top of page

Medal y Cyfansoddwr 2027

‘Arbrofi â’r traddodiad’

Comisiynu tri gwaith newydd ar gyfer y delyn deires

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10yb dydd Mercher 25 Tachwedd

Mae Medal y Cyfansoddwr yn gydweithrediad rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru. Ar gyfer Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd 2027, mae’r pwyslais ar y delyn deires a gwahoddir cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth o unrhyw genre i arbrofi â’r offeryn traddodiadol enwog hwn. 

 

Dyma gyfle i ddathlu’r gorau ym maes cyfansoddi a chreu cerddoriaeth yng Nghymru drwy wobr bwysig Medal y Cyfansoddwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

Anogir cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth o unrhyw genre i wneud cais. Bydd tri artist yn cael eu dewis i gael comisiwn, a bydd cyfle i’r tri weithio gyda’r delynores deires flaenllaw Eleri Darkins mewn gweithdai yn ystod hanner cyntaf 2027, a’r cyfansoddwr John Hardy hefyd yn hwyluso’r sesiynau hyn yn archwilio’r delyn deires.

 

Cynhelir y gweithdai yn Stiwdio Tŷ Cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Bydd pob un o’r tri artist a ddewisir yn derbyn ffi gomisiwn o £600, ynghyd â chael eu treuliau teithio (o fewn Cymru) wedi’u talu ar gyfer mynychu’r gweithdai a’r Eisteddfod ei hun.

 

Caiff y tri darn o waith a gomisiynir eu perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a dyfernir Medal y Cyfansoddwr i un o’r tri chyfansoddwr yn seremoni gloi’r Eisteddfod ar 7 Awst 2027.

 

Bydd enillydd Medal y Cyfansoddwr yn derbyn gwobr o £750.

HOFFECH CHI WYBOD MWY AM Y DELYN DEIRES?

Rydym wedi creu fideo am y delyn deires gydag Eleri Darkins, gan gyflwyno’r offeryn i gyfansoddwyr nad ydynt erioed wedi gweithio gyda’r delyn deires o’r blaen.

MyC 2027 logo_edited.jpg

DYDDIADAU 

Rhaid i’r holl ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer y gweithdai / perfformiadau canlynol: 

  • Dydd Iau 4 Chwefror: sesiwn cyflwyno hanner diwrnod (naill ai yn Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd; neu ar-lein, i’w drefnu) 

  • Dydd Iau 8 Ebrill: gweithdy gyda’r delynores, yn Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 

  • Dydd Iau 10 Mehefin: gweithdy gyda’r delynores, yn Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd 

  • Dydd Sadwrn 7 Awst: ymarfer / beirniadu yn Stiwdio’r Eisteddfod, Machynlleth (yn ystod y dydd) 

  • Prynhawn Sadwrn 7 Awst: Seremoni Medal y Cyfansoddwr 2027 (Pafiliwn yr Eisteddfod, tua 15:30) 

PWY SY’N GYMWYS

Genre  

Mae croeso mawr i geisiadau gan grewyr cerddoriaeth a chyfansoddwyr sy’n gweithio mewn unrhyw arddull gerddorol, er y dylid nodi y bydd angen i artistiaid ddefnyddio nodiant cerddorol ar gyfer y cyfle comisiynu hwn.  

 

Crewyr cerddoriaeth Cymru 

Mae croeso i geisiadau gan grewyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru. Rydych yn gymwys i wneud cais os:

  • cawsoch eich geni yng Nghymru, neu

  • ganed un o’ch rhieni yng Nghymru, neu

  • gallwch siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, neu

  • rydych wedi byw neu weithio yng Nghymru am 12 mis cyn 31 Awst 2027.

​

Mae cymorth ariannol ar ffurf bwrsariaeth ar gael ar gyfer treuliau teithio’r artistiaid yng Nghymru. Sylwer na fydd costau teithio y tu allan i Gymru yn cael eu talu.

FFORMAT Y CAIS

Mae ceisiadau ysgrifenedig i’w cyflwyno drwy ein porth ar-lein. 

​

Mae croeso hefyd i geisiadau sain a fideo. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, anfonwch e-bost at ymholiadau@tycerdd.org i gael cymorth.  

​ 

Y Gymraeg: cynhelir y gweithdai yn ddwyieithog, ac mae croeso i gyfranogwyr beth bynnag fo’u lefel ar eu taith Gymraeg

OS OES DIDDORDEB, OND MAE GENNYCH AMBELL GWESTIWN

gallwn gael sgwrs dros y ffôn neu dros Zoom. Anfonwch e-bost at  Deborah Keyser neu ymholiadau@tycerdd.org i drefnu galwad. Rydym am gael gwared ar gynifer o rwystrau â phosibl – felly cysylltwch ar bob cyfrif os oes unrhyw beth yr hoffech siarad â ni amdano, ac fe wnawn ninnau ein gorau i helpu i ddod o hyd i ateb.

SUT I YMGEISIO

Lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n PORTH. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

​ 

1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, a chadarnhad eich bod dros 18 oed. Cofiwch hefyd gynnwys eich gwefan a dolenni eich cyfryngau cymdeithasol (os yw hynny’n berthnasol).

​

2. Dywedwch wrthym am eich gwaith (dim mwy na 250 gair):   

  • Dywedwch wrthym am eich gwaith fel cyfansoddwr/crëwr cerddoriaeth, a beth rydych wedi bod fwyaf balch ohono.

  • Soniwch am unrhyw brofiad blaenorol sydd gennych fel crëwr cerddoriaeth a allai fod yn berthnasol i’r cyfle hwn.

​

3. Sut y byddech chi’n ymateb i ysgrifennu darn newydd i’r delyn deires ar gyfer Medal y Cyfansoddwr? (dim mwy na 400 gair: does dim rhaid i chi ddefnyddio’r terfyn geiriau yn llawn, ond rhowch gymaint o fanylion ag y teimlwch sy’n berthnasol ac yn ddefnyddiol.)  

​

Yn rhan o’ch ateb, soniwch am y canlynol: 

  • Sut y gallai ysgrifennu ar gyfer y delyn deires ymestyn eich ymarfer/gwaith, a chyfrannu at repertoire’r offeryn;

  • Eich perthynas â Chymru a’i hiaith. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dangos ymrwymiad i’r Gymraeg ac yn gwerthfawrogi ei phwysigrwydd i’r prosiect hwn.

 

4. Enghreifftiau o’ch gwaith: anfonwch ddwy ddolen neu atodiadau i’ch cerddoriaeth ynghyd â’r ddwy sgôr ar gyfer y ddau waith hwnnw.  

  • Anfonwch ddolenni ar gyfer traciau sengl (yn hytrach nag albwm llawn) a dim ond un ddolen ym mhob maes ar y ffurflen. 

  • Rydym yn eich annog i rannu enghreifftiau sy’n arddangos eich gwaith cryfaf a, lle bo’n bosibl, gwaith sy’n cyd-fynd â’r ffordd y byddech y mynd i’r afael â’r prosiect hwn.

  • O ran enghreifftiau sain: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo. Gall y rhain fod wedi’u cadw ar SoundCloud, Spotify, YouTube, ac ati. Os oes angen help arnoch i greu dolenni, cysylltwch ag ymholiadau@tycerdd.org   

  • O ran sgorau: anfonwch PDFs. 

 

CEISIADAU SAIN A FIDEO

 1. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2 a 3 uchod. (Dim mwy nag 8 munud: does dim angen ichi ddefnyddio’r wyth munud llawn, ond dylech gynnwys gymaint o fanylion ag y teimlwch sy’n ddefnyddiol.) 

​

2. Lanlwythwch ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu eich Manylion Personol (cwestiwn 1) a dolenni i ddwy enghraifft o’ch gwaith (cwestiwn 4). Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, anfonwch ebost i ymholiadau@tycerdd.org

​​

Y PANEL DEWIS

Bydd y canlynol ar y panel:  

  • Litang Shao, cyfansoddwr 

  • John Hardy, cyfansoddwr 

  • Eleri Darkins, harpist

  • Deborah Keyser, Cyfarwyddwr, Tŷ Cerdd 

AMSERLEN A’R BROSES DDEWIS 

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10yb dydd Mercher 25 Tachwedd

  • Bydd y panel yn cwrdd yn fuan ar ôl y dyddiad cau

  • Byddwn yn eich hysbysu am y canlyniad erbyn yr wythnos yn dechrau 7 Rhagfyr

PARTNERIAID/HWYSLUSWYR 

John Hardy yw Pennaeth Cyfansoddi Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

 

Yn blentyn, roedd John yn brif fachgen y côr yn Eglwys Gadeiriol Caerwysg. Yn ystod ei gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Ysgol y Guildhall, ef oedd cyfarwyddwr Gŵyl Edington am bedair blynedd.

 

Yn ei waith addysgol, mae John yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu creadigrwydd mewn ffordd sy’n ystyrlon iddynt hwy.  Mae gwerthfawrogi’r creadigrwydd hwn mewn eraill wedi arwain at gydweithio proffesiynol â’i fyfyrwyr a’i raddedigion.

 

‘Fy mhrif nod yw annog pobl i gredu ynddyn nhw eu hunain.’

 

ffinrecords.co.uk    

johnhardymusic.bandcamp.com

 

Mae Eleri Darkins yn delynores ac yn addysgwraig fedrus sydd â degawdau o brofiad yn meithrin talent gerddorol ar draws sawl cenhedlaeth. Ar ôl astudio o dan Elinor Bennett a Sioned Williams, arbenigodd mewn dysgu’r delyn bedal, y delyn fach, a’r delyn deires draddodiadol Gymreig.
Fel arloeswraig yn ei maes, cyd-sefydlodd canolfan delynau gyntaf Gwlad Tai, Canolfan Delynau Tamnak Prathom, yn 2002. Heddiw, mae’n Gyd-gyfarwyddwr yn Ysgol Haf Delynau Glasbury Arts ac yn dysgu yn Ne Powys.


Ymhlith ei pherfformiadau nodedig ar y delyn deires mae agoriad y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 a Chyngres Delynau'r Byd, ochr yn ochr ag ennill Gwobr Goffa John Weston Thomas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

​​

Pwrpas Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru yw hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth cyfansoddwyr o darddiad Cymreig a chyfansoddwyr o unrhyw genedligrwydd sy’n preswylio yng Nghymru.

MyC 2026 logo strip.png
bottom of page