top of page
VoG legacy grant bilingual.png

Grantiau cymynrodd i artistiaid wedi’u rhoi gan Å´yl Bro Morgannwg

​

Ar ôl dros 55 mlynedd o hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr byw, gwneud gwaith ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn Ne Cymru a thu hwnt, a meithrin partneriaethau rhyngwladol unigryw, mae Gŵyl Bro Morgannwg wedi dod i ben.

​

Y cyfansoddwr John Metcalf sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig yr Å´yl ers ei sefydlu, ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r Å´yl wedi comisiynu ugeiniau o gyfansoddwyr, wedi llwyfannu perfformwyr o safon fyd-eang o bob rhan o’r byd, ac wedi bod yn arloeswr ym maes cerddoriaeth newydd – diolch i lu o gyllidwyr a chefnogwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bro Morgannwg ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

​

Er mwyn parchu’n llwyr feddylfryd John fel cyfansoddwr a galluogwr, a gan gofio gwaith hynod yr Å´yl, bydd yr elusen yn ffarwelio drwy ddosbarthu grantiau i gyfansoddwyr yng Nghymru, gan fod â dyhead i gefnogi’r artistiaid a’r gerddoriaeth mwyaf beiddgar trwy’r gronfa hon. Bydd y grantiau yn cael eu gweinyddu gan TÅ· Cerdd ar ran yr Å´yl.

​

Bydd nifer cyfyngedig o grantiau rhwng £2k a £6k yn cael eu dyfarnu i gynigion sy’n rhoi llwyfan i waith cyfansoddwyr clasurol cyfoes sy’n dod o Gymru, a gwaith sy’n dangos cydweithredu rhwng cyfansoddwr/cyfansoddwyr a pherfformiwr/perfformwyr. Mae’r gronfa gyfan tua £23k, a rhagwelwn y rhoddir un neu ddau o grantiau ar y trothwy uchaf, ynghyd â nifer o ddyfarniadau llai.

​

Gall unigolion neu sefydliadau wneud cais, a bydd grantiau’n cefnogi gweithgarwch sy’n digwydd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Rhagfyr 2026.

 

I WNEUD CAIS

Rydym am i’r broses fod mor rhwydd â phosibl, felly rydym ond yn gofyn i chi lanlwytho’r wybodaeth ganlynol i’n PORTH

​

1. Manylion personol: enw (ac enw’r sefydliad os yw’n berthnasol), cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed.  Sylwer: Rhaid i’r cais gael ei wneud gan unigolyn neu sefydliad sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

2. Soniwch amdanoch eich hun: Disgrifiwch waith yr ymgeisydd ym maes cerddoriaeth newydd (unigolyn neu sefydliad, pwy bynnag yw’r ymgeisydd)

3. Eich cynnig: Beth ydych chi am ei wneud? Beth yw’r gerddoriaeth a gaiff ei pherfformio? Sut bydd eich gwaith yn hyrwyddo’r cyfansoddwr/cyfansoddwyr? Beth yw manylion y perfformiad (lleoliad, perfformwyr, dyddiadau, etc)? Cofiwch roi gwybodaeth am y bartneriaeth sy’n gweithio ar y prosiect hwn, yn ogystal â dyddiadau dechrau a gorffen eich gweithgarwch. Dim mwy na 500 gair

4. Eich cyllideb: Lanlwythwch dudalen cyllideb syml, yn manylu ar incwm a gwariant. Sylwer: efallai eich bod yn bwriadu defnyddio’r gronfa hon fel yr unig incwm, neu gall fod yn rhan o gyllideb prosiect mwy o faint. Os oes angen cymorth arnoch, anfonwch e-bost atom.

5. Enghreifftiau o gerddoriaeth: atodwch 2-6 dolen neu atodiad i’r crewyr cerddoriaeth yr ydych am eu hyrwyddo (anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)

​

Cewch roi rhan o’ch cais ar fideo neu ffeil sain, os yw hynny’n haws i chi.
Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2 a 3, uchod (hyd at 5 munud), a lanlwythwch ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1, 4 a 5 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, neu help i lanlwytho’ch gwybodaeth, anfonwch e-bost atom am help.

 

AMSERLEN A'R BROSES

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1200 ganol dydd ar ddydd Llun 20 Ionawr

  • Panel: John Metcalf, Steph Power (cyfansoddwr), Deborah Keyser (Cyfarwyddwr TÅ· Cerdd)

  • Byddwn yn rhoi gwybod y canlyniad i chi yn ystod yr wythnos sy’n dechrau dydd Llun 3 Chwefror

 

NODIADAU YCHWANEGOL

  • Genre cerddorol Rydym am ddenu’r rhychwant ehangaf bosibl o grewyr cerddoriaeth o’r arddulliau “clasurol cyfoes” (gan gynnwys traddodiadau llai cynrychioliadol, a heb eu cyfyngu i’r clasurol Gorllewinol) – o nodiant i fyrfyfyr, i’r arbrofol a ddim yn nodiant…

  • Welsh music-creators  This fund is to support the work of Welsh composers. If the composer being represented has been based in Wales for at least a year, or was born in Wales, they’re eligible.

  • Amrywiaeth  Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi eu hallgáu neu eu hesgeuluso gan y gymuned gelfyddydol; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, pobl Asiaidd a rhai ag ethnigrwydd amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

  • Unigolion – i fod yn gymwys i ymgeisio fel unigolyn, mae’n rhaid i chi fod:

    • dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru.

    • yn gallu gwneud cais yn enw cyfreithiol yr unigolyn sy’n gwneud y cais.

    • yn meddu ar gyfrif banc yn eich enw cyfreithiol.

 

Os oes gennych ddiddordeb, ond mae gennych ambell gwestiwn…

…mae’n ddigon rhwydd i ni sgwrsio â chi dros y ffôn neu dros Zoom – anfonwch e-bost bach i ni drefnu galwad. Mi wnawn ni drio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y gronfa a’r broses.

bottom of page