top of page
Wedi'i ryddhau ar label Sionci 19.06.26
Panedeni: Atamanaa

Atamanaa (sef Arabeg am “rwy’n gobeithio”) yw EP cyntaf Panedeni  ac mae’n dilyn y senglau Tafod ac Atamanaa ganddynt a’r rhain hefyd wedi’u rhyddhau ar Sionci yn gynharach eleni. Mae enw’r band, sef ‘Panedeni’, yn cyfuno’r gair Cymraeg ‘paned’ â the Adeni o Yemen, gan symboleiddio diwylliant cyffredin Arabaidd a Chymreig a dod â phobl ynghyd. 

Mae Atamanaa yn ehangu sain drawsddiwylliannol Panedeni, ac yn cynnwys cydweithrediadau gyda Siôn Rickard (Lo-fi Jones) ac Ayoub Boukhalfa (Côr Un Byd Cymru). Mae’r record hon yn cael ei chanu mewn pedair iaith – Cymraeg, Saesneg, Arabeg a Bosnieg – ac mae’n cyfuno repertoire traddodiadol â chyfansoddiadau gwreiddiol, gan archwilio elfennau rhythmig a melodig o draddodiadau’r Dwyrain Canol a Cheltaidd.

 

Meddai Yasmine Latkowski, cyfarwyddwr cerddorol Panedeni: “Mae Atamanaa yn gyfuniad o ddiwylliannau, rhai Cymreig ac Arabaidd yn bennaf, sy’n adlewyrchu fy nghartref a’m treftadaeth. Mae’r cydweithio ag artistiaid eraill, Siôn Rickard ac Ayoub Boukhalfa, yn gwireddu fy nyhead i ddod â cherddorion a chyfansoddwyr caneuon at ei gilydd. Rydym wedi recordio oud, gitâr, ffidil, clarinét, ffliwtiau, offerynnau taro Eifftaidd, bas a lleisiau mewn pedair iaith wahanol, ac mae hyn yn dangos ein brwdfrydedd dros uno pobl a dathlu’r hyn sy’n ein gwneud yn debyg ac yn wahanol.” 

Atamanaa EP digital square SMALL.jpg

1. Moj Dilbere 
(Traddodiadol Bosniaidd)


2. Tafod gyda Siôn Rickard
(Yasmine Latkowski, Siôn Rickard)


3. Beth yw'r Haf i Mi 
(Traddodiadol Cymreig)


4. Stay with Me (Yasmine Latkowski)

5. Raqs Alyna (Yasmine Latkowski)

6. Atamanaa gyda Ayoub Boukhalfa
(Yasmine Latkowski, Ayoub Boukhalfa)


Credydau 
Yasmine Latkowski – llais, piano
Siôn Rickard – llais gwadd 
Ayoub Boukhalfa – llais gwadd 
Joelle Barker – offerynnau taro 
Sam Slater – gitâr, oud 
Katie Stevens – clarinèt, ffliwt 
Tim Eastwood – pibgodau, ffidil 
Reuben Allen – bas, lleisiau cefndir 
John Ramm – offerynnau taro, lleisiau cefndir 


Credydau Stiwdio
Stiwdio Un
Sansom Studios
Tŷ Cerdd Studios
9thwardrecording

Sionci logo copy.png

Label dan arweiniad artistiaid Tŷ Cerdd yw Sionci, sy'n eistedd ochr yn ochr â'r brand presennol Tŷ Cerdd Records. Crëwyd Sionci i alluogi datblygiad creadigol a gyrfaol i artistiaid, ar draws genres. Gall artistiaid gymryd rheolaeth o unrhyw ran o'r broses – o recordio a chynhyrchu, i waith celf a hyrwyddo – a chynigir rhaniad breindal mwy ffafriol iddynt na label rheolaidd.

sionci logo strip.png
Released on Sionci 19.06.26
Panedeni: Atamanaa

Atamanaa (Arabic for 'I hope') is the debut EP from Panedeni and follows on from the singles, Tafod and Atamanaa, also released on Sionci earlier this year. The band’s name ‘Panedeni’ merges the Welsh word paned (a cup of tea) with Adeni tea from Yemen, symbolising shared Arabic and Welsh culture and bringing people together.

Atamanaa expands Panedeni’s cross-cultural sound, and features collaborations with Siôn Rickard (Lo-fi Jones) and Ayoub Boukhalfa (Wales One World Choir). Sung in four languages — Welsh, English, Arabic, and Bosnian — the record combines traditional repertoire with original compositions, exploring rhythmic and melodic elements from both Middle Eastern and Celtic traditions. 

Yasmine Latkowski, Musical Director of Panedeni, says: "Atamanaa is a blend of cultures, largely Welsh and Arabic, which reflects my home and my heritage. The collaboration with fellow artists Siôn Rickard and Ayoub Boukhalfa celebrates my yearning to bring musicians and songwriters together. We have recorded oud, guitar, violin, clarinet, flutes, Egyptian percussion, bass and vocals in 4 different languages, and this shows our passion for uniting people and celebrating our similarities and differences as people."

Atamanaa EP digital square SMALL.jpg

1. Moj Dilbere (with Welsh bagpipes)
(Bosnian Traditional)


2. Tafod featuring Siôn Rickard
(Yasmine Latkowski, Siôn Rickard)


3. Beth yw'r Haf i Mi (Wales meets Saidi)
(Welsh Traditional)


4. Stay with Me (Yasmine Latkowski)

5. Raqs Alyna (Yasmine Latkowski)

6. Atamanaa featuring Ayoub Boukhalfa
(Yasmine Latkowski, Ayoub Boukhalfa)


Credits
Yasmine Latkowski – llais, piano | vocals, piano
Siôn Rickard – llais gwadd | guest vocals
Ayoub Boukhalfa – llais gwadd | guest vocals
Joelle Barker – offerynnau taro | percussion
Sam Slater – gitâr, oud | guitar, oud
Katie Stevens – clarinèt, ffliwt | clarinet, flute
Tim Eastwood – pibgodau, ffidil | bagpipes, violin
Reuben Allen – bas, lleisiau cefndir | bass, backing vocals
John Ramm – offerynnau taro, lleisiau cefndir | percussion, backing vocals


Studio Credits
Stiwdio Un
Sansom Studios
Tŷ Cerdd Studios
9thwardrecording

Sionci logo copy.png

Sionci is Tŷ Cerdd’s artist-led label sitting alongside the existing marque Tŷ Cerdd Records. Sionci has been conceived to enable creative- and career-development for artists, cross-genre. Artists can take control of any of all of parts of the process – from recording and producing, to artwork and promotion – and are offered a more favourable royalty split than a regular label.

sionci logo strip.png
bottom of page