top of page

Haldon Evans 1953

Ganed Haldon Evans yn Llanelli a chafodd ei godi ym Mhontarddulais.  Mae Haldon yn gyn-ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Abertawe, ac yn gyn-bennaeth cyfadran yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin. Mae bellach yn gyfansoddwr, trefnydd, trwmpedwr a thiwtor llawrydd.

 

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, bu’n astudio cyfansoddi fel myfyriwr ôl-radd gydag Alun Hoddinott, gan ennill gradd Meistr mewn Cerddoriaeth ym 1975. Ymchwiliodd yn fanwl i dechnegau cyfansoddi Béla Bartok, a bu hynny’n ysgogiad iddo astudio’r posibiliadau mewn cerddoriaeth werin Gymreig. Mae’r dylanwad hwn yn parhau i fod yn ganolog i’w waith fel cyfansoddwr a threfnydd.

 

Yn ystod gyrfa 30 mlynedd ym myd addysg, mae Haldon wedi cyfansoddi nifer o ddarnau ar gyfer perfformwyr ifanc. Mae hefyd wedi cyfansoddi a threfnu darnau ar gyfer ensemblau Hallé Brass a London Brass, yn ogystal â Band Pres Cory.

Haldon Evans was born in Llanelli and grew up in Pontarddulais.  He is a former lecturer in music at Swansea College, and a former head of faculty at Q E High School, Carmarthen. He is now a freelance composer, arranger, trumpeter and tutor.

 

A graduate of Cardiff University, he studied postgraduate composition with Alun Hoddinott, gaining an M.Mus in 1975. Detailed research into the compositional techniques of Béla Bartok prompted him to explore the possibilities inherent in Welsh folk music. This influence remains central to his output as both composer and arranger.

 

Haldon has written extensively for young performers in an educational career spanning over 30 years. He has also composed and arranged several scores for Hallé Brass, London Brass and Cory Band.

ENGLISH
bottom of page