top of page

Eilir Owen Griffiths 1981

Mae Eilir Owen Griffiths yn arweinydd corawl, cyfarwyddwr cerdd, a chyfansoddwr o Gymru. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cerddoriaeth, mae wedi arwain corau gan gynnwys CF1, Côr Godre’r Garth, Côr y Drindod, a Chôr y Gleision, gan ennill cydnabyddiaeth mewn cystadlaethau a chyngherddau yn genedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys ennill Cor y Byd yn 2022. Yn 2023, sefydlodd Cor Ifor Bach, a enillodd Cor Cymru S4C yn ei blwyddyn gyntaf. Bu Eilir yn gyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen rhwng 2011 a 2017 yr ieuengaf i ddall y swydd bendol hono.

Mae’n arweinydd cysylltiol gydag British Sinfonietta ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn cyngherddau a digwyddiadau cerddorol ledled y DU. Mae ei waith arwain wedi ei gymryd i Ganada, Iwerddon, Yr Almaen, Gwlad Pwyl, Ffrainc, India ac Unol Daleithiau’r Amerig. Llwyddodd Eilir I dderbyn  clod y beirniaid gyda gwobr yr Arweinyddy ng Ngwyl Gorawl Derry, Iwerddon a hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019

Fel cyfansoddwr, mae wedi ysgrifennu cerddoriaeth i artistiaid ac ensembles megis Bryn Terfel, Wynne Evans, Noah Stuart, Claire Jones, Dave Danford, Robyn Lyn, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, British Sinfonietta a Chôr Prifysgol Dechnolegol Warsaw. Perfformiwyd ei Symffoni gyntaf yn 2022 “Gorau awen gwirioned” ac mae hefyd wedi derbyn comisiynau i gyfansoddi ar gyfer digwyddiadau fel Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Digwyddiad Coffa’r Holocost, a sefydlu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn 2008 ef oedd ennillydd Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Ym maes addysg, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant rhwng 2005 a 2025, lle datblygodd raglenni gradd i hyfforddi actorion, cantorion, dawnswyr a chyfarwyddwyr. Sefydlodd Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) yn 2021.

Eilir Owen Griffiths_edited.jpg

Eilir Owen Griffiths is a choral conductor, musical director, and composer. With over 25 years of experience in the music industry, he has led choirs including CF1, Côr Godre’r Garth, Côr y Drindod, and Côr y Gleision, gaining recognition in competitions and concerts both nationally and internationally, including winning Choir of the World in 2022. In 2023, he founded Cor Ifor Bach, which went on to win S4C’s Cor Cymru in its debut year. Eilir served as the musical director of the Llangollen International Musical Eisteddfod between 2011 and 2017, the youngest ever to hold this prestigious post.

He is an associate conductor with the British Sinfonietta and participates regularly in concerts and musical events across the UK. His conducting work has taken him to Canada, Ireland, Germany, Poland, France, India, and the United States. Eilir received critical acclaim, winning the Conducting Award at the Derry Choral Festival in Ireland and also at the National Eisteddfod in 2019.

 

As a composer, he has written music for artists and ensembles such as Bryn Terfel, Wynne Evans, Noah Stuart, Claire Jones, Dave Danford, Robyn Lyn, the BBC National Orchestra of Wales, the British Sinfonietta, and the Warsaw University of Technology Choir. His first Symphony, “Gorau awen gwirioned,” was performed in 2022, and he has also been commissioned to compose for events including the Llangollen International Eisteddfod, Holocaust Memorial Event, and the founding of the University of Wales Trinity Saint David. In 2008, he won the Musicians’ Medal at the National Eisteddfod of Wales in Cardiff.

In education, he worked at the University of Wales Trinity Saint David between 2005 and 2025, where he developed degree programmes to train actors, singers, dancers, and directors. He founded the Wales Academy of Voice and Dramatic Arts (WAVDA) in 2021.

ENG
bottom of page