top of page

Tŷ Cerdd yn cyhoeddi 
partneriaethau BYDIAID

Pleser o’r mwyaf i Dŷ Cerdd yw cyhoeddi enwau’r parau cyfansoddwr/cymdeithas gerdd a ddetholwyd ar gyfer ei gynllun BYDIS CoDI. Yn rhan o fenter datblygu cyfansoddwyr Tŷ Cerdd, mae’r cynllun hwn yn cysylltu cyfansoddwyr o Gymru â cherddorion nad ydynt yn broffesiynol o bob cwr o’r wlad mewn cyfres o brosiectau sydd â’r bwriad o greu gweithiau newydd a ffurfio cysylltiadau rhwng pobl greadigol a chymunedau lleol.
 
Yr wyth partneriaeth yw:

 

Haldon Evans a Band Iau Tref Pontardulais 
yn cydweithio â cherddorion ifainc i greu cyfansoddiad newydd i’w berfformio yng nghyngerdd blynyddol y Band.

 

Iestyn Harding a Cherddorfa Symffoni’r Fenni
yn creu ‘aml-gonsierto’ ar y cyd.

 

Martin Humphries Chymdeithas Band Pres Dinas Caerdydd (Melin Gruffydd) yn datblygu darn i’w berfformio ar yr un pryd gan bob un o bum band y gymdeithas.

 

Derri Joseph Lewis a Flat Pack Opera (Caerdydd)
yn datblygu opera siambr newydd i’w pherfformio mewn ysgolion.

 

Lucy McPhee a Chantorion Her Canser Castell Nedd-Port Talbot
yn creu darn newydd sy’n cyflwyno technegau cyfoes i’r cantorion.

 

Richard McReynolds a Fforwm Cymunedol Penparcau
yn gweithio â cherddorion lleol i greu gweithiau electroacwstig newydd.

 

Colin Tommis a Phumawd Chwyth y Fenai
yn datblygu a recordio gwaith newydd.

 

Jack White a Chôr Aduniad (Cwmbrân) 
yn arbrofi gydag electroneg mewn perfformiad corawl.

bottom of page