Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640
Released on Tŷ Cerdd’s Sionci label 17 July
Lily Webbe: GABRIEL
LISTEN
WATCH
Lily Webbe – Gabriel
For release on Sionci Records – available to stream and download on all major platforms
Single release date: Friday 17 July
Video release date: Friday 24 July
Funded by PYST x S4C Music Video Fund
Marking the continuation of AffriCerdd – Tŷ Cerdd’s partnership with the National Eisteddfod, supporting artists of colour to work in Welsh
July brings the release of Gabriel, a new Welsh-language song by Cardiff-based artist Lily Webbe. The song was originally written in 2025 as part of AffriCerdd, an initiative between Tŷ Cerdd and the National Eisteddfod, which supports musicians of colour to create new music in Welsh. AffriCerdd stems from both organisations’ commitment to engage and support a diverse range of music creators in making work in the Welsh language.
Lily’s influences span a wide spectrum, from old soul, reggae, and R&B, to jazz, hip‑hop, funk, house, garage, and beyond.
She said: “I draw from everywhere, and that range shapes the sound I create. Gabriel is a devotional, atmospheric song that follows a seeker calling out to Archangel Gabriel for grounding, illumination, and rebirth. Blending imagery of roots, fire, and divine light, the song traces a journey from shadow into clarity as Gabriel’s presence becomes a source of guidance, transformation, and spiritual awakening. It’s a hymn-like invocation – part prayer, part surrender – wrapped in the glow of mystical reverence.
“This song is about a journey from darkness into light – a moment of reaching out for guidance and finally feeling something answer back.”
Lily was mentored throughout the process by leading Welsh artist Eädyth Crawford, who developed Lily’s confidence in writing and performing Welsh lyrics.
AffriCerdd had its genesis in 2021 as an Eisteddfod Amgen project, and has since provided support for several artists of colour in writing new songs in Welsh, including Adjua, Aisha Kigs, Frances Bolley and Asha Jane.

Sionci is Tŷ Cerdd’s artist-led label sitting alongside the existing marque Tŷ Cerdd Records. Sionci has been conceived to enable creative- and career-development for artists, cross-genre. Artists can take control of any of all of parts of the process – from recording and producing, to artwork and promotion – and are offered a more favourable royalty split than a regular label.
Released on Tŷ Cerdd’s Sionci label 17 July
Lily Webbe: GABRIEL
GWRANDEWCH
GWILIWCH
Lily Webbe – Gabriel
I'w ryddhau ar Sionci Records – ar gael i'w ffrydio a'i lawrlwytho ar bob prif blatfform.
Dyddiad rhyddhau’r sengl: Dydd Gwener 17 Gorffennaf
Dyddiad rhyddhau’r fideo: Dydd Gwener 24 Gorffennaf
Ariannwyd gan Gronfa Fideos Cerddoriaeth PYST x S4C
Parhad partneriaeth AffriCerdd–Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol, sef cefnogi artistiaid o liw i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg
Ym mis Gorffennaf, rhyddheir Gabriel, cân newydd Gymraeg gan yr artist o Gaerdydd, Lily Webbe. Ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol yn 2025 fel rhan o AffriCerdd, sef menter ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a'r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi cerddorion o liw i greu cerddoriaeth newydd yn y Gymraeg. Mae AffriCerdd yn deillio o ymrwymiad y ddau sefydliad i ymgysylltu a chefnogi ystod amrywiol o grewyr cerddoriaeth i greu gwaith yn y Gymraeg.
Mae dylanwadau cerddorol Lily yn ymestyn ar draws sbectrwm eang, o ganu’r enaid, reggae ac R&B, i jazz, hip-hop, ffync, house, garage a llawer mwy.
Meddai hi: “Rwy’n cael ysbrydoliaeth o bobman, ac mae’r amrywiaeth hon yn siapio’r sain rwy’n ei chreu. Mae Gabriel yn gân ddefosiynol a llawn awyrgylch sy’n dilyn Ceisiwr wrth iddo alw ar yr Archangel Gabriel am sefydlogrwydd, goleuedigaeth ac aileni. Mae’r gân yn cyfuno delweddau o wreiddiau, tân a goleuni dwyfol, ac yn olrhain taith o’r cysgodion i eglurder, wrth i bresenoldeb Gabriel ddod yn ffynhonnell arweiniad, trawsnewid a deffroad ysbrydol. Mae’n wahoddiad tebyg i emyn – yn rhannol weddi, yn rhannol ildio – wedi’i lapio yng ngolau parch cyfriniol.”
“Mae’r gân hon yn sôn am siwrnai o dywyllwch i oleuni – eiliad o ymestyn allan i gael arweiniad ac o deimlo o’r diwedd fod rhywbeth yn ateb yn ôl.”
Cafodd Lily ei mentora drwy gydol y broses gan yr artist blaenllaw Eädyth Crawford, a hithau wedi datblygu hyder Lily i ysgrifennu a pherfformio geiriau Cymraeg.
Dechreuodd AffriCerdd yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen, ac ers hynny mae wedi cefnogi nifer o artistiaid o liw i ysgrifennu caneuon newydd yn Gymraeg, gan gynnwys Adjua, Aisha Kigs, Frances Bolley ac Asha Jane.

Sionci yw label mewnol Tŷ Cerdd sydd dan arweiniad yr artistiaid ei hun, gan fodoli ochr yn ochr â’n brand presennol, Recordiau Tŷ Cerdd, ac mae wedi’i lunio i alluogi datblygiad creadigol a gyrfa artistiaid ar draws pob genre. Mae’n rhoi’r cyfle i artistiaid gymryd perchnogaeth wrth ryddhau eu cerddoriaeth eu hunain, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd, ac yna caiff y gerddoriaeth ei dosbarthu drwy PYST.



