top of page

Mae Peblo Pengwin yn llwybr sy’n arbennig ar gyfer pobl niwrowahanol sy’n creu cerddoriaeth o unrhyw genre.

Mae’n bartneriaeth ag Aubergine Café, a dan arweiniad y ddeuawd sain Ardal Bicnic (Heledd C Evans a Rosey Brown) a’r cynhyrchydd creadigol Jake Griffiths.

Bydd y chwe crëwr cerddoriaeth ar ddechrau eu gyrfa (isod) yn derbyn £500 yr un am gymryd rhan. Mewn cyfres o weithdai, byddant yn archwilio technegau a dulliau, gan arwain at ddigwyddiad rhannu/recordio terfynol.

Caiff y gweithdai eu cynnal yng Nghaerdydd ar bedwar dydd Sadwrn dros gyfnod o ddau fis, ond croesewir ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a byddwn yn talu costau ar gyfer unrhyw artistiaid sydd angen teithio…

Amserlen

  • 1100-1800, dydd Sadwrn 23 Medi – gweithdy #1

  • 1100-1800, dydd Sadwrn 7 Hydref – gweithdy #2

  • 1100-1800, dydd Sadwrn 21 Hydref – gweithdy #3

  • 1100-1800, dydd Sadwrn 4 Tachwedd – gweithdy #4

  • Amser i'w gadarnhau, Dydd Sadwrn 18 Tachwedd – perfformiad rhannu yng Nghaerdydd

 

 BŴM!

 Stiwdio Cyfansoddwyr

CoDI 2023/24

▶ Galwad Peblo Pengwin

Eranan Thirumagan, Ffion Campbell-Davies, James Jones, Laura Phillips,  Neo Ukandu & Rhiannon Takel 

Penguin Pebbling logo strip.png
bottom of page