top of page

Bwrsariaethau ar gael ar gyfer jazzahead!, Bremen, 22-25 Ebrill 2026

Mae jazzahead! yn ffair fasnach, cynhadledd a gŵyl arddangos – gyda jazz cyfoes, proffil uchel o’r Almaen, Ewrop a thramor. O 22 i 25 Ebrill 2026, bydd byd y jazz yn dod ynghyd yn Bremen i rwydweithio, cyfnewid syniadau, mynychu cynadleddau a phaneli, a phrofi 38 o gyngherddau arddangos yn y rhaglen swyddogol dros bedwar diwrnod llawn dop.

​

Eleni mae TÅ· Cerdd (gyda chefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn cynnig 2 fwrsariaeth i gefnogi presenoldeb fel cynrychiolwyr.

​

Bydd TÅ· Cerdd yn rheoli presenoldeb Cymru yn y digwyddiad – gan gynnwys stondin Cymru/Wales yn yr expo. Bydd llety a thocyn cynrychiolydd wedi’u harchebu i ddeiliaid bwrsariaethau, a byddant yn cael rhywfaint o gefnogaeth tuag at deithio a chynhaliaeth.

​

I unrhyw sefydliadau neu unigolion sydd eisiau dysgu mwy am jazzahead!, y cyfleoedd y mae’n eu darparu a’r bwrsariaethau rydym yn eu cynnig, rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth Zoom 30 munud ddydd Mercher 28 Ionawr am 17:30. Byddwn yn siarad am y digwyddiad, sut y bydd y ddirprwyaeth yn cael ei chefnogi, a bydd amser ar gyfer eich cwestiynau. RECORDIAD Y SESSIWN AR GAEL ISLAW.

Manylion ymgeisio a dyddiad cau

Mae’r cyfle hwn yn agored i sefydliadau ac unigolion​

​

I ymgeisio, lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n PORTH erbyn 10:00 ddydd Mercher 4 Chwefror:

​​​

  1. Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, gwefan, manylion cyfryngau cymdeithasol (os ydych yn gwneud cais dros sefydliad, rhowch fanylion eich sefydliad yma)

  2. Os ydych yn artist: anfonwch 2 ddolen sain/fideo o’ch cerddoriaeth.

  3. Rhowch ddisgrifiad byr o’ch ymarfer/gwaith proffesiynol (hyd at 100 gair)

  4. Ydych chi wedi mynychu jazzahead! o’r blaen? Os do, beth oedd y canlyniadau? (hyd at 100 gair)

  5. Beth fyddai eich amcanion wrth fynychu digwyddiad 2026? (hyd at 200 gair) 

 

Sylwer: Rydym yn croesawu ceisiadau ar fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 3, 4 a 5 uchod (hyd at 4 munud), a lanlwytho’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 2 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolenni, e-bostiwch ni am help.​

​​

Nodiadau i ymgeiswyr

  • Mynediad a chynhwysiant  Yn unol â’n hymrwymiadau i’n Conglfeini, rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu sydd wedi wynebu esgeulustod neu waharddiad o gymuned y celfyddydau. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a niwrowahanol, pobl sy’n Ddu, Asiaidd ac o’r mwyafrif byd-eang, pobl LGBTQIA+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.​ Os hoffech chi ymholi neu drefnu cymorth mynediad i wneud cais am y cyfle hwn, plis ebostiwch ni.

  • Ymholiadau Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y bwrsariaethau neu’r digwyddiad, ac eisiau trafod cais posibl, anfonwch neges ebost a gallwn drefnu sgwrs ffôn.

  • Amserlen  Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod ein penderfyniadau erbyn yr wythnos yn dechrau dydd Llun 9 Chwefror

ENG

Two bursaries available for jazzahead! – Bremen, 22-25 April 2026 

jazzahead! is a trade fair, conference and showcase festival – with contemporary, high-profile jazz from Germany, Europe and overseas. From 22 to 25 April 2026, the jazz world will come together in Bremen to network, exchange ideas, attend conferences and panels, and experience 38 showcase concerts in the official programme over four packed days. 

​

This year TÅ· Cerdd (with support from Wales Arts International) is offering 2 bursaries to support attendance as delegates. 

 

TÅ· Cerdd (Music Centre Wales) will be managing the Welsh presence at the event – including a Cymru/Wales stand at the expo. Bursary holders will have accommodation and delegate pass booked for them, and will be given some support towards travel-and-subsistence.  

 

For any organisations or individuals wanting to find out more about jazzahead!, the opportunities it provides and the bursaries we’re offering, we’re holding a 30-minute Zoom information session on Wednesday 28 January @ 17:30. We’ll talk about the event, how the delegation will be supported, and there’ll be time for your questions. RECORDING OF THIS SESSION IS AVAILABLE ABOVE. 

Application details and deadline 

The opportunity is open to organisations and individuals.

​

To apply please upload the following information to our PORTAL by 10:00am on Wednesday 4 February:  

  1. Name, address, email address, mobile number, website, social media handles (if you’re applying for an organisation, please complete your organisational details here) 

  2. If you are an artist: 2 audio/audio-visual links to your music. 

  3. Short description of your practice/professional work (up to 100 words)  

  4. Have you attended jazzahead before? If yes, what were the outcomes? (up to 100 words) 

  5. What would your aims be in attending the 2026 event? (up to 200 words) 

  

NB: Video and audio applications are also welcomed. Record your answers to questions 3, 4 & 5 above (up to 4 minutes’ duration), and upload the information requested in questions 1 & 2 to the upload form. If you need help creating links, email us for help. 

​

Notes to applicants 
  • Access and inclusion  In line with our commitment to our Cornerstones, we are keen to receive applications from individuals who are under-represented or have faced neglect or exclusion from the arts community. We particularly welcome applications from disabled and neurodiverse people, people who are Black, Asian and from the global majority, LGBTQ+ people, and people from lower socio-economic backgrounds. If you would like to enquire about or arrange support with applying to this opportunity, please email us.  

  • Queries  If you have any queries about the bursaries or the event, and want to discuss a potential application please email and we can arrange a conversation. 

  • Timeline  All applicants will be informed of the decisions by w/b Monday 9 February 

 

PORTAL

WOMEX 2024 logo strip.png
bottom of page