Cyhoeddi mai Paul Mealor fydd Cyfansoddwr Cysylltiedig newydd BBC NOW

Cafodd Paul ei eni yn Llanelwy a’i fagu yng Ngogledd Cymru. Mae wedi sefydlu perthynas â BBC NOW a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ers tro byd. Yn y gorffennol, mae wedi cydweithio ar weithiau sy’n cynnwys Celtic Prayers yn 2014 a’i Drydedd Symffoni, Illumination, a gafodd ei chomisiynu a’i pherfformio gan BBC NOW yn 2018.
Mae ei benodiad yn nodi dechrau pennod newydd gyffrous yn y berthynas honno, gan greu cyfleoedd i Paul weithio’n agos gyda’r Gerddorfa a’r Corws i ddatblygu cerddoriaeth newydd yn seiliedig ar bobl, llefydd a straeon Cymru.
Mae’r penodiad hefyd yn cau’r cylch yn llawn ar daith gerddorol Paul yng Nghymru. Mae gyrfa Paul wedi rhoi cyfle iddo ganu mewn côr yng Nghadeirlan Llanelwy ac astudio cyfansoddi gyda William Mathias a John Pickard. Mae traddodiadau cerddorol a thirwedd Cymru yn ogystal â'r iaith Gymraeg wedi parhau i ddylanwadu arno, ac mae ei gysylltiad â Chymru wedi bod yn thema gyson yn ei waith.
Nawr, fel Cyfansoddwr Cysylltiedig, mae’r berthynas honno’n dechrau ar bennod newydd – creu cerddoriaeth gyda chorws a cherddorfa genedlaethol Cymru a pharhau â’r etifeddiaeth gerddorol.
Dywedodd Paul:
“Mae dod yn Gyfansoddwr Cysylltiedig gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn teimlo, mewn ffordd hyfryd, fel cau’r cylch a dychwelyd adref. Dydy’r apwyntiad ddim yn teimlo fel fy mod yn ymuno â grŵp o ddieithriaid; mae’n teimlo fel cyfle i gryfhau perthynas gerddorol sy’n bodoli’n barod.”
Yn ystod ei gyfnod yn y rôl, mae Paul yn gobeithio edrych ar themâu fel cof, lleoedd, tirwedd, iaith a llais dynol, gan ddod â chymunedau cerddorol gwahanol at ei gilydd a chreu gwaith a fydd yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Ychwanegodd:
“Rwyf i eisiau canfod beth mae bod yn gyfansoddwr yn ei olygu nawr, nid drwy edrych yn ôl yn hiraethus ond drwy ganiatáu i’r gorffennol fod yn rhan o rywbeth newydd.”
Dywedodd Lisa Tregale, Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC:
“Mae’n bleser gennym groesawu Paul atom fel ein Cyfansoddwr Cysylltiedig newydd. Mae Paul yn gyfansoddwr ac yn storïwr eithriadol o Gymru, ac mae ganddo allu arbennig i greu cerddoriaeth sy’n cysylltu â phobl ar lwyfannau lleol a byd-eang. Rwy’n hynod gyffrous am yr hyn y gallwn ei greu gyda’n gilydd a’r straeon, y syniadau a’r cynulleidfaoedd newydd y gallwn eu harchwilio drwy’r bartneriaeth hon.”
Daw’r cyhoeddiad wrth i BBC NOW baratoi i gynnal y perfformiad cyntaf o Aberfan:From Darkness to Light, sydd wedi’i gomisiynu’n ddiweddar gyda geiriau gan Grahame Davies, i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan.
Bydd y gwaith yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan ddydd Sadwrn 24 Hydref, gan ddod â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Côr Meibion Ynysowen a chorau Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen ac Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug at ei gilydd.
Mae Paul wedi disgrifio’r gwaith fel “requiem sy’n cynnig gobaith”, sydd wedi ei greu i gofio ac anrhydeddu’r rheini a gollodd eu bywydau a phawb y cafodd eu bywydau eu newid am byth, gan adlewyrchu ar gryfder y gymuned heddiw.
Y dydd Sul canlynol, 25 Hydref, bydd Aberfan:From Darkness to Light yn cael ei berfformio yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd. Bydd y cyngerdd hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw ar wefan BBC NOW a BBC iPlayer, gan alluogi cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt i wrando ar y gwasanaeth coffa arbennig hwn.
Dyma ddechrau pennod greadigol newydd i Paul a BBC NOW – un sydd yn seiliedig ar Gymru a’i straeon, ac yn llawn posibiliadau.




Comments