefndir mewn gitâr jazz ag electroneg. Mae hefyd yn hunangynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer ffilm/teledu, a hynny’n cynnwys Netflix, Nat. Geo., BBC, Bravo, Channel 4 & 5 ac S4C.

Mae Natalie Roe yn gyfansoddwraig ac yn artist electronig sydd â diddordeb mewn cyfuno’r bydoedd acwstig ac electronig mewn perfformiadau byw. Mae hi’n mwynhau cydweithio’n fawr iawn, ac yn aml yn dod ag elfennau gweledol i mewn i’w gwaith ac wrth ei bodd yn gweithio ar brosiectau rhyngddisgyblaethol.

 

Cyfansoddwr ac artist amlgyfrwng a aned ym Melffast yw Richard McReynolds, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei waith yn aml yn archwilio ffyrdd o uno gwahanol gyfryngau artistig gan ddefnyddio codio creadigol a thechnoleg ddigidol.

Mae Sara Evelyn yn artist sain rhyngddisgyblaethol y mae ei gwaith cyfansoddi yn rhoi ystyriaeth i ofod, deunyddiau, a safle ac yn aml caiff ei gwaith ei greu wrth ymateb i elfennau deunyddiau ac acwstiaeth lle neu amgylchedd penodol. Mae’n gweithio â llais a recordio allan yn y maes ochr yn ochr ag organ bib, telyn, ffidil, syntheseisydd a recordiad electroacwstig ar dâp casét i greu cyfansoddiadau amlhaenog a pherfformiadau byw.

Sionci logo copy.png

Sionci yw label Tŷ Cerdd, sy'n cael ei arwain gan yr artistiaid, sy'n galluogi perfformwyr a chyfansoddwyr i gymryd perchnogaeth dros y recordiau a ryddheir, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd, a dosbarthiad trwy Pyst.

bottom of page