top of page

Rhoi lle canolog i gyfansoddwyr B/byddar ac anabl o’r Alban, Cymru a gogledd-ddwyrain Lloegr

6 hours ago
2 min read
Bydd y Zöllner-Roche Duo yn gweithio mewn partneriaeth â Tŷ Cerdd a Drake Music Scotland.
Bydd y Zöllner-Roche Duo yn gweithio mewn partneriaeth â Tŷ Cerdd a Drake Music Scotland.

Mae ‘tywynnu | leoma | afterglow’ yn brosiect cydweithredol i gomisiynu, perfformio a recordio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr B/byddar, niwrowahanol ac anabl.


Bydd Tŷ Cerdd | Cerddoriaeth Cymru a Drake Music Scotland yn gweithio mewn partneriaeth â Zöllner-Roche Duo (acordion a chlarinét) i gomisiynu gwaith gan ddau gyfansoddwr o Gymru, un o’r Alban ac un arall o ogledd-ddwyrain Lloegr. Bydd y cyfansoddwyr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu dewis drwy alwad agored, a bydd Ben Lunn, derbynnydd y comisiwn yn yr Alban, yn cynnig cymorth a mentora i’r artistiaid eraill wrth i’w gweithiau newydd ddatblygu.

 

Mae’r prosiect yn ddilyniant i ‘letting the light in’, sef cydweithrediad dylanwadol o 2023 (hefyd wedi’i ariannu gan Beyond Borders), lle perfformiodd y pianydd Siwan Rhys weithiau newydd gan chwe chyfansoddwr anabl. Recordiwyd pob un o’r chwe gwaith yn stiwdio Tŷ Cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a’u rhyddhau ar albwm gan NMC Records.

 

Yn ‘tywynnu | leoma | afterglow’, bydd cyfansoddiadau newydd gan y cyfansoddwyr a ddewisir yn cael eu perfformio ochr yn ochr â gweithiau diweddar gan gyfansoddwyr anabl o’r Alban (Sonia Allori, Ewan McKay a Joe Stollery), a’u perfformio yn hydref 2027 yn y mannau canlynol:


  • Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

  • Glasshouse, Gateshead: Sage Two

  • Sound Festival, Aberdeen

 

Yn ogystal â’r perfformiadau, byddwn yn dod â phob un o’r saith gwaith i stiwdio Tŷ Cerdd, gan weithio gyda James Clarke (Pennaeth Recordio a Chynhyrchu) i archwilio ffyrdd hygyrch o hwyluso cynnwys mewnbwn ac adborth y cyfansoddwyr anabl yn y broses recordio pan na allant fynychu yn gorfforol. Bydd y recordiadau’n cael eu dwyn ynghyd ar albwm ar Recordiau Tŷ Cerdd.


Rhagor o wybodaeth yn fuan



Comments


bottom of page