top of page

Gŵyl NAWR hosts Tŷ Cerdd x Oram Awards DJing workshop

1 hour ago
2 min read

scroll down for English


Fel rhan o Ŵyl Nawr 2026, cydweithiodd Tŷ Cerdd â’r Oram Awards i ddod â dau artist i Abertawe am y tro cyntaf.


Cynhaliwyd gweithdy DJio arbrofol i ddechreuwyr – ar gyfer menywod a chynhyrchwyr cerddoriaeth sy’n amrywiol o ran rhywedd – gan y DJ a’r cynhyrchydd Daisy Moon (Bryste) yn Volcano Theatre ddydd Gwener y 6ed.


Cafodd y cyfranogwyr y fraint unigryw o arbrofi gyda chasgliad o seiniau gwreiddiol o archif Oram – seiniau a grëwyd ac a recordiwyd gan Daphne Oram ei hun yn y BBC Radiophonic Workshop. Gan ddefnyddio rheolwyr DJ digidol, gweithion nhw gyda gweadau ac effeithiau sain (FX) i greu tirweddau sonig, mewn parau ac fel grŵp.


Nos Sadwrn, daeth yr ŵyl i ben gyda pherfformiad ‘turntablism’ medrus gan Nik Nak (Leeds) o flaen cynulleidfa frwdfrydig yn llawr uchaf Tŷ Tawe. Ail-weithiodd y samplau o archif Oram yn gelfydd, gan ddefnyddio technegau ‘scratching’ hylifol a chymysgu greddfol.




As part of Gŵyl Nawr 2026, Tŷ Cerdd collaborated with Oram Awards to bring two artists to Abertawe for the first time.

 

DJ and producer Daisy Moon (Bristol) ran a beginners experimental DJing workshop for women and gender diverse music producers at Volcano Theatre on Friday 6th.

 

Participants had the exclusive honour of experimenting with a sample pack of original sounds from the Oram archive, synthesised and recorded by Daphne Oram herself at the BBC Radiophonic Workshop, using digital DJ controllers to work with textures and FX to create sonic soundscapes in pairs and as a group.

 

On Saturday night, the expert turntablism of Nik Nak (Leeds) closed the festival to a responsive audience upstairs at Tŷ Tawe, deftly reworking the Oram samples via her fluid scratching and intuitive mixing.

Comments


bottom of page