top of page

Mae BŴM! yn llwybr ar gyfer pedwar artist ar ddechrau eu gyrfa (neu bedwar ensemble/grŵp ar ddechrau eu gyrfa) iddynt greu cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n ymateb i themâu’r argyfwng hinsawdd.

Mae’n bartneriaeth gydag Oxford Contemporary Music ac Articulture a bydd yn cefnogi artistiaid i ddatblygu sgiliau ymarferol a chreadigol ac i ddysgu am ymgorffori gwaith sy’n ymateb i’r hinsawdd wrth weithio. Mae hyn oll yn bosibl oherwydd cefnogaeth hynod hael Jerwood Arts, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS.

Bydd 4 o grewyr cerddoriaeth dethol yn derbyn £1500 yr un am gymryd rhan, ynghyd â chefnogaeth uniongyrchol gan gynhyrchwyr creadigol ac aelodau tîm OCM, Articulture a Tŷ Cerdd dros gyfnod o 9 mis. Bydd cyfres o gyfarfodydd yn ystod y cyfnod yn dod â’r garfan ynghyd i rannu dysg, syniadau a gwaith sydd ar y gweill ac i glywed gan arbenigwyr yn y maes.

Ella Roberts, Francesca Simmons, Gwen Siôn & Teifi Emerald

BŴM! logo strip.png

Amserlen

  • dydd Iau 7 Medi, bore – sesiwn i ddechrau pethau (ar-lein)

  • dydd Gwener 29 Medi – cwrdd #1 (y Dre Newydd, Powys)

  • dydd Mawrth 23 Ionawr, bore – cwrdd #2 (ar-lein)

  • dydd Sadwrn 9 Mawrth – cwrdd #3 (yn y Gogledd)

  • dydd Mercher 15 Mai, bore – cwrdd #4 (ar-lein)

  • dydd Mercher 3 NEU 10 Orffennaf (i'w gadarnhau) – cwrdd #5 (101 Outdoor Arts, Newbury)

▶ Ffotograffau BŴM!

 Peblo Pengwin

Stiwdio Cyfansoddwyr

Llwybr i'r Gerddorfa

CoDI 2023/24

▶ Galwad BŴM!

Cefnogir y llwybr hwn gan Jerwood Developing Artists Fund

bottom of page