top of page

Mae Tŷ Cerdd yn croesawu aelod newydd o’r tîm

1 hour ago
1 min read

 

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Emma Daman Thomas yn ymuno â staff Tŷ Cerdd fel Rheolwr Datblygu Artistiaid, i ymgymryd â’r rôl yn ystod cyfnod absenoldeb mamolaeth un o’n haelodau staff parhaol. Yn ei rôl newydd, bydd Emma yn helpu i hyrwyddo datblygiad y rhaglen CoDI, gan oruchwylio ei gweithrediad mewn cydweithrediad ag aelodau’r tîm, artistiaid a sefydliadau partner.


Emma Daman Thomas

Mae Emma yn gweithio ym meysydd cerddoriaeth, sain a dylunio. Mae hi’n aelod o’r band Islet – sydd wedi rhyddhau pedwar albwm ac wedi perfformio’n fyw yn rhyngwladol – ac mae hefyd yn perfformio ar ei phen ei hun, gan ddefnyddio llais, electroneg a thelyn, o dan yr enw Warm Leveret.


Mae prosiectau diweddar eraill yn cynnwys dylunio sain a cherddoriaeth ar gyfer theatr, ffilm ac arddangosfeydd. Mae hi hefyd yn creu gwaith celf ar gyfer y byd cerddoriaeth, ar ôl graddio gyda BA mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd.


Yn 2020, roedd Emma yn un o artistiaid Keychange EU – un o 74 o artistiaid a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth (merched neu unigolion nad ydynt yn cydymffurfio â normau rhywedd) o 12 gwlad wahanol a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen ddatblygu hon. Mae hi’n byw yn fryniau Sir Faesyfed.

Comments


bottom of page