top of page

Meirion Wynn Jones 1972

Brodor o Rewl, Llangollen yw Meirion, ac fe’i addysgwyd yn Ysgol Gadeirlan Wells cyn ennill ysgoloriaeth i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, lle yr astudiodd y piano gydag Alexander Kelly, yr organ gyda Nicholas Danby, organ byrfyfyr gyda Naji Hakim, ac arwain corawl gyda Patrick Russill. Tra’n fyfyriwr daliodd ysgoloriaethau organ yn Eglwys Gadeiriol Caerwynt ac Abaty Westminster, gan weithio gyda David Hill a Martin Neary. Wedi swyddi fel organydd yng Nghadeirlan Fetropolitan Lerpwl, Oratory Birmingham a Chadeirlan Aberhonddu, mae Meirion bellach yn dilyn gyrfa lawrydd fel cyfansoddwr, cyfeilydd ac athro. Am nifer o flynyddoedd roedd yn gyfeilydd swyddogol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol.

​

Recordiwyd ei weithiau corawl a lleisiol, a’u darlledu ar radio’r BBC ac ar S4C. Yn 2011 enillodd Meirion Dlws y Cerddor am gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae gweithiau comisiwn diweddar yn cynnwys Ffrindiau Bach a Mawr ar gyfer Côr Heol y March, a’r anthem Beloved, let us love i ddathlu deugain mlynedd o fodolaeth Cantorion John S. Davies. Mae gweithiau Meirion wedi’u cyhoeddi gan gwmni Curiad a chwmni SAIN yng Nghymru, cwmni Novello a’r RSCM yn Lloegr, a chwmni World Library Publications yn Chicago.

Meirion Wynn Jones pic.JPG
ENGLISH

A native of Rhewl, Llangollen, Meirion Wynn Jones was educated at Wells Cathedral School, before winning a scholarship to the Royal Academy of Music in London, where he studied piano with Alexander Kelly, organ with Nicholas Danby, organ improvisation with Naji Hakim, and choral direction with Patrick Russill. As a student he held organ scholarships at Winchester Cathedral and Westminster Abbey, working with David Hill and Martin Neary, respectively. Having held organist posts at Liverpool Metropolitan Cathedral, the Birmingham Oratory and Brecon Cathedral, Meirion now pursues a freelance career as a composer, accompanist and teacher.  He was for many years a staff accompanist at the International Eisteddfod in Llangollen, and at the National Eisteddfod of Wales.

​

His choral and vocal works have been recorded and broadcast on BBC radio and S4C. In 2011 he was awarded the Musician’s Medal (Tlws y Cerddor) for composition at the National Eisteddfod of Wales. Recently commissioned works include Ffrindiau Bach a Mawr for Côr Heol y March, and the anthem Beloved, let us love for the John S. Davies Singers, marking the fortieth anniversary of their founding. Meirion’s works are published in Wales by Curiad and SAIN, in England by Novello and the RSCM, and in Chicago by World Library Publications.

JSD cover.jpg
website icon.png
bottom of page