top of page

27.11.26 Dathlu Peter Reynolds

3 hours ago
1 min read


Ar y 27ain o Dachwedd bydd cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu gwaith Peter Reynolds; y cyfansoddwr, athro, ffrind, a mentor i lawer – yn nodi deng mlynedd ers ei farwolaeth yn 2016. Dyma gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Tŷ Cerdd | Music Wales. Amserlen isod:

 

Dechreuwn gyda chyngerdd amser cinio yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, 13:15-14:00

 

Dilynir hyn gan brynhawn o sgyrsiau, trafodaethau a pherfformiadau byw sy'n archwilio effaith gwaith Peter Reynolds a'i le ym myd cerddoriaeth Gymreig – dan arweiniad Steph Power yn Oriel Weston yn RWCMD, sy’n ddechrau am 14:30.


14:30-15:30 Sgyrsiau yn cynnwys cerddoriaeth fyw. Siaradwyr: Ashley John-Long, Alex Thacker, and Philip May

15:30 Toriad byr

15:45-17:00 Trafodaeth agored gydag hen aelodau o'r PM Ensemble, a sefydlwyd gan Peter. Ymuna â ni Lynne Plowman, Michael Rafferty, Verity Fielding ac Andrew Wilson-Dickson.


 

Rydym yn cloi gyda chyngerdd yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd ar Heol Corbett am 19:00, yn cynnwys Philip May (piano unigol) a Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Prifysgol Caerdydd.

 

Dan gipolwg:



Comments


bottom of page