Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Cyfansoddwraig Gymreig yw Tayla-Leigh Payne sy’n byw yng Nghaerdydd. Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2021 gyda gradd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Cyfansoddi a Thechnoleg Greadigol. Bydd yn ymchwilio i fydoedd nodiant a cherddoriaeth electronig, y ddeupeth wedi dylanwadu ar ei chyfansoddi a’r cyfryngau y bydd yn eu defnyddio.
Mae ei champau a chomisiynau diweddaraf yn cynnwys cael ei dethol ar gyfer Cyfansoddi: Cymru 2020 Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; bod yn gyfansoddwr cynorthwyol i gynhyrchiad 2021 Theatr Genedlaethol Cymru, Anfamol; Folks of the Footbridge gydag Operasonic; llwybr CoDI: Symud Tŷ Cerdd, ar y cyd â Theatr Hijinx; comisiwn Tŷ Cerdd/Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020 ; a chomisiwn gan Fand y Dref, Porth Tywyn ar gyfer eu Prosiect ACT2021. Yn 2021 creodd osodwaith sain rhyngweithiol, MIXTAPE, ar gyfer Gŵyl Awyrgylch Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae Tayla hefyd yn rhoi o’i hamser i eirioli dros y celfyddydau drwy Fforwm Ieuenctid Cerddoriaeth Cymru (dan arweiniad Anthem, mewn partneriaeth â Gorwelion y BBC, Prosiect Forté, Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Thŷ Cerdd) yn ogystal â gweithio’n rhan-amser fel Gweithwraig Gymorth i Gerddoriaeth Ieuenctid yn YMCA Abertawe.
Tayla-Leigh Payne is a Welsh composer based in Cardiff. She graduated from the Royal Welsh College of Music and Drama (RWCMD) in 2021 with first-class honours in Composition and Creative Technology. She explores the worlds of notation and electronic music, both of which influence her writing and the mediums she works in.
Her most recent achievements and commissions include: selection for BBC National Orchestra of Wales’s Composition: Wales 2020; assistant composer for Theatr Genedlaethol Cymru’s 2021 production Anfamol; Folks of the Footbridge with Operasonic; Tŷ Cerdd's CoDI Move pathway, in association with Hijinx Theatre; Tŷ Cerdd/Royal Welsh College of Music & Drama commission for National Eisteddfod in 2020; and a commission from Burry Port Towns Band for their ACT2021 project. In 2021 she created an interactive audio installation, MIXTAPE for Royal Welsh College of Music & Drama’s Atmospheres festival.
Tayla also dedicates time advocating for the arts through the Wales Music Youth Forum (led by Anthem, in partnership with BBC Horizons, Forté Project, National Youth Arts Wales and Tŷ Cerdd), as well as working as a Music Youth Support Worker part-time at YMCA Swansea.