top of page
Wedi'i ryddhau ar label Sionci 05.12.25
Cerddwn Drwy'r Tywyllwch

​Mewn da bryd ar gyfer y Nadolig, mae'r côr arobryn o Gaerdydd, Côr CF1, yn rhyddhau eu trydydd albwm Cerddwn Drwy'r Tywyllwch

Mae'r casgliad yma o ganeuon yn adlewyrchu siwrnai gerddorol Côr CF1 ers 2020, pan nad oedd cyd-ganu'n bosibl. Ers hynny, mae'r côr wedi mynd o nerth i nerth. Gyda phob darn, mae'r côr yn rhannu rhan o'u stori - stori sy'n cydblethu'r traddodiadol a'r modern, hiraeth a hapusrwydd, ac sy'n brawf o ble mae'r côr wedi dod.

 

Mae Eilir Owen Griffiths wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd ar y côr ers ei sefydlu fel côr ieuenctid yn 2002. 

Gan siarad am yr albwm, dywedodd Eilir: "Mae hi'n bron i 15 mlynedd ers ein halbwm diwethaf, ac ro'n ni'n meddwl ei bod hi'n hen bryd recordio peth o'r repertoire newydd, a dangos sut da ni fel côr wedi tyfu. Mae'r darnau yma'n golygu lot i ni fel grŵp. Fe wnaethom ni gomisiynu rhai o'r darnau, ac felly maen nhw'n sbesial iawn i ni, a da ni wedi ennill cystadlaethau gyda rhai hefyd, sy'n golygu bod nhw'n agos iawn at ein calonnau." 

Mae Cerddwn Drwy’r Tywyllwch yn drac ar yr albwm, ac fe'i cyfansoddwyd gan Richard Vaughan, i eiriau Ifan Erwyn Pleming, yn ystod dyfnderoedd tywyll y pandemig yn 2020. Recordiwyd y gân yn wreiddiol yn 2020 fel côr rhithiol, gyda dros 200 o gantorion, yn cynrychioli 55 o gorau o bob cwr o Gymru, yn ogystal â Phatagonia, UDA, yr Almaen, a Lloegr. Cafodd y fideo ei ddangos am y tro cyntaf ar Heno (S4C) ar 22 Gorffennaf 2020. 

Ychwanegodd Eilir: "Wnaeth y geiriau rili nharo fi. Roedden nhw'n dangos siwrnai CF1 ers y cyfnod clo, sut daethom ni allan ohono'n gryfach fel unigolion, ac fel côr, da ni'n deulu. Mae'n ddarn arbennig iawn, ac mae'r ffaith ei fod wedi ei gyfansoddi gan aelod o'r côr, a'r geiriau gan gyn-aelod, yn ei wneud yn fwy arbennig byth." 

Mae'r côr wedi gweithio gyda Tŷ Cerdd | Music Centre Wales ar y recordiad, sy'n cael ei ryddhau gan label Sionci'r sefydliad.  

clawr albwm Cerddwn

▶ GWRANDEWCH

Cerddwn Drwy'r Tywyllwch TCR056

1. Cerddwn Drwy’r Tywyllwch 4:28  
Richard Vaughan 

Geiriau: Ifan Erwyn Pleming  
 

2. Merch Rhyfeddod / Child of Wonder         3:58  
Eric Whitacre 

Geiriau: Eric Whitacre 
Cyfieithiad: Osian Edwards-Long 

Cello: Claudine Cassidy  

 

3. Diogel Wyf Ynot Ti  / It is well with my soul 3:00  

Philip Bliss (Tr: Eilir Owen Griffiths)  

Geiriau: Horatio G Spafford 

Cyfieithiad: Aneurin Owen  
Cajón: Richard Vaughan  

 

4. Si Hei Lwli ’Mabi 3:22  
Traddodiadol (Tr: Jeffrey Howard) 

 

5. Pererin Wyf / Amazing Grace         3:27  
Traddodiadol (Tr: Eilir Owen Griffiths)   
Geiriau: William Williams Pantycelyn  

  

6. Finlandia: Dros  / Gymru’n Gwlad (Gweddi dros Gymru)  3:50  
Jean Sibelius (Tr: C Rand Matheson)  
Geiriau: Lewis Valentine  

 

7. Ave Maria 3:56  
Richard Vaughan  
Geiriau: Litwrgaidd  

 

8. Mil Harddach Wyt 3:35  
Traddodiadol (Tr: Elain Rhys)  

 

9. Suo Gân 4:02  
Traddodiadol (Tr: Richard Vaughan) 
Geiriau: Robert Bryan  
Unawdydd: Hannah John  
 

10. Gwinllan a Roddwyd 5:00 

Caradog Williams  
Geiriau: Saunders Lewis 

Sionci logo copy.png

Label dan arweiniad artistiaid Tŷ Cerdd yw Sionci, sy'n eistedd ochr yn ochr â'r brand presennol Tŷ Cerdd Records. Crëwyd Sionci i alluogi datblygiad creadigol a gyrfaol i artistiaid, ar draws genres. Gall artistiaid gymryd rheolaeth o unrhyw ran o'r broses – o recordio a chynhyrchu, i waith celf a hyrwyddo – a chynigir rhaniad breindal mwy ffafriol iddynt na label rheolaidd.

bottom of page