top of page

PENGUIN PEBBLING

24 February 2024 (SHIFT, Cardiff)

with support from Arts Council of Wales & PRS Foundation

Penguin Pebbling – Tŷ Cerdd’s pathway for neurodivergent artists – concluded on 24 February with a celebratory performance at Shift in Cardiff, and a dazzling range of music and styles from the six participants. 
 

  • Laura Phillips opened the show with an evocative experimental soundtrack over a backdrop of archive footage of the CND movement in Wales.

  • Second up was the virtuosic James Jones, running the gamut from his own blues rock songs with startling fiddle accompaniment, to flamenco-esque guitar improvisation.

 

  • Neo Ukandu’s truly dance-worthy set took in noise, shoegaze and electro-pop, all with a crooning vocal.

 

  • A striking interlude between live performances was provided by Eranan Thirumagan’s piece for fixed electronics – all the more fitting, the source material having been recordings made by the whole group in the Tŷ Cerdd Studio.

 

  • Rhiannon Takel took us firmly into contemporary folk territory with a selection of Welsh and English songs, all accompanied by Rhiannon herself on fiddle and foot-pump harmonium.

 

  • Ffion Campbell-Davies’s set featured impassioned vocals over increasingly layered loops of sound, raising the roof on the evening.

 
The evening was produced and MC’ed by the lead artists for the pathway: Jake A Griffiths, Heledd C Evans and Rosey Brown.

▶ CoDI Penguin Pebbling

CYM

PEBLO PENGWIN

Dydd Sadwrn 24 Chwefror 2024 (SHIFT, Caerdydd)
gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS

Peblo Pengwin oedd llwybr Tŷ Cerdd ar gyfer artistiaid niwrowahanol, a daeth i ben ar 24 Chwefror gyda pherfformiad dathlu yn y Shift yng Nghaerdydd lle cafwyd cyflwyniad o amrywiaeth trawiadol o gerddoriaeth ac arddulliau gan y chwech a gymerodd ran.

  • Agorodd Laura Phillips y sioe gyda thrac sain arbrofol atgofus a ffilmiau archif y mudiad CND yng Nghymru yn gefndir.

  • Yr ail i berfformio oedd y dihafal James Jones, yn cyflwyno cwmpas o’i ganeuon roc blŵs ei hun gyda chyfeiliant ffidil syfrdanol, a cherddoriaeth fyrfyfyr ar y gitâr ar arddull fflamenco.

  • Roedd set ddawns wirioneddol glodwiw Neo Ukandu yn cynnwys sŵn, shoegaze ac electro-pop, oll â cherddoriaeth leisiol yn crwnan.

  • Interliwd drawiadol rhwng y perfformiadau byw oedd darn Eranan Thirumagan ar gyfer electroneg gosod – hyd yn oed yn fwy addas oedd y ffaith mai’r deunydd ffynhonnell oedd recordiadau a wnaed gan y grŵp cyfan yn Stiwdio Tŷ Cerdd.

  • Aeth Rhiannon Takel â ni i diriogaeth werin gyfoes gyda detholiad o ganeuon Cymraeg a Saesneg, a’r cyfan gyda Rhiannon ei hun yn cyfeilio ar yr ffidil a harmoniwm pwmp troed.

  • Roedd set Ffion Campbell-Davies yn cynnwys cerddoriaeth leisiol llawn angerdd oedd yn cylchdroi mewn haenau cynyddol, gan godi’r to ar y noson.

Cafodd y noson ei chynhyrchu a’i harwain gan brif artistiaid y llwybr: sef Jake A Griffiths, Heledd C Evans a Rosey Brown.

▶ CoDI Peblo Pengwin

Penguin Pebbling logo strip.png
bottom of page