top of page
sbotolau25 logotype_edited.png

Yn ystod tair wythnos gyntaf mis Rhagfyr, i gloi blwyddyn brysur, rydym yn tynnu sylw at gerddoriaeth a grëwyd gan rai artistiaid rhyfeddol yn ystod ein llwybrau datblygu creadigol, ar draws ystod o genres...

Byddwn yn gwneud datgeliad yn ystod yr wythnos rhwng 1 a 19 Rhagfyr.

Across the first three weeks of December, to round off a busy year, we’re casting the spotlight on music created by some remarkable artists during our creative development pathways, across a range of genres...

We’ll be doing a week-day reveal 1 to 19 December.

sbotolau final image.jpg

Diolch i’n holl artistiaid Sbotolau 25 rydym wedi tynnu sylw atynt dros yr wythnosau diwethaf. Rydyn ni wedi cysylltu â gymaint o bobl dalentog a diddorol eleni fel mai dim ond trawstoriad bach o’n gweithgaredd sydd wedi’i gynnwys dros y mis, ond diolch o galon i bawb am flwyddyn wych arall o greadigrwydd!

Sgroliwch i lawr i glywed/gwylio darnau gwych o gerddoriaeth o fewn 'Sbotolau 2025'.


_____

Thank you to all our Sbotolau 25 artists that we’ve highlighted over the past few weeks. We’ve had so much contact with so many talented and interesting people this year that what we've shared this month has only been a small cross-section of our activity, but diolch o galon i bawb for another fantastic year of creativity!

Scroll down to hear/watch some brilliant pieces of music under 'Sbotolau 2025'.

sbotolau25 - Global Producers.jpg

Rydym wedi partneru ar brosiectau rhyngwladol gwych eleni…


Cynrychiolodd Ashley John Long Cymru gyda'i driawd piano Beyond the Haze of Winter's Edge yn ISCM World New Music Days yn Lisbon ym mis Mehefin 2025.


Ym mis Awst, ymunodd yr artistiaid Cymreig Malgola Gulczynska (Malgola, No!) a Natalie Roe â'r Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Menywod a Chynhyrchwyr Cerddoriaeth Anneuaidd mewn partneriaeth â'r Eisteddfod ac NAC Canada. Cynhaliwyd wythnos ddwys o gynhyrchu cerddoriaeth ar y cyd gyda rhwydwaith talentog ac amrywiol o artistiaid yn Studio Bell yn Calgary ac yn Banff Arts Centre.


Rydym yn falch i gefnogi llwyfannau newydd a chydweithrediadau rhyngwladol hirdymor ar gyfer artistiaid Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at yr hyn sydd nesaf. Diolch Wales Arts International am gefnogi'r prosiectau hyn.

_____

We’ve partnered on some brilliant international projects this year…


Ashley John Long’s Beyond the Haze of Winter's Edge for piano trio flew the flag for Cymru at ISCM World New Music Days in Lisbon in June 2025.


In August, Welsh artists Malgola Gulczynska (Malgola, No!) and Natalie Roe joined the Global Network for Women and Non-Binary Music Producers in partnership with the Eisteddfod and NAC Canada. An intensive week of collaborative music production with a talented and diverse network of artists was hosted at Studio Bell in Calgary and at Banff Arts Centre.


We’re proud to support new platforms and long-term international collaborations for Welsh artists, and we’re looking forward to what’s next. Diolch Wales Arts International for supporting these projects

sbotolau25 - MyC.jpg

Diweddglo llawen i'n wythnos yn yr Eisteddfod oedd dyfarniad Medal y Cyfansoddwr 2025 i Sarah Lianne Lewis. Dros saith mis, cefnogodd Tŷ Cerdd, ynghyd â'r mentor-cyfansoddwr Pwyll ap Siôn, tri chyfansoddwr i ddatblygu darnau newydd yn arbennig ar gyfer triawd o Sinfonia Cymru.

Ysgrifennwyd y tair gwaith newydd, gan Sarah Lianne Lewis, Jonathan Guy ac Owain Roberts mewn ymateb i nofel epig Islwyn Ffowc Elis, ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ – a chawsant eu perfformiadau cyntaf yn y byd ar lwyfan y Pafiliwn yn seremoni olaf yr Eisteddfod.

_____

The joyful conclusion of Eisteddfod week for Tŷ Cerdd was the award of the 2025 Composer’s Medal to Sarah Lianne Lewis. Over seven months Tŷ Cerdd, along with composer-mentor Pwyll ap Siôn, supported three composers to develop new pieces specially for a trio from Sinfonia Cymru.

The three new works, by Sarah Lianne Lewis, Jonathan Guy and Owain Roberts, were written in response to Islwyn Ffowc Elis’s epic novel ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ – and received their world premieres on the Pavilion stage in the last ceremony of the Eisteddfod.

sbotolau25 - Tuag Opera.jpg

Llwybr datblygu artist arall a ddaeth i ben eleni oedd Tuag Opera, mewn partneriaeth â Music Theatre Wales. Crëwyd chwe darn opera newydd gan chwe phâr o awduron a chyfansoddwyr a ddaeth ynghyd ar ein llwybr creadigol. Gorffennom gyda diwrnod recordio yn ein stiwdio, ond cafodd y prosiect ail fywyd gyda pherfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn yr haf hefyd!

Y partneriaid artistig oedd cyfansoddwr Sarah Lianne Lewis gyda'r awdur Beca Davies; Madame Ceski (Francesca Simmons) gyda TeiFi (Teifi Emerald); Andrew Cusworth gyda Kayley Roberts; Nathan James Dearden gyda Siwan Llynor; Eadyth Crawford gydag Anna Sherratt; Lowri Mair Jones gyda Gwenno Gwilym.

_____


Another artist-development pathway which culminated this year was Tuag Opera, in partnership with Music Theatre Wales. Six new operatic segments were created by six writer-composer pairings brought together on our creative pathway. We finished with a recording day in our studio, but the project had a second lease of life with a performance at the National Eisteddfod in Wrexham this summer too!

The artist partners were composer Sarah Lianne Lewis with writer Beca Davies; Madame Ceski (Francesca Simmons) with TeiFi (Teifi Emerald); Andrew Cusworth with Kayley Roberts; Nathan James Dearden with Siwan Llynor; Eadyth Crawford with Anna Sherratt; Lowri Mair Jones with Gwenno Gwilym.

sbotolau25 - Ella Roberts_edited.jpg

Dros gyfnod CoDI BŴM! llwyddodd Ella Roberts i ehangu ei map sain ar-lein 'The Field Recording Project'.

Datblygodd Ella gweithdy cerdded sain awyr agored a oedd yn annog cyfranogwyr i gysylltu'n agosach â'u hamgylchedd drwy gyfres o weithgareddau yn ymwneud a sain. Roedd y gweithdy'n cynnwys ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar, nodiant graffig, a thaith gerdded drwy Barc Biwt gan ddefnyddio meicroffonau a chlustffonau cludadwy i gasglu recordiadau maes.

_____

Through CoDI BŴM! Ella Roberts was able to expand her online sound map 'The Field Recording Project'.

Ella developed an outdoor soundwalk workshop that encouraged participants to connect more closely with their environment through a series of interactive sound-based activities. The workshop involved mindfulness exercises, graphic notation, and a walk through Bute Park using portable microphones and headphones to collect field recordings.

​​gwrandewch / listen

sbotolau25 - Francesca Simmons_edited.jpg

Mae ‘Breathing’ gan Francesca Simmons (@madameceski) yn defnyddio bibiau a throwsus sy’n cael eu hactifadu gan symudiad i greu myfyrdod sonig yn ymwneud â natur, symudiad ac anadl.


Fe'i cyflwynwyd yn ein diwrnod rhannu ar gyfer BŴM! – ein llwybr ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd, iddynt greu cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n ymateb i themâu’r argyfwng hinsawdd – ym Mharc Biwt, Caerdydd, ym mis Mehefin.
___


‘Breathing’ by Francesca Simmons (@madameceski) uses movement-activated bibs and trousers, to create a sonic meditation around nature, movement and breath.


It was presented at our sharing day for BŴM! – our pathway for early-career artists in making outdoor music and sound that responds to themes of climate crisis – in Bute Park, Cardiff, this June.
 

​​gwrandewch / listen

sbotolau25 - Gwen Sion_edited.jpg

Ar gyfer digwyddiad rhannu BŴM! yng Nghaerdydd yr haf hwn, perfformiodd Gwen darn byr o'i gwaith ar droed, 'Atlantis 2050'. Tynnodd y prosiect sylw at effaith lefelau'r môr yn codi ac erydiad arfordirol ac roedd yn cynnwys proses o gasglu data a synau amgylcheddol, a oedd yn cyfuno recordiadau sain amgylcheddol a chyfansoddiadau gwreiddiol, gyda chyfansoddiadau wedi'u creu trwy ddefnyddio patrymau yn y data i greu elfennau o frawddegu melodig a nodiant.

 

Tynnodd luniau a gwneud ffilmiau fideo ym mhob lleoliad, a chasglodd ddeunyddiau naturiol a ganfu ar hyd yr arfordiroedd (e.e. cregyn, broc môr, cerrig) i greu cyfres newydd o offerynnau electronig a dyfeisiau sain wedi'u hysbrydoli gan y môr. Ar ol hyn, gweithiodd ochr yn ochr â’r feiolinydd  a cherddor byrfyfyr Angharad Davies a ymatebodd i gyfres o sgoriau graffig Gwen wedi’u hysbrydoli gan yr arfordiroedd.
___

For the BŴM! sharing event in Cardiff this summer, Gwen performed a short work in progress excerpt from her project 'Atlantis 2050'. The project highlighted the impact of rising sea levels and coastal erosion and involved gathering environmental data and sounds, combining environmental audio recordings and original compositions, with compositions created using patterns in the data to determine elements of melodic phrasing and notation.

 

Gwen also filmed video footage at each location and collected site-specific natural materials along the coasts (e.g. shells, driftwood, stones) to create a new series of sea-inspired electronic instruments and sound devices. Following this, she worked with violinist and improvisor Angharad Davies who responded to a series of graphic scores Gwen made inspired by the coastlines.

​​gwrandewch / listen

sbotolau25 - TeiFi_edited.jpg

Darn TeiFi ar gyfer BŴM! - ein llwybr ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd, iddynt greu cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n ymateb i themâu’r argyfwng hinsawdd - oedd ‘Ywen’. Dyma oedd perfformiad agoriadol ein diwrnod rhannu i’r cyfranogwyr ym mis Mehefin ym Mharc Bute, Caerdydd: “rhaniad yn yr awyr agored amdano natur, Cymreictod, iaith, hinsawdd, rhyfel, gwladychiaeth a hil-laddiad. Roeddwn i eisiau archwilio’r tywyllwch gyda chwarëusrwydd.”

___


TeiFi’s piece for BŴM! – our pathway for early-career artists in making outdoor music and sound that responds to themes of climate crisis – was ‘Ywen’ (‘Yew’). This was the opening performance on our sharing day for the participants this June in Bute Park, Cardiff: “an outdoor sharing about nature, Welshness, language, climate, war, colonialism and genocide. I wanted to explore the darkness with playfulness.”

 

​​gwrandewch / listen

sbotolau25 - Angharad Davies_edited.jpg

Gweithiodd Angharad Davies ochr yn ochr â'r feiolinydd Darragh Morgan fel mentor ar ein rhaglen Ffidil Plws, ac mae ei darn troellog, hanner-byrfyfyr ‘Pentref y Feiolinau’ yn cloi’n halbwm ‘Cysgodion’.  

___

Angharad Davies  worked alongside violinist Darragh Morgan as mentor on our Ffidil Plws scheme, and her swirling, semi-improvised ‘Pentref y Feiolinau / Village of Violins’ concludes our ‘Cysgodion’ album.  

 

​​gwrandewch / listen

Joseph Graydon sbotolau image

Mae ‘Basilica’ gan Joseph Graydon yn symud llinell ffidil sy’n llifo rhwng gwrthrychau sonig telynegol. Mae’r feiolinydd wedi’i leoli mewn byd sonig sy’n teimlo’n fyfyriol ond yn ansefydlog, bob amser yn newid yn gyson. 

___

‘Basilica’ by Joseph Graydon  moves a flowing violin line between lyrical sonic objects. The violinist is positioned in a sonorous world that feels contemplative yet unstable, always in flux. ​

 

​​gwrandewch / listen

sbotolau25 - Joshua Lascar_edited.jpg

Ystyr y teitl 'Two To Four To One' gan Joshua Lascar ydy'r cyfeiriad at y broses o'r 'dau' ffidil sy'n cael eu samplu, wedi newid i harmoni 'pedwar' llais wedi’i berfformio’n electronig, i 'un' unawdydd yn chwarae drosto.  

___

 

The meaning of Joshua Lascar’s title ‘Two To Four To One’ is a reference to the process of the 'two' violins which are sampled, to create 'four'-voice harmony performed electronically, to 'one' soloist playing over it. 

 

​​gwrandewch / listen

sbotolau25 - Sara Evelyn_edited.jpg

Ysbrydolwyd 'water drawing' gan recordiad maes a wnaeth Sara Evelyn yng Nghoed Tŷ Canol. Ochr yn ochr â hyn, mae recordiadau'r ffidil wedi’i ddal a’i osod mewn haenau i greu’r gwead cyflawn, sydd wedi’i blethu gyda’i gilydd ar dâp casét drwy ddefnyddio TASCAM Portastudio a phedal atsain tâp. 

 

___

Sara Evelyn’s ‘water drawing’  was inspired by a field recording Sara made at Coed Tŷ Canol. Alongside this, live violin recordings are captured and layered to create the overall texture, which is woven together on cassette tape using a TASCAM Portastudio and tape echo pedal. 

 

​​gwrandewch / listen

Natalie Roe

Mae 'Taith' gan Natalie Roe yn cyfuno ffidil fyw â syntheseisydd modiwlaidd, wedi'i drin mewn amser real. Mae'r darn yn dwyn i gof ddelwedd o dirwedd eang o fynyddoedd, niwl a defaid yn y pellter. 

___

 

Natalie Roe’s 'Taith’ combines live violin with modular synthesiser, manipulated in real time. The piece evokes the image of an expansive landscape of mountains, mist, and distant sheep.  

 

​​gwrandewch / listen

Richard McReynolds

‘Draighean’ by Richard McReynolds, uses live electronic processes to coax out the inner ghosts of the live violin, performed by Darragh Morgan. 

___

Mae ‘Draighean’ gan Richard McReynolds yn defnyddio prosesau byw electronig i ddenu allan ysbrydion mewnol y ffidil fyw, a berfformiwyd gan Darragh Morgan. 

 

​​gwrandewch / listen

Sbotolau 25 start
Delyth Field

‘Cysgodion’ gan Delyth Field yw'r trac teitl ein halbwm newydd, sy’n deillio o’n llwybr datblygu Ffidil Plws. 

___

‘Cysgodion’ by Delyth Field is the title track of our brand new album, stemming from our Ffidil Plws development pathway. 
 

gwrandewch / listen

bottom of page