top of page
English
Ashley John Long.jpg

Ashley John Long 1986

Mae Ashley John Long yn gyfansoddwr a basydd dwbl sy’n weithgar mewn ystod eang o genres. Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mae wedi bod â gyrfa brysur ar ei liwt ei hun gan rychwantu sawl maes. Fel cyfansoddwr mae wedi datblygu enw da iddo’i hun fel crëwr sgorau sy’n cydbwyso manylion cain â rhyddid a hyblygrwydd, ar yr un pryd â chadw ymdeimlad cryf o alaw mewn byd o sain sy’n cynnwys syniadau cerddorol amrywiol. Mae comisiynau diweddar wedi cynnwys tair opera siambr, yn ogystal â llawer o gerddoriaeth siambr, a pherfformiwyd ei waith ar gyfer cerddorfa, sef ‘Karri’, am y tro cyntaf yn 2019 gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd wedi cyfansoddi llawer o gerddoriaeth ar gyfer y cyfryngau, dawns a theatr ynghyd â sawl gwaith estynedig ar gyfer jazz ac ensembles byrfyfyr. Mae ei waith fel basydd dwbl byrfyfyr a jazz wedi derbyn clod beirniadol ac mae’n artist perfformio D’addario.

Ashley John Long is a composer and double bassist active in a wide range of genres. Since graduating from Royal Welsh College of Music & Drama he has maintained a busy freelance career which has embraced many strands. As a composer he has developed a reputation as a creator of scores that balance fine detail with freedom and flexibility, whilst retaining a strong melodic sense in a sound world which embraces diverse musical ideas. Recent commiss