Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r rhaglen CoDi ddiweddaraf – yn dilyn cymorth ariannol hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Jerwood a Sefydliad PRS (ganddynt rydym wedi cael ein cyhoeddi fel un o Rwydwaith Datblygu Talent ledled y DU sydd â 73 o bobl).
Mae CoDI 24/25 yn cynnwys llwybrau cyflogedig, dan arweiniad artistiaid, ochr yn ochr â RHYNGWEITHIO, sef cyfres o weithdai a hyfforddiant.
Tuag Opera – partneriaeth gyda Music Theatre Wales, mae'r llwybr hwn yn paru chwe chrëwr cerddoriaeth gyda chwe awdur, gan eu cefnogi i
ddatblygu’r sgiliau o ysgrifennu opera. Cefnogaeth gan yr artistiaid
arweiniol Gwyneth Glyn, Iwan Teifion Davies a Michael McCarthy.
Ffidil Plws – ymarferwyr cyfoes blaenllaw o’r DU, Angharad Davies a
Darragh Morgan, yn arwain chwe chrëwr cerdd yn ysgrifennu ar gyfer ffidil unawdol ac electroneg.
BŴM! – llwybr ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfa (neu bedwar ensemble/grŵp ar ddechrau eu gyrfa) iddynt greu cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n ymateb i themâu’r argyfwng hinsawdd.
Bwthyn Sonig – galluogi artistiaid ag anableddau dysgu i ddatblygu sgiliau ac i greu cerddoriaeth wreiddiol; gyda chainc arbennig o nosweithiau clwb hygyrch.
RHYNGWEITHIO: i gynnwys
-
Dan-Ddaear: ehangu a datblygu’r rhwydwaith cenedlaethol hwn oartistiaid sain a chrewyr cerddoriaeth sy’n gweithio mewn arfercerddoriaeth anghonfensiynol
-
Mentora
-
Gweithdai a rhwydweithio
Gwnei'r rhaglen CoDI 24/25 yn bosib trwy gymorth ariannol hael oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru, PRS Foundation (Rhaglen Datblygu Talent), Jerwood Foundation, a Chronfa Cerddoriaeth Anthem Cymru (trwy ei gronfa Atsain, a gefnogir hyn trwy fuddsoddiad gan Youth Music a chymorth gan noddwyr sefydlu Anthem a Llywodraeth Cymru).
Tŷ Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner