top of page
Oram Awards x Tŷ Cerdd x Llais yn cyflwno

Oramic Waves

9–11 Hydref 2026, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd​​​​

Mae Gwobrau Oram yn falch o gael cydweithio â Tŷ Cerdd | Cerddoriaeth Cymru drwy raglen Gŵyl y Llais, ynghyd â’r lleoliad llawr gwlad Paradise Garden, i ddod â chymunedau o Gymru, y Deyrnas Unedig ac o bedwar ban byd ynghyd yng Nghaerdydd dros benwythnos 9–11 Hydref.

​

Mae Gwobrau Oram a Tŷ Cerdd yn ddau sefydliad sy’n frwd eu cefnogaeth i artistiaid benywaidd a rhywedd-amrywiol sy’n archwilio amrediad eang sain, a’r ddau yn dod at ei gilydd i ddathlu’r byd creadigol anarferol, unigryw a di-hid y maent yn ei hyrwyddo.

 

Bydd hyn oll yn cyrraedd Caerdydd ddydd Iau 8fed Hydref, wrth i enillwyr Gwobrau Oram eleni ymuno â Tŷ Cerdd a chymuned Llais i brofi’r byd cerddoriaeth arbrofol yng Nghymru.

​

O sesiynau cymdeithasol a gweithdai i berfformiadau byw, bydd digon o gyfleoedd i’r cyhoedd ehangach gymryd rhan a mynychu digwyddiadau o dan faner Oramic Waves.

 

Enillwyr Gwobr Oram 2026 yw May Swoon / Neo Ukandu (Cymru), Rachel Devorah Rome (Gogledd Iwerddon), Semay Wu (Yr Alban), Outsider / Joni Newham (Lloegr) and eye measure / Ray Morrison (Lloegr).

 

Enillwyr Gwobrau Oram Award 2026

Digwyddiadau Oramic Waves
Gwobrau Oram
Gŵyl Llais​​​​
DIGWYDDIADAU ORAMIC WAVES 

Dim ond £5 yw’r pris mynediad i bob digwyddiad.

Gan fod lleoliadau’r digwyddiadau hyn yn tueddu i fod yn fach, argymhellir yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.

Natalie Roe
DYDD SADWRN 10 HYDREF, 13:00-16:00

Oramic Waves yng Ngŵyl y Llais yn cyflwyno

Parti Creu Pecyn o Samplau gyda Natalie Roe

Ystafell Ymarfer 3, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL

Artistiaid benywaidd a rhywedd-amrywiol, waeth beth fo’u lefel; £5; TOCYNNAU

​

Ymunwch â’r artist a enillodd Wobr Oram yn 2024, Natalie Roe, mewn gweithdy archwiliadol tair awr sy’n cyflwyno ac yn datblygu profiad cyfranogwyr o ddefnyddio samplau wedi’u recordio mewn cerddoriaeth. Yn ystod y sesiwn, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i greu cronfa o synau a chlipiau cerddoriaeth byr, gan ddefnyddio’r llais ac offerynnau electronig. Dan arweiniad Natalie Roe, bydd hon yn sesiwn chwareus i ddatblygu pecyn samplau gyda’n gilydd, a gall y cyfranogwyr wedyn fynd ag ef adref gyda nhw i greu ymhellach.

​

Amlinelliad y sesiwn:

  • Croeso a chyflwyno'ch hun

  • Perfformiad fer o'r synth modwlar a llais

  • Rhaniad o broses greadigol Natalie a'r lleisydd

  • Dangosiad o'r dechnoleg - yn enwedig y synth modwlar

  • Amser archwilio, cyfranogwyr mewn grwpiau, parau, neu'n unigol yn creu seiniau lleisiol ac electroneg

  • Recordiad o samplau trwy gydol yr amser archwilio

  • Rhannu'ch profiad, seiniau, a'ch sylwadau i gloi.

 

Mae Natalie Roe yn gyfansoddwraig, yn gynhyrchydd ac yn artist electronig sy’n gweithio rhwng Caerdydd a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae hi’n cyfuno synau acwstig ac electronig â chyfryngau eraill mewn amrywiaeth o brosiectau amlddisgyblaethol. Mae hi’n arbenigo mewn perfformio tirluniau sain electronig yn fyw gyda syntheseisydd modiwlaidd a ddefnyddir ganddi yn aml i drin a manipwleiddio synau o’r byd go iawn.

​

Warm Leveret
DYDD SADWRN 10 HYDREF, 21:30-01:00

Oramic Waves YN Paradise Garden

Gyda: DJs Orams, Warm Leveret, Outsider, eye measure

Paradise Garden, 213 City Road, Caerdydd CF24 3JD​

Digwyddiad byw, ar agor i bawb; Mynediad am ddim

 

Dathlu lleisiau menywod a rhywedd-amrywiol y tanddaearol arbrofol. Gyda setiau DJ a pherfformiadau byw gan enillwyr Gwobrau Oram eleni ac artistiaid Tŷ Cerdd.

 

Yn cyflwyno:

DJ Orams: y bobl y tu ôl i’r llenni sy’n ein symud rhwng setiau ar deithiau sonig aml-genre

 

Warm Leveret: Mae Emma Daman Thomas yn creu cerddoriaeth electronig ym mryniau Sir Faesyfed dan yr enw Warm Leveret, sydd wedi’i gyfyngu i lais, telyn a chân adar. Mae hi’n defnyddio samplau o’i llais ac yn ailadrodd y darnau hyn, ac yn gwthio sŵn ei thelyn amrwd drwy fuzz ac oedi, gan adeiladu byd sain myfyriol heb gân ynddo y mae hi’n ei alw’n sŵn meddal.

 

Outsider: Enillydd Gwobr Oram 2026 yn cyflwyno set DJ sy’n teithio drwy fyd cerddoriaeth glwb cwiar ac eclectigiaeth ddofn.

 

eye measure: i gloi’r noson, bydd perfformiad byw gan enillydd arall Gwobr Oram yn 2026. Disgwyliwch gerddoriaeth gyfrifiadurol ryfedd a thywyll ond llawn egni, gyda chodio byw.

May Swoon
DYDD SUL 11 HYDREF, 13:00-17:00

Oramic Waves yng Ngŵyl y Llais yn cyflwyno

Sesiwn cymdeithasu Oramic Waves

Cabaret, Canolan Mileniwm Cymru, Caerdyd CF10 5AL

 

Cymdeithasu, bwyd a pherfformiadau byw; Ar agor i bawb;  £5; TOCYNNAU

​​

Digwyddiad cymunedol, mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd | Cerddoriaeth Cymru, sy’n gyfle artistiaid arbrofol ac archwiliadol, cynulleidfaoedd a threfnwyr llawr gwlad ddod at ei gilydd i rannu profiadau a mwynhau bwyd a cherddoriaeth wych! Bydd croeso i bob math o ffyrdd o ymgysylltu â’r gymuned, a lle i gymryd rhan lawn mewn sgyrsiau, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer mannau tawel i ffwrdd o brysurdeb y digwyddiad, ynghyd â gorsafoedd gwrando gyda chlustffonau wedi’u gosod o amgylch y lleoliad.

​

Bydd y sesiwn gymdeithasol a’r bwyd (gyda darpariaeth ar gyfer pob math o ddeiet) yn ffurfio rhan gyntaf y digwyddiad, ac yna byddwn yn symud ymlaen at berfformiadau gan:

 

Rachel Devorah Rome a Pam Rose Cott

Perfformiad byrfyfyrio byw am y tro cyntaf rhwng dau artist sydd â gwreiddiau dwfn mewn arferion arbrofol.

A

May Swoon / Neo Ukandu 

Mae Neo Ukandu yn artist anabl sy’n unigryw ac arloesol ym myd cerddoriaeth bop arbrofol ac indi-electronica Cymru.

​

Mae Rachel Devorah Rome yn gerddor electronig sy’n gwerthfawrogi amynedd peiriannau a’u gallu i gofio. Mae ganddi ddiddordeb yn y tebygrwydd rhwng priodweddau ffisegol lleoliadau a’u hystyron cymdeithasol. Mae Rachel yn creu cerddoriaeth fyrfyfyr fyw ar y cyd ag artistiaid o amrywiaeth o genres.

 

Mae artist Tŷ Cerdd Pam Rose Cott yn lleisydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn bodoli’n bennaf ym myd creu sioe, perfformio a sain fyrfyfyr, ac mae bellach wedi ymestyn am y tro cyntaf i ryddhau’n swyddogol, ‘Nosegay’ (sef tusw bach o flodau a gâi ei wisgo gan fenywod o flaen eu hwynebau i’w hamddiffyn rhag arogleuon drwg a chlefydau). Mae hi’n perfformio er mwyn archwilio cynddaredd, dygnwch, bregusrwydd a chysylltiad.

​

Mae enillydd Gwobrau Oram 2026 Neo Ukandu yn arwain dau brosiect arloesol, sef May Swoon a Friends Are Evul. Caiff Neo foddhad wrth arbrofi gyda dulliau DIY ac elfennau annisgwyl, gan ddefnyddio sŵn, effeithiau ‘glitch’, samplwyr caledwedd a phatrymau syntheseisydd personol i greu traciau. Mae Neo yn frwd dros rannu’r broses o greu cerddoriaeth electronig arbrofol gyda chyfoedion anabl, trwy ryddhau a gwrthwynebu.

ENILLWYR GWOBRAU ORAM 2026

May Swoon / Neo Ukandu (Cymru)

Neo Ukandu yw’r ffigwr blaenllaw y tu ôl i’r ddau brosiect, May Swoon a Friends Are Evul, gan greu pop arbrofol ac indi-electronica o sain, glitch, samplwyr caledwedd a darnau o syntheseisydd a adeiladwyd ganddynt eu hunain. Gan arbrofi â dulliau DIY anrhagweladwy, mae Neo yn frwd dros gael eu cyfoedion anabl i greu cerddoriaeth electronig arbrofol.

​

Rachel Devorah Rome (Gogledd Iwerddon)

Mae Rachel Devorah Rome yn ymchwilydd, addysgwr a cherddor electronig Americanaidd sy’n arbenigo mewn byrfyfyrio ym Melffast, Gogledd Iwerddon. Mae ei gwaith yn ymwneud ag estyniadau goruwchddynol; anrhyloywder uwch-beiriant; ystyr newydd offer a deunyddiau hynafol; a chyfatebiaethau rhwng priodweddau ffisegol llefydd a’u hystyron cymdeithasol.

 

Semay Wu (yr Alban)​

Mae Semay Wu yn gyfansoddwraig, artist sain a chwaraewr soddgrwth sy’n byw yn yr Alban, ac mae ganddi ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ym maes byrfyfyr rhydd. Mae hi wedi gweithio ym meysydd dawns, theatr, barddoniaeth a sain ar gyfer arddangosfeydd, ac wedi creu Sounds Like Scran, sef llyfr coginio sain ar-lein ar gyfer cymunedau Manceinion. Mae ei gwaith unigol yn adeiladu ar recordio a defnyddio samplau o berfformio’r soddgrwth, llais a thâp yn fyw, yn ogystal â gwrthrychau bob dydd, a’i gwaith wedi’i ryddhau yn Raspberry Hotel (Akashic Records, 2022) a Sharmanka & Unsteady Stones (scatterArchive, 2023–24).

 

Outsider / Joni Newham (Dwyrain Canolbarth Lloegr)

Gan ganolbwyntio ar gyfuno technegau cymathu analog â synthesis digidol uwch ym meysydd cynhyrchu a pherfformio byw, mae Outsider yn pontio byd cerddoriaeth glwb cwiar â byd cerddoriaeth electroneg arbrofol, gan wneud hyn trwy ymarfer sydd hefyd yn ymestyn i feysydd fel DJio, datblygu meddalwedd, dylunio gweledol, ysgrifennu, cyhoeddi a churadu labeli.

 

eye measure / Ray Morrison (Sheffield, Lloegr)

Mae eye measure yn brosiect cerddorol gan yr artist Ray Morrison o Sheffield sy’n creu cerddoriaeth gyfrifiadurol arbrofol drwy godio byw. Dyma waith sy’n trawsnewid strwythurau syml yn rhai dwys, cymhleth ac annisgwyl, gan adael lle i gamgymeriadau a chanlyniadau annisgwyl. Mae Ray yn gyd-reolwr ar Pattern Club Sheffield, sef cyfres o weithdai a digwyddiadau sy’n archwilio patrymau algorithmig ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.

​

Caiff dathliad mewnol ar gyfer enillwyr Gwobrau Oram ei gynnal gan Llais yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Gwener 9 Hydref.

GWOBRAU ORAM

Mae Gwobrau Oram yn hyrwyddo bydoedd creadigol anarferol, unigryw ac anhidledig menywod ac artistiaid amrywiol o ran rhywedd sy'n arbrofi gyda sain, cerddoriaeth a thechnoleg.  

​

Ganed Daphne Oram ym 1925, ac roedd yn arloeswr radical ym maes electroneg a sain, yn gweithio mewn byd sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion a oedd yn aml yn tanseilio ac yn cysgodi ei llwyddiant. Chwaraeodd ran hanfodol wrth sefydlu menywod ar flaen y gad o ran arloesi sain nid yn unig yn y DU ond ledled y byd. 

​

Mae Gwobrau Oram yn adeiladu ar gyfraniad Daphne Oram fel cyfansoddwraig, peiriannydd a chyfarwyddwr sefydlu Gweithdy Radioffonig arbennig y BBC. Bob rownd, maent yn rhoi gwobr o fwrsariaeth a mentoriaeth i 5 artist, gan dynnu sylw at eu hymarfer chwilfrydig, cynyddu eu gwelededd a chynnig cefnogaeth barhaus gan gymuned Oram sy'n ehangu'n gyson. O godio byw a chynllunio sain fynegiannol i drin dolen dâp ac archwilio electro-acwstig, mae'r artistiaid a gydnabyddir gan y gwobrau Oram yn ymgorffori ysbryd anturus digyfaddawd Daphne Oram.  

GŴYL LLAIS 

Mae Llais yn cael ei guradu fel wythnos o gyfarfyddiadau cerddorol anhygoel - gigs unigryw, cydweithrediadau annisgwyl ac artistiaid nad ydynt yn cael eu gweld yn aml mewn mannau eraill yn y DU.  

​

Gyda’i gwreiddiau yn nwfn yn hunaniaeth Cymru fel Gwlad y Gân, mae'r ŵyl yn dathlu pŵer y llais yn ei holl ffurfiau - o werin a gospel i sain arbrofol, perfformiad cerddorfaol, adrodd straeon a thechnoleg ymdrochol. 

Mae’n wefr dod â chymunedau Cymreig a rhyngwladol Gwobrau Oram a Thŷ Cerdd at ei gilydd yng Ngŵyl Llais, i gynrychioli menywod cyfoes a phobl greadigol amrywiol o ran rhywedd sy'n arloesi ym maes sain.

 

Bydd carfan 2026 o enillwyr Oram yn ogystal â rhagor o bobl greadigol o Gymru yn ymddangos ar draws rhaglen Llais, a hynny drwy berfformiadau, cyfarfodydd cymunedol, gweithdai a mwy. 

​

Gallwch ddisgwyl yr annisgwyl a byddwch yn barod i gael eich syfrdanu. Edrychwn ymlaen at ddatgelu mwy yn ystod yr wythnosau nesaf. 

bottom of page