This article originally appeared in the Welsh Music - Cerddoriaeth Cymru Journal, Spring/Summer 1989, Vol. 8, No. 10.

It appears here courtesy of the Welsh Music Guild who were the original publishers.

Articles can be accessed via their site as well as part of our Welsh Music Collection.

Mansel Thomas (1909-1986)

gan Lyn Davies

Dyma darlith a draddodwyd yn stiwdio gerdd Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988 ac a addaswyd ar gyfer dathliad arbennig o waith Mansel Thomas yn Adran Gerdd C.P.G.C. Bangor ar y pedwerydd o Fawrth 1989.

‘... music does not concern itself with the base Machiavellianism of doctrine and vocabulary. Nations are torn apart, languages fall silent but the young will always sing ...’

... political marches were great musical occasions. The period that saw the incredible eruption of chapels witnessed also a vast spawning of bands. It was as if the darkening industrial content inspired a wish to react loudly. If life looks too insolently at you, blow right back in its face. If you have a euphonium to do it with, all the better ...’

 

Gwyn Thomas (A Welsh Eye)

 

    Fel Gwyn Thomas, un o feibion y Rhondda oedd Mansel Thomas. Dewin geiriau oedd un, dewin seiniau cerdd oedd y llall. Ganed Mansel Treharne Thomas yn Tylorstown yn 1909 yn fab i Thophilus Thomas, gwerthwr papurau dyddiol ac arweinydd corawl lleol. Fel yn achos Arwel Hughes yn Rhosllanerchrugog, roedd cefndir Mansel Thomas yn Gymreig, yn glos a charedig ac yn gerddorol. Trwy gyfrwng ansoddeiriau bachog a hiwmor parod, darluniwyd y cefndir hwnnw’n wych gan Gwyn Thomas. Yn ei gyfrol A Welsh Eye er enghraifft, dangosodd y llenor mor allweddol oedd cerddoriaeth o fewn gwlad diwylliannol y gymdeithas. Hyd yn oed ar adegau tlawd a thrafferthus roedd modd troi at gerddoriaeth. Pam? Cysur yng nghyfaredd y cyfarwydd efallai, and hefyd cyfle i fynegu mewn cerddoriaeth y dyheadau dwfn hynny a oedd ynghlwm wrth fywyd cymunedau diwydiannol y de. Crwt ifanc oedd Mansel Thomas adeg 1914-18, crwt mewn cymdeithas glos, gapelig. Deilliodd patrymau diwylliant y gymdeithas honno o'r bobl eu hun, a mynegwyd ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r celfyddydau mewn Capel a chôr, eisteddfod a chyngerdd. Amatur oedd natur llawer iawn o'r gweithgareddau hyn. and amatur yn ystur gorau ac ehangach y gair annelwig hwnnw. Ganed Mansel Thomas i gymdeithas a oedd yn parhau gyda'r gwerthoedd ddiwylliannol a sylfaenwyd tua canol y ganrif flaenorol.

    Ond siglwyd cadernid a sefydlogrwydd yr oes a'r gwerthoedd Victoraidd gan newidiadau cymdeithasol a diwydiannol mawr. Dangosodd rhyfel 1914-18 mor ddi-sail oedd erect amryw o'r crefyddwyr mewn sefydlogrwydd cymdeithasol, gwlad y gan a gwlad y menig gwynion. Gwelwyd ‘dilyw nihiliaeth yn codi’, a sylweddolwyd nad oedd y ddynoliaeth wedi cefnu ar ei barbareiddiwch wedi'r cyfan. Beth bynnag oedd natur y newidiadau cymdeithasol cymhleth yn ystod blynyddoedd ‘formative’ Mansel Thomas, roedd ei gefndir yn Gymreig-Victoraidd. Daeth i wybod yn gynnar mewn bywyd beth oedd pwysigrwydd teulu a chymdogaeth, addysg a hunanwelliant, bod yn gyhoeddus a defnyddiol o fewn i'r gymdeithas. Ceir naws cyfnod cyfan mewn disgrifiadau cyhoeddiedig o gerddorion ifanc yn ‘dod ymlaen yn y byd’ ar dudalennau'r wasg gyfnodol,

‘Mae wedi ennill ei le ar gyfrif rhagoroldeb ei allu cerddorol ei benderfyniad di-ildio yng

ngwyneb anhawsterau a’i ymroddiad llwyr i'w waith’ (Y Cerddor, Medi 1915).

 

    Dyma ddisgrifiad sy'n berthnasol i Mansel Thomas fel i lawer o feibion a merched ifanc Cymru o'r un cyfnod. Meddylier am ymroddiad cynnar Theophilus ym maes y sol-ffa – y cyfrwng pwysig hwnnw a ganiataodd i'r tad freuddwydio am well fyd i'r mab cerddorol. Oherwydd y cefndir a'r cyfryngau diwylliannol derbyniodd Mansel Thomas bob anogaeth i ddatblygu ei ddoniau gynhenid. O ddyddiau cynnar iawn addysgwyd Mansel gan ei dad ac yna gan John Owen Jones yng Nghaerdydd.

    Pan oedd Mansel Thomas yn un ar bymtheg oed ennillodd ysgoloriaeth gerdd y Rhondda (swm ariannol o tua deugain punt y flwyddyn) i'w alluogi i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain (ymhlith meibion cerddorol eraill y cyfnod o'r un ardal oedd y bariton enwog Roderick Jones). Cofrestrodd fel myfyriwr allanol ar gyfer gradd B.Mus. prifysgol Durham a graddio ym 1928. Tra'n fyfyriwr yn yr Academi bu'n astudio cyfansoddi a piano. Yn ystod y cyfnod hwn un o'r prif ddylanwadau arno oedd ei athro cyfansoddi Benjamin Dale. Datblygodd Mansel yn fwy-fwy hunan feirniadol ac ar ôl cyfnod byr ennillodd ysgoloriaeth Blumenthal a'i alluogodd i dreulio dwy flynedd arall yn Llundain. Bu'n organydd yng nghapel y Methodistiaid yn Shirland Road, Maida Vale, am gyfnod. Dyma'r cyfnod yr oedd y dirwasgiad yn cnoi yn y Rhondda ac nid oedd modd i'w deulu sicrhau cymorth ariannol iddo bob amser. Yn gynnar mewn bywyd daeth i wybod ystur y term ‘free-lance’, a hynny fel pianydd, repetiteur, athro ac organydd.Bu'n cyfeilio i amryw o gantorion amlwg y cyfnod megis Parry Jones. Am gyfnod byr bu'n arweinydd yr ‘Ealing Co-operative Choral Society’. Nid oedd yn ennill ffortiwn – triswllt a chwe cheiniog am wersi bob awr a tua un gini a hanner am gyfres o ddeg o wersi piano. Ochr yn ochr a'i fywyd bob dydd roedd y cyfnod yn un o bendroni uwchben dioddefaint y cymunedau diwydiannol. Crisialwyd llawer o'r profiadau hynny mewn amryw weithiau creadigol flynyddoedd wedyn (‘The geology of remembrance is damnably deep’; meddai Gwyn Thomas, ‘it will prove to be more unyielding than the rocks and destructive bubbling filth of this eroded and ambulant clinker’).

    Daeth tro ar fyd. Ym mis Ionawr 1936 cychwynodd y BBC ddarlledu’n anibynnol yng Nghymru. Denwyd llawer o Gymru ifanc blaenllaw i weithio yng Nghaerdydd, ac yn eu plith Idris Lewis, Arwel Hughes, T. Rowland Hughes a Mansel Thomas. Yr oedd gan bawb o fewn i'r strwythur ddarlledu newydd swyddogaeth a baich trwm o waith ymarferol a gweinyddol. Gwelodd staff yr adran gerdd fod cyfansoddwyr Cymru'n cael sylw mewn rhaglennu fel ‘In Manuscript’. Tua ugain o berfformwyr oedd yng ngherddorfa'r BBC bryd hynny, a rhaid oedd trefnu gweithiau'r meistri cerdd ar eu cyfer. Bu Mansel Thomas yn flaenllaw yn y gwaith hwnnw a bu'n allweddol i hybu perfformiadau o weithiau gan D. Vaughan Thomas, Grace Williams, Daniel Jones a Maldwyn Price. Cyn 1945 gellir dadlau nad oedd chwaeth cerddorol y cyhoedd yng Nghymru wedi datblygu fawr pellach nag oes Victoria. Prif ddiddordeb y mwyafrif oedd unawdau lleisiol a darnau corawl. Ni chafwyd cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth cyhoeddus o gerddoriaeth offerynnol a cherddorfaol ar lefel broffesiynol.

    Ym 1939 daeth tro arall ar fyd. Y peth pwysicaf a ddigwyddodd yn hanes Mansel oedd priodi Megan Lloyd o'r Porth (un a fu 'n fyfyrwraig cello yn yr Academi yrun adega Mansel). Yn sgil y rhyfel bu'n rhaid i Mansel symud o le i le cyn ymuno a'r lluoedd arfog yn Mrwsel. Am gyfnod bu'n gweithio ym Mriste fel arweinydd corws y BBC (gyda Syr Walford Davies, Leslie Woodgate a Trevor Harvey). Cafodd gyfle gwych i astudio'r repertoire corawl yn ogystal a gweithio gyda chôr o safon uchel. Symudodd Mansel a Megan i Fangor yn ystod 1941 a ganwyd iddynt dwy ferch, Grace a Siân. Ym Mangor roedd Mansel yn gyfrifol am gerddoriaeth ysgafn 'Variety' ac am arwain lleisiau'r ‘revue chorus’ (ac yn hwyrach y gerddorfa hefyd). Dylid cofio fod BBC Bangor wedi ysgwyddo baich trwm o ddarlledu rhaglennu poblogaidd megis 'ITMA' a 'Bandstand' adeg y rhyfel – rhaglennu a ystyriwyd yn bwysig i'r hyder cenedlaethol. Ym 1943 ymunodd Mansel a'r fyddin ac ym 1946, wedi'r ‘demob’, symudodd ef a'i deulu yn ôl i Gaerdydd.

    Dyma gyfnod newydd yn hanes tŵf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru. Dangosodd nifer o gerddorion amlycaf Cymru eu parodrwydd i ymladd yn erbyn difaterwch cerddorol a datblygu cerddoriaeth (yn arbennig cerddoriaeth offerynnol) ar lefel broffesiynol uchel. Mansel oedd yn gyfrifol am arwain y gerddorfa, a daeth cyfle iddo ehangu a datblygu ei ddoniau fel arweinydd pan chwyddwyd nifer y perfformwyr i un ar ddeg ar hugain. O'r herwydd, gwelyd gwell cyd-bwysedd rhwng y chwythbrennau a'i llinynnau. Ymddangosodd droeon fel arweinydd, a hynny'n aml gyda chorau enwog megis côr meibion Treorci a chôr cymysg Pontarddulais. Ehangwyd repertoire cerddorfa'r BBC yng Nghrymu i gynnwys gweithiau Baroque a chlasurol ac o 1948 ymlaen roedd Arwel Hughes hefyd yn cynorthwyo gyda'r gerddorfa (fel un o wŷr ‘balance and control’ y gweithiodd Aiwel Hughes cyn hynny). Ymddeolodd Idris Lewis ym 1950 a dyrchafwyd Mansel yn Bennaeth yr Adran Gerdd (o 1950 hyd ei ymddeoliad cynnar ym 1965).

    Yn ystod cyfnod Mansel gyda'r BBC llwyddwyd i ddyrchafu statws darlledu cerddoriaeth o Gymru yng ngolwg yr awdurdodau yn Llundain. Llwyddodd BBC Cymru i ddarlledu ar y rhwydwaith genedlaethol ( y ‘Light’ a'r ‘Third Programme’). Fel y Pennaeth Cerdd, Mansel oedd yn gyfrifol am ddatblygu polisi ac am gynnwys llawer o'r rhaglennu. Golygodd hyn llawer iawn o waith teithio a gweinyddu. Ymunodd J. Alwyn Jones â'r staff ym 1948 (fel cynorthwydd) ac ym 1950 daeth Rae Jenkins yn arweinydd. Hefyd o 1954ymlaen defnyddiwyd talentau amryw o arweinyddion gwadd megis Meredith Davies. Bu Arwel Hughes yn amlwg hefyd fel arweinydd corws y BBC. Gyda'r holl waith gweinyddol ynghyd â'r cyfrifoldebau amrywiol eraill, pa ryfedd iddo ymddeol ym 1965 ac yntau'n 56 oed. Ei obaith oedd treulio llawer mwy o amser yn cyfansoddi. Bu'n bennaf gyfrifol am bolisi a ganiataoddwrandawiad i dalentau cyfansoddi Alun Hoddinott, William Mathias, David Harries, David Wynne, Grace Williams, Daniel Jones ac eraill. Oherwydd polisïau Mansel Thomas daeth cynulleidfa eang i wybod am waith ycyfansoddwyr hyn. Bu Mansel yn gatalydd pwysig yn hanes cerddoriaeth y Cymru. Yn ogystal â hynny bu’n ffodus i weithio ac i weithredu polisïau creadigol oedd yn cyd-fynd a llawer o weithgaredd Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru a’i sylfaenydd John Edwards, adrannau cerdd y brifysgol, ac yn arbennig wedi 1960 Cyngor Celfyddydau Cymru a’i chyfarwyddwr cerdd Roy Bohana. Llwyddodd Mansel i ddenu arweinyddion o safon megis Syr Arthur Bliss a Syr William Walton i weithio gyda’r gerddorfa, a bu hefyd yn gyfrifol am liwio perfformiadau o weithiau allweddol yn hanes cerddoriaeth Cymru (Simffoniau Daniel Jones, Pennillion Grace Williams a Consierto Rhif 1 Hoddinott i'r clarined). Bu hefyd yn gyfrwng i gynorthwyo gyrfaoedd cantorion fel Helen Watts a Syr Geraint Evans.

    Wedi iddo ymddeol bu'n byw yn nhawelwch cefn gwlad yn yr hen fwthyn, Treadam, Sir Fynwy. Ond ar yr un pryd bu’n eithriadol brysur fel beirniad i Gystadleuthau’r bandiau pres a’r corau meibion, fel arholwr i’r ‘Associated Board’. fel athro ymwelydd yn adran gerdd CPC Aberystwyth, fel cyfarwyddwr gwyl Llantilio Crosseney. ac wrth gwrs fel cyfansoddwr. Gwnaethpwyd ef yn gymrawd o’r Academi Gerdd Frenhinol (F.R.A.M.) yn ystod 1959, urddwyd ef yn OBE yn 1970, dyfarnwyd iddo wobr goffa John Edwards gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru ym 1983, ac ychydig cyn ei farw dyfarnwyd iddo radd M.Mus er anrhydedd gan brifysgol Cymru (nid y D.Mus y gwnaeth gymaint i'w haeddu). Pan bu farw Mansel yn 1986 roedd tystion di-rif yn barod i dalu teyrnged iddo. yn eu plith William Mathias, Alun Hoddinott, Alun John, Roy Bohana, Huw Tregelles Williams, Helen Watts, Ian Parrott, John Glynne Evans, Arwel Hughes a Kenneth Loveland.

    Fe erys nifer o elfennau parodocsaidd am ei fywyd a'i waith. Wedi ymddeol yn gynnar er mwyn canolbwyntio ar ei waith creadigol ni thalwyd yr un sylw i'w waith fel cyfansoddwr. Bu’n gyfrifol am ysgogi perfformiadau di-rif o gerddoriaeth newydd a blaengar (yng Nghymru) and geidwadol oedd natur ei arddull ef yn y cyfnod cyn 1965. Dichon roedd ei barodrwydd i ysgrifennu ‘gebrauchsmusik’ (cerddoriaeth ‘ddefnyddiol’) yn rhannol gyfrifol am natur a chynnwys yr iaith gerddorol a fabwysiadwyd ganddo. Wedi ymddeol, ac yntau’n para i weithio o fewn yr un traddodiad amatur, datblygodd ei arddull yn fwy-fwy blaengar a mentrus. Wedi 1965 amlygwyd elfennau ymwthiol yn ei waith sy'n adleisio oriau a ddwys fyfyrio ei amser hamdden newydd. Ond o’r gweithiau cyntaf i’r olaf yr oedd nifer o ddolennu cyswllt pwysig. Ni gollodd ei ddawn i lunio alaw ‘werinol’ syml a fyddai'n gofiadwy a gwreiddiol. Dangosodd gryn ddychymyg wrth osod geiriau a barddoniaeth.

    Cyfansoddodd o fewn terfynnau canolfannau tonal pendant. Gwnaeth hyn (efallai), er mwyn cynorthwyo cantorion amatur y corau meibion (e.e.) Yn fwy na hyn oll, llwyddodd i ysgrifennu cyfeiliannau piano gwirioneddol idiomataidd, boed yn llachar bianistaidd, yn fanwl-gymhleth neu'n dwyllodrus o syml. Ond, a dyma fesur o'i fawredd, os oedd y deunydd elfennol a gyfansoddwyd ganddo'n syml, ni chafwyd un mesur simplistig. Llwyddodd i glymu deunydd ‘defodol’ ar-y-pryd o fewn strwythurau themataidd coeth lle clwyir brybus elfennol mewn gwlad naturiol.

    Gellir crynhoi ei waith creadigol mewn tri cyfnod: 1930-40; 1962-71 a 1973-85. Dyma’r cyfnodau llewyrchus ynghyd a'r cyfnodau sy’n arddangos datblygiadau cyson mewn arddull. Ychydig o weithiau offerynnol a gyfansoddodd ag eithrio'r Pumawd grymus a gyfansoddodd ar gyfer chwaraewyr proffesiynnol CPC Aberystwyth ym 1969. Perfformiwyd y gwaith hwnnw yn adran gerdd Aberystwyth yn ystod 1972 a ceir dadleuon themataidd coeth yn y deialog agoriadol ynghyd a datblygiadau llachar yn y symudiadau eraill, sef Adroddgan (poco Andante) a Scherzo. Caneuon neu cylchoedd o ganeuon oedd mwyafrif ei gynnyrch ynghyd a darnau unigol ar gyfer corau cymysg, meibion a merched. Ymhlith nodweddion amlycaf ei gerddoriaeth y mae ail-adrodd bwriadol er mwyn cadarnhau gosodiad a defnydd achlysurol o’r moddau eglwysig cynnar er mwyn creu naws hynafol. Ar brydiau fe geir tonyddiaeth ansicr ynghyd a llinellau bas ail-adroddedig sy'n medru creu naws ddifrifol. Yn ei gerddoriaeth cynnar ceir dylanwad llawer o gerddorion Lloegr megis (e.e.) Benjamin Dale, Howells, Finzi ac eraill. Ni theimlodd ddylanwad Vaughan Williams i'r un graddau ag Arwel Hughes a Grace Williams. Gwelir fod angerdd gwerinol syml llawer o’r gweithiau cynnar yn deillio o ganu gwerin a phatrymau llefaru naturiol y Cymru. Sylwer hefyd ar ei hoffder o harmoniau'n cyd-symud o fewn terfynau ton neu hanner ton ynghyd a thrawsnewid deunydd agoriadol yn nes ymlaen mewn darn.

    Yn ei ddarnau corawl ceir effeithiau lleisiol trawiadol. Er enghraifft, yn One Generation Passeth Away (1952), darn a gyflwynwyd i Dorothy Adams-Jeremiah, ceir unsain hynod effeithiol sy’n troi o amgylch y modd Dorian eglwysig. Dengys y llinellau melodig esgynnol-ddisgynnol ei allu i drosglwyddo acenion naturiol geiriau heb lafurio. Gwelir elfennau tebyg yn y motet Dyrchafaf fy Llygaid (1964); Blest are the Pure in Heart (1964-66) a 'r Cân Nadolig (1962) a gyflwynwyd i Miss Margaret Davies, Gregynog. Yn wir, mae llawer o’i ddarnau corawl yn allweddol i’w ddatblygiad fel cyfansoddwr. Yn Rise o my Soul (1968) a gyflwynwyd i Dora Herbert Jones (comisiwn Gŵyl Gelfyddydau Bangor), dangosodd ei barodrwydd i ymestyn ei ymwybyddiaeth o elfennau cromatig. Llwyddodd i greu amwysedd nodweddiadol wrth gyf-osod anghytgordau gyda chordiau syml (neu treiadau syml). Yn ogystal defnyddiodd aml-donyddiaeth (polytonality) ynghyd a nodau ychwanegol mewn cordiau syml (added-note chords). Lladmerydd ystyrlon ydodd oblegid lle bynnag yr ysgrifennwyd mewn mwy nag un cywair a r yr un pryd ceir tanlinellu geiriau gofalus.

    Cyfanwaith arbrofol a rail yw ei osodiad o Salm 123 (‘Atat Ti y dyrchafaf fy llygaid’). Llwyddodd i gyfleu natur y geiriau wrth arbrofi gyda phosibiliadau ‘timbre’ amrywiol yr unawdydd contralto, Côr meibion a cherddorfa. Fel Herbert Howells yn ei weithiau corawl amrywiol roedd ganddo’r ddawn i osod ei gerddoriaeth o fewn y cwmpawd lleisiol er mwyn lliwio a tanlinellu geiriau. Un o'i weithiau gorau yw'r Anthem of Challenge and Comfort (1964-66) i unawd sopran, côr meibion ac organ. Yma ceir naws dwys-ddifrifol sy'n tanlinellu’r cefndir – trychineb Aberfan. Dyma Mansel yn troi yn ô1 i'w gefndir glofaol a dyma’r un ing dirdynnol a welir yng ngweithiau Gwenallt. Tybed a sylweddolodd Mansel mor symbolaidd oedd ei ddewis o gyfrwng? Tybed a sylweddolodd arwyddocad ei ddewis o eiriau ac yn fwyaf arbennig lleisiau? Meddylier am ‘role’ y fam yn y gymdeithas (unawd soprano), dynion fel y gweithwyr cyffredin (côr meibion) a’r organ fel symbol o gapel a chrefydd. Cyferbynnier adrannau homoffonaidd y côr gyda llinellau cromatig poenus y soprano. Dywed Huw Tregelles Williams.

 

‘Roedd Côr Meibion Pendyrus yn rhoi cyngerdd yng Ngŵyl Llandaf, a’u harweinydd. Glynne Jones. wedi fy ngwahodd i gyfeilio. Dewisodd Glynne, yn ô1 ei arfer, raglen ddiddorol a safonol yn cynnwys ‘An Anthem of Challenge and Comfort’ a ysgrifennwyd gan Mansel er cof am feirw Aberfan. Mae yna gyfeiliant gwefreiddiol i'r darn – cyfeiliant organ sy’n cynnig ei ddehongli mewn dull cerddorfaol gyda seiniau llinynnau a chwythbrennau tywyll yn cyferbynnu ag utgyrn dramatig – a gwnaeth effaith dda ar organ Llandaf. Teimlais ddilisrwydd y cyfansoddwr ar bob tudalen a gwnaeth y perfformiatl argraff ddofn ar y gynulleidfa.’

(Cerddoriaeth Cymru, Cyf.8, Rhif 2, Gwanwyn 1986, tud.10)

 

    Cyfansoddodd nifer o weithiau pwysig ar gyfer myfyrwyr cerdd CPC Aberystwyth yn ystod ei gyfnod fel athro cymrawd er anrhydedd – gresyn nad yw’r gweithiau hyn wedi cael gwell derbyniad. Ym 1971 cyfansoddodd osodiad o’r Offeren i leisiau cymysg ar gyfer Gŵyl Llanbadarn. Yma gwelir fod y cyfansoddwr yn barod i grynhoi llawer o elfennau ei gerddoriaeth ynghyd. Dyma gyfanwiath lliwgar ac ymwthiol gyda llinellau melodig onglog effeithiol. Dyma un o’i weithiau anoddaf o safbwynt perfformwyr, ond mewn acwsteg derbynniol dyma gyfanwaith sy’n argyhoeddu. Ceir defnydd o’r hen foddau eglwysig ond gydag amlinelliad o gyfwng y tritôn (y ‘diabolus in musica’). Tanlinellir adrannau homoffonaidd gan rythmau ymwthiol. Sylwer ar y modd yr adeiladwyd cordiau o'r bas i fynnu ac i lawr mewn dull sy'n creu patrwm gweledol ‘zig-zag’, ond sydd hefyd yn amlinellu melysder cyfwng y trydedd fwyaf (a leiaf) yn ogystal ag ehangder pedwarawdau a phumawdau. Gwneir hyn oil mewn dull sy’n awgrymu defod a dathlu crefyddol. Yn wir, pasiant crefyddol sydd yma – pasiant sydd hefyd yn adlewyrchu natur, teimladau a chredoau’r cyfansoddwr yn ystod ei gyfnod creadigol olaf.

    Daeth enw Mansel Thomas yn gyfarwydd iawn i fechgyn y corau meibion a’r bandiau pres, a hynny fel cyfansoddwr, arweinydd a beirniad. Fel yn achos Arwel Hughes gyda’i emyn-dôn Tydi a Roddaist (a’i drefniant o don ei frawd John, Arwelfa) cytlwynodd Mansel ei drefniant o Deus Salutis (Llef), emyn-dôn enwog G. H. Jones (1849-1911), i'r corau meibion, a galwyd ef yn ‘Thomas Amen’ am flynyddoedd wedi hynny. Bydd lle anrhydeddus i’w drefniannau o alawon gwerin ac emyn-donau (megis Rhydygroes i gôr meibion) yn y maes eisteddfodol ac ar lwyfannau neuaddau cyngerdd. Yn y trefniannau hyn dangosodd ei allu i drin alaw syml a throsglwyddo’r alaw honno o un llais i'r llall, a’r cyfan wedi ei danlinellu gan gyfeiliant pwrpasol. Yn wir, bu ei gyfeiliannau o gymorth mawr i gantorion amatur wrth ddysgu amryw o’i weithiau cynnar megis Coronach (1935-38) a The Triumph Song (1935-6). Gresyn na thalwyd mwy o sylw i amryw o’i weithiau diweddar megis ei osodiad o'r Gloria lle ceir amlinelliad o raddfa tonau cyfan mewn dull sy’n creu amwysedd cerddorol ac efallai ansicrwydd y cyfansoddwr wrth osod y geiriau. ‘Gebrauch’ yw llawer o’r gweithiau eraill megis y Fantasia on Famous Welsh Airs (1967) a’i gyfres o ddarnau effeithiol i gorau merched: If you see a Fairy Ring (1965-6); Moonbeams (1935-6); Songs of Enchantment (1965-6) a'r Song of Britain (1967). Dyma hefyd yw ei drefniannau o alawon poblogaidd ysgafn i gorau meibion megis Beautiful Dreamer ac Old Folks at Home (1983).

    Ar adegau by cyfansoddi cerddoriaeth i blant yn allweddol i waith amryw o gyfansoddwyr gorau Prydain ac Ewrop: meddylier am waith Maxwell Davies yn Cirencester, gweithiau corawl Britten ac amryw o ddarnau Lutoslawski o’r pumdegau. Hawdd yw dibrisio cerddoriaeth o’i fath. Dengys amryw o ddarnau piano Schumann fod modd i oedolion weld (neu ail-weld) byd plentyn (gweler y golgyfeydd o blentyndod e.e.). Gwelir elfen o’r ddawn yma yng nghwaith Mansel. Yn ôl rhai beirniaid cyfanwaith ansylweddol ffwrdd-a-hi yw Caneuon Grace a Siân (1943). Yn ôl eraill dyma glasur. Arddull hwiangerddi gwerin Cymru sydd yma a dengys y strwythur ‘macro’ fod twyll yn y caneuon hyn. Clymir y cylch gan gyfeiliannau sionc, effeithiol. Creodd y cyfansoddwr amwysedd nodweddiaol gydag ambell drawsgyweiriad annisgwyl (fel arfer o fewn dilyniant ac i fyny neu i lawr ton cyfan). Yn bwysicach, llwyddodd Mansel i greu cylch effeithiol sy’n frith o ffresni melodig. Yn ei ragair dywed Mansel,

 

‘cyfansoddwyd Caneuon Grace a Siân pan oedd wn yn lluoedd arfog ym Mrwsel ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Plantos bach oedd Grace a Siân, a chyfansoddais y caneuon i’w canu iddynt. Ni olyga hyn fodd bynnag eu bod yn rhy anodd i blant eu canu, a gobeithiaf y caiff llawer o blant bach fwynhad yn eu dysgu.’

 

    Detholiad o waith I. D. Hooson ac Eifion Wyn, gyda chyfieithiad Saesneg Iolo Davies, yw'r geiriau. Dengys y strwythur elfennau o undod themataidd yn ogystal ag amrywio deunydd elfennol. Sylwer hefyd mor gyfrwys y bu’r cyfansoddwr wrth greu undod, nid yn unig o fewn bob can unigol ond o gân i gân:

 

Caneuon (Cyfeiliant piano a llais, byddai telyn hefyd yn effeithiol):

 

1. Gyda’r Nos: Andante ¾ 26 mesur (crosiet = 66)

Arddull legato, cywair G fwyaf, llinellau esgynnol-ddisgynnol naturiol ond gyda siglo cywair effeithiol o D fwyaf i F fwyaf ac yn ôl.

2. Ceiliog Bach yr Wyddfa: Poco allegretto 2/4 crosiet = 104, 28 mesur.

Patrwm melodig ddisgynnol. Cyfeiliant llaw dde mewn treiadau. Cywair C fwyaf. “Scherzoso” cromatig i orffen.

3. Mae gen i ddafad gomiog: Con moto % (crosiet = 88), A leiaf. 48 mesur.

Elfen o hela’r sgwarnog yma. F llonnod – F naturiol – F llonnod yn creu amwysedd. 6 mesur olaf yn scherzoso A fwyaf.

4. Dau gi bach: Allegretto (crosiet = 104), E leiaf. 55 mesur.

Bywiog a sionc. Fel uchod peth amwysedd harmonig. Patrwm esgynnol-ddisgynnol. Newid amseriad i danlinellu’r geiriau. Un o’r caneuon mwyaf sylweddol ac yn dangos mentr yn rhan y pianydd.

5. Y Briallu: Piangevole (crosiet = 66), amseriad 2/4. C fwyaf, 32 mesur.

(Eifion Wyn) Y tueddiadau cromatig yn tanlinellu’r berthynas a thraddodiad lied. Sylwer ar natur Bartokaidd yr alaw (crwydro cyfyng).

6. Mynd i Lundain: Allegro Moderato. 2/4. 30 mesur, G fwyaf.

Patrwm melodig esgynnol-ddisgynnol ar y cyfan. Cyfeiliant tebyg i elfennau ail-adroddedig 4 Prayers from the Gaelic. Llais yn awgrymu elfennau deiatonig, y cyfeiliant yn awgrymu cywair arall.

7. Can Chwe Ceiniog: Allegro Moderato, 6/8 E fwyaf (piano) - E leiaf (llais), 45 mesur.

Ychwanegiadau cromatig. Elfennau o seithfedau feddalnod. Codetta accel. doniol ysgafn.

8. Pethau Tlws: Affetuoso (crosiet = 60). F fwyaf. 27 mesur

(Eifion Wyn) Syml gwerinol. alaw ‘siglo’.

9. Iar Fach: Giocoso (crosiet = 104). 2/4. 15 mesur, deiatonig gydag elfennau cromatig.

10. Dyn Doeth: Con moto (crosiet = 100), 6/8, A leiaf. 47 mesur.

Piano mewn wythawdau.

11. Ebol Melyn: Allegro e ritmico (crosiet = 116), 6/8, A fwyaf, 26 mesur.

Alaw onglog yn neidio o E i nodau eraill. Dai naws y geiriau i’r dim, deiatonig ar y cyfan gyda codetta i’r piano.

12. Y Gath Ddu: Espressivo e molto legato, 6/8, (crosiet = 66).

Cyferbyniad i’r uchod. yn troi o amgylch A fwyaf, cordiau neu treiadau syml gyda nodau ychwanegol, patrwm esgynnol-ddisgynnol, diweddglo ansicr ar E fwyaf seithfed, cyfeiliant syml.

 

    O’r uchod gellir edrych ar batrwm cyffredinol sy’n creu undod nodedig: rhagarweiniad a codetta byr i’r piano ym mron bob cân: patrwm pendant o raddio tempo a rhythm o un can i’r llall er mwyn creu cyferbyniad, ond hefyd er mwyn lliwio geiriau; cadw’r cyfeiliant a’r llais o fewn cyrraedd gallu plant ysgol ac oedolion; cerddoriaeth sy’n dilyn strwythur y penillion gwreiddiol (e.e. caneuon 1-4, 12 yn ddwyran a’r gweddill yn dilyn nifer y penillion neu’n ail-adrodd, gydag amrywiadau, cymalau melodig syml); cadw’r caneuon yn fyr er mwyn creu naws symal a hybu’r broses o gofio ymhlith yr ifanc; creu strwythur cyfrwys menol i’r cylch trwy ddefnyddio cyfyngau tebyg yng nghynnwys melodig bob cân, ac yn y blaen. Gresyn nad yw’r caneuon hyn yn fwy poblogaidd yng Nghymru, heb son am wledydd eraill lle mae marchnad barod i’r math yma o gerddoriaeth ‘tlws’ syml (ond eto, syml heb fod yn simplistig).

    Ymhlith eu ganeuon effeithiol eraill mae 3 Songs for Joanna (1964-66) i eiriau A. G. Prys Jones. Fel gyda Caneuon Grace a Siân dyma gylch sy’n haeddu gwell sylw y tu all i Gymru. Dangosodd ddiddordeb yn hanes y garol (fel gwnaeth Lutoslawski yng Ngwlad Pŵyl yn ystod y pum degau). Gweler (e.e.) ei garolau unsain The Holy Child a Carol for a New Born King (1964-66). Dichon fod un elfen sy’n gyfrifol am lwyddiant y math yma o gerddoriaeth yn achos Mansel, sef ei ymwybyddiaeth hanesyddol o natur y traddodiad llafar gwerinol. Ceir yr argraff mewn llawer o’i ganeuon syml (a’i garolau) fod yma ymwybyddiaeth (is-ymwybodol efallai) o greadigaethau llafar – creadigaethau megis y faled a’r garol oedd yn hwyluso’r addoliad, yn ysgafnu’r llafurio, neu’n diddanu’r cwmni a galluogi unigolion i ymuno yn yr hwyl. Yn wir, dyma un o’r paradocsau mawr sydd wrth wraidd gwaith Mansel Thomas. Ar yr un llaw dyma gerddor dawnus naturiol sy’n medru adleisio ac efelychu cerddoriaeth uchelael gorllewinol, ac ar y llaw arall dyma ŵr syml ei natur a aeth at wraidd traddodiadau gwerinol gwledydd y gorllewin gyda pharodrwydd twyllodrus. Yn fyr, dyma ŵr a oedd yn deall rhamant telynegol a synhwyrus ei gefndir. Y mae ysgrifennu ar gyfer plant yn anodd, ond deallodd Mansel y grefft honno heb ymdrech oherwydd roedd hynny’n rhan o’i gefndir.

    Os yw ei ganeuon i blant yn raenus, symudwn i fyd uchelael wrth drin a thrafod ei ganeuon eraill. Yn Bywyd (1940) ceir adlais clir o’r ddealldwriaeth arbennig o natur a naws geiriau’r bardd. Gyda’i osodiad o waith R. Williams Parry er cof am Hedd Wyn, Y Bardd, down at y gosodiad mwyaf sensitif o’r iaith Gymraeg gan unrhyw gyfansoddwr yn y cyfnod modern. Gyda Berwyn D. Vaughan Thomas dyma unawd all ddal ei thir ar unrhyw lwyfan cyngerdd. Ceir yma adlais o allu Ivor Gurney (e.e.) i gyfleu natur a naws geiriau mewn cerdoriaeth. Strwythur draean (A B A1) sydd i’r Bardd. Sylwer ar y modd y trawsnewidier yn y canol (o A i B ac o A fwyaf i D feddalnod fwyaf) mewn dull sy’n adleisio’r trawsnewid tebyg yn Silent Noon, yr unawd enwog o waith Vaughan Williams. Fel yn Berwyn ceir awgrym o symlrwydd gwerinol yn y cyfeiliant piano sy’n awgrymu telyn a llinynnau. Nid Victoriana gwan (neu ‘stale confectionary’ chwedl Bernard Shaw) yw’r defnydd a wneir o ambell cliché cromatig ond, yn hytrach, dull i drosglwyddo naturioldeb a naws cymalau hyblyg yr englynion. Dyma gampwaith bychan sy’n haeddu cymhariaeth gyda’r gorau yng ngwaith Gurney, Howells ac Ireland (e.e.) a sydd hefyd yn amlinelli elfen cryf o felancoli Celtaidd.

    O safbwynt arddull mae iaith gerddorol Gwyn ap Nudd (1963) yn gwy mentrus. Gosodiad o eiriau cyfarwydd Elfed sydd yma. Yn y rhythmau sionc fe geir adlais o Britten ar brydiau. Ysbrydolwyd Four Prayers from the Gaelic (1962) gan eiriau arwyddocaol yn ogystal â thechneg lleisiol Margaret Price. Ar lefel syml y mae'r bedair cân yn ymwneud a’r berthynas rhwng dyn a Duw (Thanks to thee, o God; Blessing for a House; Thou being of Marvels; a Bless to us, o God). Dengys y strwythur cyffredinol ymwybyddiaeth o draws-berthynas themataidd coeth. Ond o fewn i’r cynllun fe geir amrywiath mawr e.e. yn yr ail gân cyfleir yr ofn o bechod gan raddfa gromatig ddisgynnol (a chordiau cyfatebol uwchben). Mewn erthygl er cof am Mansel yn Taliesin, Hydref 1986) soniais am y caneuon fel hyn,

 

‘Dyma hagrwch hynafol sy’n llwyr argyhoeddu.

Dyma foderniaeth ynghyd a math o baganiaeth

Dyma hefyd ffydd syml yr unigolyn ...’

    Dyma gyfanwaith byr sy’n cyfuno’r hen a’r newydd mewn dull sy’n adleisio theori a hanes credoau traddodiadol. Nid dyma'r lie i droi at syniadaeth anthropolegwyr ac athronwyr strwythurol. Serch hynny mae’n werth nodi'r ddeuoliaeth rhwng dyn a Duw, crefydd a lien gwerin (ac yn y blaen), a chofio geiriau Vladimir Propp yn ei ddarlith enwog,

 

 ‘The old and the new can exist not only in a state of unresolved contradictions: they may also enter into hybrid formations.  Folklore and religious ideas are full of such hybrid formations ...’

(1946) Vladimir Propp: Theory and History of Folklore, Manchester 1984

 

    Dyma faes cymhleth, annelwig arall ...

    Ysgogwyd llawer o'i weithiau gorau gan gomisyinau Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyfansoddodd amryw gylchoedd o ganeuon a dichon fod lle teilwng i Mask of Pity, Welsh Heritage (1974), a Raiders Dawn (1975). Yn yr olaf (chwe cân i eiriau beirdd Eingl-Gymreig) ceir patrymau sonoristaidd yn rhan y piano (gyda dwy law y pianydd yn chwarae’n bell o’i gilydd ac yn arbrofi gydag effeithiau amrywiol allweddellol) ynghyd ag arbrofi gyda'r ‘timbre’ offerynnol a lleisiol.

    I'r corau a oedd yn gyfarwydd ag arddull ‘gebrauch’. Mansel daeth sioc o glywed ac o geisio dysgu’r newidiadau mewn arddull (ond datblygiad cwbl naturiol serch hynny) a welwyd yn ystod y chwe degau. Ceir adlais o’r datblygiad hyn mewn gweithiau fel y Gloria, Gwas y Goruchaf, Salm 150, Y Brenin Orchfygwr, Rise o my Soul ac And I Saw a New Heaven and a New Earth. Daeth sioc hefyd i fechgyn y bandiau pres wrth iddynt ymdopi a’i ddefnydd o aml-donyddiaeth mewn trefniannau megis Hob y Deri Dando (er fod Stravinsky wedi defnyddio technegau tebyg mor gynnar a 1909). Ond beth bynnag oedd adwaith corau a bandiau ni wyrodd Mansel o ddilyn ei weledigaeth bersonol. Arbrofodd yn weddol helaeth ond o fewn terfynnau pendant. Mewn bychan weithiau y cafwyd Mansel ar ei orau, ond mewn gweithiau megis ei Bumawd Piano a Cri'r Wylan (a sgrifennwyd ar gyfer Wynford Evans i ŵyl Mansel ei hun yn Llantilio Crosseney) dangosodd allu i ymdrin a ffurfiau mwy sylweddol.

    Yn y Requiem (ca. 1982) fe welir y cyfansoddwr yn crynhoi llawer o elfennau arddull ond yn wahanol i’r hyn a ddigwyddodd yn ei osodiad o’r Offeren, fe geir ymlacio myfyrgar. Yn yr ‘Introit’ a’r ‘In Paradisum’ ceir elfen o’r defod sydd mor bwysig yng ngwaith Messiaen a Tippett ond hefyd peth jazz ysgafn, a hyd yn oed cerddoriaeth ffilm cynnar mewn ambell ddilyniant harmonig. Ceir hefyd ymwybyddiaeth o ogoniant canu corawl syml. Crewyd naws ddefodol a lliniarwyd nghytgordau trwy ddefnyddio graddfa tonau cyfan (modd cyntaf Messiaen). Dichon y gellid twtio amryw o’r interliwtiau organ ond fe erys y cyfanwaith hwn fel recwiem bersonol y cyfansoddwr.

    Nid cyfansoddwr hanesyddol bwysig yn unig yw Mansel Thomas. Heb golli golwg ar ei wreiddiau cyflwynodd i’w genedl ac i gerddoriaeth Europeaidd gorff o waith creadigol pwysig. Nid oedd yn gyfansoddwr o’r rheng flaenaf ond dangosodd fod modd i gyfansoddwr o Gymru gymryd y gorau o'r diwylliant cerddorol gorllewinol a’i ddefnyddio i drosglwyddo meddylfryd sylfaenol ‘Gymreig’. Er iddo ymddeol o’i swydd yn y BBC flynyddoedd yn ôl bellach, y mae'n rhaid ei ystyried fel un o gatalyddion pwysicaf cerddoriaeth a diwylliant y Cymry yn ystod ail hanner y ganrif hon. Fel George Mackay Brown (y bardd o ynysoedd Erch) llwyddodd yn ei waith creadigol i’n tywys i fyd traddodiadau gwerinol ac i gyffwrdd yr hyn a alwyd gan Mackay Brown yn ‘profound, frightening mysterious energies’.

+44 (0)29 2063 5640 / enquiries@tycerdd.org / © 2018 Tŷ Cerdd

Tŷ Cerdd – Music Centre Wales yn sefydliad corfforedig elusennol, Rhif Cofrestru 1152853.

Tŷ Cerdd – Music Centre Wales is a Charitable Incorporated Organisation, Registration Number 1152853