top of page

Archif cerddorol actif

Straeon o archifau Tŷ Cerdd – ailddarganfod cerddoriaeth Cymru, un bocs ar y tro...

gan Ethan Davies, rheolwr cyhoeddi ac ymchwil Tŷ Cerdd

Mae darganfod ‘hoff beth newydd’ – boed yn awdur, gem o chwaraeon, albwm, neu hyd yn oed dafarn - yn wefr arbennig. Ai awydd greddfol am newydd-deb ydyw? Ysfa i ‘ddatblygu hunaniaeth’ trwy ddod o hyd i ddiddordebau cyffredin? Beth bynnag fo’r achos, mae gan gerddorion a pherfformwyr, a’r bobl sy’n caru cerddoriaeth - angen penodol i rannu'r darganfyddiadau hynny, ac i gloddio'n ddwfn i gatalog cyfansoddwyr sy'n ddarganfyddiad newydd. Rydym ni fel pobl yn mwynhau dod o
hyd i lwybrau newydd, trwy greu, chwarae, neu wrando ar gerddoriaeth - ac weithiau y llwybrau rheini sydd wedi eu hesgeluso neu fynd yn angof sy’n achosi chwilfrydedd. Mae hyn oll yn cynnig profiad unigryw i’r galon a’r ysbryd.

Pan ddechreuais i weithio yn Tŷ Cerdd, doedd gen i fawr ddim i'w wneud â'n harchif a'n llyfrgell, a phan gamais i mewn gyntaf i weld y casgliad o gerddoriaeth Gymreig a gedwid yn yr ystafell gefn honno, cefais fy synnu gan faint o gerddoriaeth oedd yn
dalennu o flaen fy llygaid: cymaint o silffoedd, yn dal cymaint o focsys, pob un yn dal dwsinau o sgorau, cyfanswm o filoedd o gyfansoddiadau cerddorol! Ond faint o'r enwau wedi'u hysgrifennu ar ochrau ffeiliau a’r bocsys, y byddwn i’n eu hadnabod fel
“cyfansoddwyr Cymreig” cyn hynny? Er cywilydd imi, cyfran fach iawn. Fel rhywun sydd â chariad gydol oes at 'ddotiau ar bapur', roedd yr ysfa i daflu fy hun i mewn i'r cyfan yn annochel - ac yn anorchfygol!

quotation marks_edited_edited.png

...cymaint o silffoedd, yn dal cymaint o focsys, pob un yn dal dwsinau o sgorau, cyfanswm o filoedd o gyfansoddiadau cerddorol!

Ychydig o ystyr oedd gan yr enwau i ddechrau, ar wahani’r cewri hynny fel Grace Williams, William Mathias, Meirion Williams a llond llaw o rai eraill (er i mi sylweddoli’n ddiweddarach fod rhai o’r caneuon eisoes yn gyfarwydd i mi trwy broses o osmosis Eisteddfodol).

Ond pwy, neu beth, yw Morfydd Owen? Dilys Elwyn-Edwards; gyfansoddodd gân i Charlotte Church, rywdro? Onid oedd ‘rhen John Hughes yn byw gyferbyn â fy Mamgu s’lawer dydd? Ah, nid yr un John Hughes. Beth amdano’r John Hughes arall yma?... Nid fe chwaith. Ar y pryd, dim ond lluniau du a gwyn a’r lliw wedi hen bylu oedd rhai o'r enwau hyn i mi; ffigyrau oedd yn hel llwch, ar goll mewn amser. Os ydi’r gweithiau rhain o unryw werth, pam nad ydyn ni yng Nghymru’n gwybod amdanynt? Roedd dim ond
un olwg ar y gweithiau rhain yn ddigon i wrthbrofi fy amheuaeth di-glem. Dim ond oes fer sydd gan ambell ddarn o gerddoriaeth, cyn iddi fynd yn 'golledig'.

Yr ymwybyddiaeth honno (a ngwnaeth i braidd yn benysgafn) – o sylweddoli mod i’n ddim ond smotyn bach mewn bydysawd enfawr – oedd yr hyn a deimlais wrth mi edrych ar ein silffoedd yn Tŷ Cerdd am y tro cyntaf: os mai dyma beth mae un genedl

fach wedi'i gynhyrchu, allwch chi ddychmygu yr holl gerddoriaeth yn y byd sydd heb ei pherfformio, heb ei gweld, a heb ei chlywed?
Roeddwn i'n teimlo'n dawel-falch, bod Cymru wedi cyfrannu gymaint at y mor o gerddoriaeth o ‘mlaen. Os ydych chi’n chwilio am wefr debyg – yn chwilio am y 'rhywbeth newydd' hwnnw – mae modd archwilio ein harchif yma – a chael eich llorio gan anferthedd y casgliad!

Porwch y catalog a chysylltwch

Mae rôl Ethan Davies yn Tŷ Cerdd yn cynnwys gweithio gyda chyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth, a’u cerddoriaeth ysgrifenedig – weithiau mae’r cyfansoddwyr hynny’n ymwneud â phrosiectau datblygu, gall eraill fod yn gweithio’n broffesiynol y tu allan i’r cynlluniau hyn, ac weithiau mae’n gweithio o sgorau sydd heb eu cyhoeddi neu sydd allan o brint, i barhau ag etifeddiaeth cerddoriaeth y cyfansoddwyr yma. Cyhoeddir llawer o’r gweithiau hyn gan Tŷ Cerdd, ac maent ar gael ar ein siop ar-lein, sydd gwefan mae Ethan yn ei gweinyddu: tycerddshop.com


Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys curadu a chynnal Casgliad Cerddoriaeth Gymreig Tŷ Cerdd (sgorau cerddorol, llyfrau, cerddoriaeth wedi’i recordio, a chymysgedd o eitemau eraill), ein gwaith archifol ledled Cymru, a gweinyddiaeth y llyfrgell llogi. Mae hefyd yn cynorthwyo'n recordiadau stiwdio ac ar leoliad, yn ogystal â chynhyrchu fideo.


Y tu allan i’w waith gyda Tŷ Cerdd, mae’n canu a pherfformio’n gyson gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yn ogystal ag ysgrifennu ei gerddoriaeth ei hun, gweithio ar drefniannau a thrawsgrifiadau, a pherfformio ar offerynnau amrywiol.

bottom of page