top of page

Nod yr egwyddorion hyn yw cael gwared ar fwlio, aflonyddu, gwahaniaethu a mathau eraill o ymddygiad amhriodol yn y sector. Byddant hefyd yn helpu cyflogwyr i gyflawni eu gofynion cyfreithiol yn ogystal â chyflwyno cyd-weledigaeth ar gyfer hyrwyddo a sicrhau diwylliant gweithio cadarnhaol.

​

Dylai pob cyflogwr, gweithiwr, swyddog, gweithiwr asiantaeth, hyfforddai, myfyriwr, tiwtor, gwirfoddolwr, ymddiriedolwr a gweithiwr llawrydd gadw at yr egwyddorion hyn. Mae pawb yn gyfrifol am hyrwyddo a sicrhau gweithle sy’n gynhwysol, yn gadarnhaol ac yn gefnogol.

​

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a sicrhau diwylliant gweithio sy’n amrywiol a chyfartal

​

  • Rydym yn gwrthwynebu bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad o’r fath yn ein sefydliad a’n rhwydwaith ein hunain.

​

  • Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i wella diwylliant gweithio’r sector cerddoriaeth.

​

  • Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac wedi ymrwymo i wella amrywiaeth yn ein gweithlu ein hunain.

​

  • Rydym yn gweld gwerth mewn cynhwysiant, yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, yn croesawu dysgu gan eraill ac yn ystyried pobl i fod yn gyfartal heb ragfarn na ffafrio. Rydym yn meithrin pob perthynas yn seiliedig ar barch at ein gilydd. Byddwn yn gweithio i roi a derbyn adborth mewn ffordd adeiladol, gan wybod y bydd hynny’n gwella creadigrwydd a chynhyrchiant.

​

  • Byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i wella diwylliant gweithio ein sefydliad ein hunain (e.e. sicrhau cyfle cyfartal mewn unrhyw broses recriwtio a dethol, cynnig polisïau ar gyfer gweithio hyblyg a chontractau sy’n ystyriol o deuluoedd).

​

  • Byddwn yn annog ymddygiad priodol yn ein sefydliad ein hunain ac yn ein rhwydwaith.

​

  • Pan fyddwn yn gweithio gydag unigolion o dan 18 oed, byddwn yn sicrhau y rhoddir hyfforddiant a chyngor diogelu priodol i’n staff a’n cynrychiolwyr.

​

  • Byddwn yn gweithredu ac yn hyrwyddo polisïau, gweithdrefnau a phrosesau cwyno priodol i amddiffyn pawb – gan gynnwys y gweithwyr llawrydd rydym yn ymwneud â nhw a’r myfyrwyr rydym yn eu haddysgu.

​

  • Byddwn yn parchu urddas ein gilydd, waeth beth fo safle a hynafedd ein rôl mewn unrhyw leoliad.

​

Pan roddir gwybod am ddigwyddiad

​

  • Rydyn ni’n deall ei bod hi’n anodd i unigolion sydd wedi dioddef bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu i godi llais.

​

  • Byddwn yn parchu cyfrinachedd lle bo modd ac yn ceisio gwneud y broses adrodd yn glir, yn syml ac yn hygyrch.

​

  • Pan fyddwn yn derbyn adroddiadau am fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu, byddwn yn eu cymryd o ddifrif, yn eu trin yn sensitif, a’n blaenoriaeth gyntaf fydd diogelwch a lles yr achwynydd. Bydd hyn yn golygu sicrhau amddiffyniad digonol i achwynwyr a, phan ganfyddir bod bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu wedi digwydd, cymerir camau priodol yn erbyn y tramgwyddwyr. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw unigolion sydd wedi cwyno neu sydd wedi cymryd rhan yn ddidwyll mewn unrhyw ymchwiliad yn dioddef unrhyw fath o ddial neu erledigaeth o ganlyniad.

​

  • Pan fo unigolion yn perthyn i undeb llafur neu gymdeithas broffesiynol, byddwn yn eu hannog i ofyn am gyngor a chefnogaeth ganddynt.

​

  • Byddwn yn cadw rhestr o wasanaethau cymorth i’w defnyddio gan y rheiny sydd wedi dioddef aflonyddu, bwlio neu wahaniaethu.

​

  • Pan godir materion gyda ni a all fod o natur droseddol, byddwn yn cyfeirio’r unigolyn dan sylw at wasanaeth cymorth priodol (e.e. https://www.thehavens.org.uk).

​​

Byddwn yn sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn rhan greiddiol o gamau cynnar gyrfaoedd yn y sector cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio, er mwyn sicrhau bod diwylliant gweithio mwy diogel a chynhwysol yn dod yn norm.

 

​

bottom of page