top of page
Wedi'i ryddhau ar label Sionci 01.03.26
Panedeni: Tafod

Mae Tafod wedi’i llunio ar y cyd â’r artist Cymraeg Siôn Rickard (Lo Fi Jones) a Yasmine Latkowski (Panedeni), ac mae’n cyfuno geiriau dwyieithog gydag offerynnau taro Eifftaidd a gwerin acwstig.

 

Mae’r gân yn archwilio’r pellter emosiynol rhwng pobl pan fydd y cyfathrebu rhyngddynt yn dod i ben, gan adlewyrchu brwydrau mewn perthnasoedd personol, ac weithiau ceisio cyfathrebu rhwng pobl o wahanol ddiwylliannau i gwrdd yn y canol yn y diwedd. Awgryma’r alawon y sain a glywir mewn cerddoriaeth Arabaidd a cherddoriaeth y Gorllewin, ynghyd â rhythmau Eifftaidd cryf.

​

Meddai Yasmine Latkowski: “Mae Tafod yn ddathliad o greu cerddoriaeth sy’n archwilio elfennau o draddodiad a threftadaeth diwylliannol a wnaed yng Nghymru. Mae’r cyd-ysgrifennu gyda Siôn Rickard yn arddangos yr iaith Gymraeg, harmonïau a chydweithio rhwng cerddorion sy’n angerddol am rannu hunaniaeth, cerddoriaeth a diwylliant.”

Mae’r EP sydd ar y gweill, sef Atamanaa (allan ar 19 Mehefin 2026 ar Recordiau Sionci), yn ehangu sain draws-ddiwylliannol Panedeni, gan gynnwys yr oud, gitâr, ffidil, clarinét, ffliwtiau, bas, a tharo. Mae’r EP wedi’i chanu mewn pedair iaith – sef yn y Gymraeg, Saesneg, Arabeg, a Bosnieg – ac yn cyfuno repertoire traddodiadol â chyfansoddiadau gwreiddiol, gan adlewyrchu ymrwymiad y band i gynhwysiant, a chreu gwaith sy’n dwyn ynghyd dreftadaethau cerddorol gwahanol wrth ddathlu creadigrwydd a rennir trwy gyfuno gwerin cyfoes.

​

Bydd Tafod ar gael ar yr holl brif blatfformau ffrydio o 1af Mawrth 2026.

​

Mae Panedeni yn ymddangos mewn un o 15 ffilm a wnaed gan Tŷ Cerdd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, ffilm a ariannwyd gan gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026 Llywodraeth Cymru. Bydd y ffilmiau hyn hefyd yn cael eu rhyddhau ar 1 Mawrth

Tafod single FINAL 5000px 300dpi RGB_edited.jpg
Sionci logo copy.png

Label dan arweiniad artistiaid TÅ· Cerdd yw Sionci, sy'n eistedd ochr yn ochr â'r brand presennol TÅ· Cerdd Records. Crëwyd Sionci i alluogi datblygiad creadigol a gyrfaol i artistiaid, ar draws genres. Gall artistiaid gymryd rheolaeth o unrhyw ran o'r broses – o recordio a chynhyrchu, i waith celf a hyrwyddo – a chynigir rhaniad breindal mwy ffafriol iddynt na label rheolaidd.

sionci logo strip.png
Released on Sionci 01.03.26
Panedeni: Tafod

Tafod, co-written by Yasmine Latkowski of Panedeni and fellow Welsh artist Siôn Rickard (Lo Fi Jones), combines bilingual lyrics with Egyptian percussion and acoustic folk instrumentation.

 

The song explores the emotional distance between people when communication breaks down, reflecting struggles in personal relationships, and sometimes between people from different cultures, to finally meet in the middle. The melodies hint at sounds heard in both Arabic and Western music, accompanied by strong Egyptian rhythms. 

​

Yasmine Latkowski says:  “Tafod is a celebration of making music that explores elements of cultural tradition and heritage made in Wales. The co-write with Siôn Rickard showcases the Welsh language, harmonies and collaboration between musicians passionate about sharing identity, music and culture.”

​

The upcoming EP Atamanaa (out 19 June 2026 on Sionci Records) expands Panedeni’s cross-cultural sound, featuring oud, guitar, violin, clarinet, flutes, bass, and percussion. Sung in four languages — Welsh, English, Arabic, and Bosnian — the EP blends traditional repertoire with original compositions, reflecting the band’s commitment to inclusivity and creating work that brings together distinct musical heritages while celebrating shared creativity through contemporary folk fusion.

​

Tafod will be available on all major streaming platforms from 1 March 2026.

​

Panedeni features in one of 15 films made by TÅ· Cerdd for St David’s Day, funded by Welsh Government's St David's Day 2026 fund. These films will also be released on 1 March: 

Tafod single FINAL 5000px 300dpi RGB_edited.jpg
Sionci logo copy.png

Label dan arweiniad artistiaid TÅ· Cerdd yw Sionci, sy'n eistedd ochr yn ochr â'r brand presennol TÅ· Cerdd Records. Crëwyd Sionci i alluogi datblygiad creadigol a gyrfaol i artistiaid, ar draws genres. Gall artistiaid gymryd rheolaeth o unrhyw ran o'r broses – o recordio a chynhyrchu, i waith celf a hyrwyddo – a chynigir rhaniad breindal mwy ffafriol iddynt na label rheolaidd.

sionci logo strip.png
bottom of page